Cleopatra

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cleopatra
Kleopatra-VII.-Altes-Museum-Berlin1.jpg
Ganwyd 0069 CC Edit this on Wikidata
Alexandria Edit this on Wikidata
Bu farw 12 Awst 0030 CC Edit this on Wikidata (Gweithredydd < annisgwyl oed)
Achos: gwenwyniad Edit this on Wikidata
Alexandria Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Yr Hen Aifft Edit this on Wikidata
Galwedigaeth brenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Swydd Pharo Edit this on Wikidata
Tad Ptolemi XII Auletes Edit this on Wikidata
Mam Cleopatra V of Egypt Edit this on Wikidata
Priod Marcus Antonius, Ptolemy XIV of Egypt, Ptolemi XIII Theos Philopator Edit this on Wikidata
Partner Iŵl Cesar Edit this on Wikidata
Plant Caesarion, Cleopatra Selene II, Alexander Helios, Ptolemy Philadelphus Edit this on Wikidata
Llinach Brenhinllin y Ptolemïaid Edit this on Wikidata
Mae hon yn erthygl am y frenhines adnabyddus o'r Hen Aifft. Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Cleopatra (gwahaniaethu).

Cleopatra Filopator Nea Thea, Cleopatra VII, mewn Groeg: Κλεοπάτρα Φιλοπάτωρ, (69 CC - 30 CC) oedd brenhines olaf yr Aifft o'r olaf o dŷ brenhinol y Ptolemiaid, a sefydlwyd gan Ptolemi I Sóter, un o gadfridogion Alecsander Fawr.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn ferch i Cleopatra V Trifena a Ptolemi XII Auletes, a daeth yn frenhines yn 51 C.C., yn 17 oed, ar y cyd a'i brawd (a ddaeth hefyd yn ŵr iddi) Ptolemi XIII, a oedd yn 12 oed ar y pryd. Teulu Groegaidd oedd y Ptolemiaid, a dywedir mai Cleopatra oedd y gyntaf o'i llinach i fedru Eiffteg.

Wedi teyrnasu am dair blynedd, gyrrodd Ptolemi ei chwaer o'r orsedd ar gyngor Pothinus ac Achillas, ac alltudiwyd hi i Syria. Ceisiodd Cleopatra adennill yr orsedd, ond ni lwyddodd nes i Iŵl Cesar gyrraedd dinas Alexandria yn 48 C.C.. Flwyddyn yn ddiweddarach lladdwyd Ptolemi wrth ymladd yn erbyn milwyr Cesar, a daeth Cleopatra yn frenhines. Priododd a brawd arall, 12 oed ar y pryd, a ddaeth yn Ptolemi XIV. Yn yr ymladd llosgwyd rhan fawr o Alexandria, yn cynnwys y llyfrgell enwog.

Pan ddychwelodd Cesar i Rufain, dilynodd Cleopatra ef yno, a bu'n byw gydag ef yno. Ganwyd mab iddynt, a enwyd yn Cesarion. Yn 44 C.C. llofruddiwyd Cesar, a dychwelodd Cleopatra a'i mab i'r Aifft. Dilynwyd llofruddiaeth Cesar gan ryfel cartref, gyda Marcus Antonius yn arwain pleidwyr Cesar yn erbyn y gweriniaethwyr oedd wedi bod a rhan yn ei lofruddio. Gofynnodd Antonius am gymorth gan Cleopatra, ond gwrthododd hi ymyrryd. Teithiodd Antonius i'r Aifft i'w chyfarfod yn 41 C.C., a syrthiodd y ddau mewn cariad. Penderfynodd Antonius aros yn yr Aifft am gyfnod, nes iddo gael ei orfodi i ddychwelyd i Rufain. Yn fuan wedyn ganwyd dau efaill i Cleopatra, Cleopatra Selene ac Alecsander Helios. Yn 36 C.C. teithiodd Antonius i'r dwyrain i ymladd yn erbyn y Parthiaid. Aeth Cleopatra gydag ef, a ganwyd eu trydydd plentyn, Ptolemi Filadelfos. Bu'r ymgyrch yn llwyddiant mawr, a dychwelodd y ddau i Alexandria.

Roedd perthynas Marcus Antonius gydag Octavianus (a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarach dan yr enw Augustus), ei frawd-yng-nghyfraith, wedi dirywio erbyn hyn, ac yn 32 C.C. aeth yn rhyfel rhwng Octavianus ac Antonius a Cleopatra. Ym Mrwydr Actium yn 31 C.C. gorchfygwyd llynges Cleopatra gan Octavianus, a lladdodd hi a Marcus Antonius eu hunain yn hytrach na chael eu cymryd i Rufain fel carcharorion.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]