Saladin
Saladin | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | يُوسُف أبن أيوب بن شاذي بن مروان بن يعقوب الدُويني التكريتي ![]() 1138 ![]() Tikrit ![]() |
Bu farw | 4 Mawrth 1193 ![]() o clefyd heintus ![]() Damascus ![]() |
Dinasyddiaeth | Abassiaid, Ayyubid Sultanate ![]() |
Galwedigaeth | person milwrol, military commander ![]() |
Swydd | Vizier of the Fatimid Caliphate, Sultan of Egypt, Sultan of Damascus, emir of Aleppo, emir of Kerak, emir ![]() |
Tad | Najm ad-Din Ayyub ![]() |
Mam | Sitt al-Mulk Khatun ![]() |
Priod | Ismat ad-Din Khatun ![]() |
Plant | Al-Afdal ibn Salah ad-Din, Al-Aziz Uthman, Az-Zahir Ghazi ![]() |
Perthnasau | Shirkuh ![]() |
Llinach | llinach Ayyubid ![]() |
Arweinydd Islamaidd o dras Cwrdaidd oedd Saladin, neu yn fwy cywir Salah al-Dīn Yusuf ibn Ayyub (Arabeg: صلاح الدين الأيوبي, Cwrdeg: Selah'edînê Eyubî neu سهلاحهدین ئهیوبی) (tua 1138 – 4 Mawrth, 1193).
Ganed Saladin i deulu Cwrdaidd yn Tikrit, Irac; roedd ei dad Najm ad-Din Ayyub, yn llywodraethwr Baalbek. Gyrrwyd ef i ddinas Damascus i orffen ei addysg, a bu yno am ddeng mlynedd yn llys Nur ad-Din (Nureddin). Bu ar ymgyrchoedd milwrol i'r Aifft gyda'i ewyrth, Shirkuh, yn erbyn y califfat Fatimaidd yno. Ar farwolaeth ei ewythr, daeth yn llywodraethwr (fisir) yr Aifft yn 1169. Ar farwolaeth Nur ad-Din yn 1174, cyhoeddodd ei hun yn Swltan a chymerodd feddiant o Ddamascus.
Bu'n ymladd yn erbyn lluoedd y teyrnasoedd Cristionogol oedd wedi eu sefydlu gan y Croesgadwyr, yn enwedig Teyrnas Jerusalem. Ei fuddugoliaeth fwyaf oedd Brwydr Hattin ar 4 Gorffennaf 1187, pan ddinistriodd fyddin y croesgadwyr yn llwyr. Cipiodd ddinas Jeriwsalem oddi wrthynt ar 2 Hydref, 1187.
Ymatebodd gwledydd Ewrop i hyn trwy drefnu'r Drydedd Groesgad, a bu llawer o ymladd rhwng Saladin a'r fyddin dan arweiniad Rhisiart Lewgalon. Yn 1192, gwnaed Cytundeb Ramla, oedd yn gadael Jeriwsalem yn nwylo'r Mwslimiaid ond yn rhoi hawl i Gristionogion fynd yno ar bererindod.
Bu farw Saladin yn ninas Damascus yn 1193, a chladdwyd ef ym Mosg yr Ummaiaid yno; gellir gweld ei fawsolewm o hyd.