Deuddeg Olympiad

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Y Deuddeg Olympiad neu'r Dodekatheon (Groeg: Δωδεκάθεον < δωδεκα, dodeka, "deuddeg" + θεον, theon, "o'r duwiau"), yw'r deuddeg prif dduw ym mytholeg Roeg, oedd yn trigo ar Fynydd Olympus.

Enw Groegaidd Enw Rhufeinig Delwedd Yn gyfrifol am ... Cenhedlaeth
Zeus Iau (Iuppiter)
Zeus.png
Brenin y duwiau, duw'r awyr a tharanau. Cyntaf
Hera Juno
Hera - Meyers.jpg
Brenhines y duwiau, duwies merched a phriodas. Cyntaf
Poseidon Neifion (Neptunus)
Poseidon MKL1888.png
Duw'r môr, daeargrynfeydd a cheffylau. Cyntaf
Demeter Ceres
Demeter MKL1888.png
Duwies ffrwythlondeb, amaeth, natur a'r tymhorau. Cyntaf
Hestia Vesta
Hestia-meyers.png
Duwies yr aelwyd a'r cartref. Cyntaf
Aphrodite Gwener (Venus)
Meyers b1 s0678 b1.png
Duwies cariad, harddwch, chwant a ffrwythlondeb. Ail
Apollo Apollo
Appolon 1 MK1888.png
Duw'r haul, iachau, cerddoriaeth, barddoniaeth a phroffwydoliaeth. Ail
Ares Mawrth (Mars)
Meyers b1 s0785 b1.png
Duw rhyfel. Ail
Artemis Diana
Meyers b1 s0880 b1.png
Duwies hela, gwyryfon a'r lleuad. Ail
Athena Minerva
Meyers b1 s1009 b1.png
Duwies doethineb, crefftau a strategaeth mewn rhyfel. Ail
Hephaestus Fwlcan (Vulcanus)
Hephaistos.png
Gof y duwiau; duw tân a'r efail. Ail
Hermes Mercher (Mercurius)
Hermes (Meyers).gif
Negesydd y duwiau, duw masnach, lladron a chyflymdra. Ail