Cicero

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gwleidydd, cyfreithiwr, athronydd ac awdur Rhufeinig oedd Marcus Tullius Cicero (3 Ionawr 106 CC – 7 Rhagfyr 43 CC).

Ganed Cicero yn Arpinum (Arpino heddiw), tua 100 km i'r de o Rufain. Roedd yn deulu yn uchelwyr lleol, gyda chysylltiad pell ag un arall o enwogion Arpinum, Gaius Marius,ond heb gysylltiad a'r teuluoedd seneddol. Bu'n astudio'r gyfraith dan Quintus Mucius Scaevola, a dywed Plutarch ei fod yn fyfyriwr eithriadol o alluog. Dechreuodd ei yrfa fel cyfreithiwr tua 83-81 CC; ei achos llys pwysig cyntaf oedd amddiffyn Sextus Roscius ar gyhuddiad o lofruddio ei dad. Ymhlith y bobl a gyhuddwyd gan Cicero fel y gwir lofruddion roedd Chrysogonus, ffefryn Lucius Cornelius Sulla oedd yn feistr Rhufain ar y pryd.

Yn 79 CC, aeth Cicero i Wlad Groeg, Asia Leiaf a Rhodos, a threuliodd amser yn astudio rhethreg dan Molon o Rhodos. Wedi dychwelyd i Rufain, fe'i hetholwyd yn quaestor yn 75 CC, gan wasanaethu yn Sicilia. Gofynnodd y Siciliaid iddo eu cynrychioli i erlyn Gaius Verres, llywodraethwr Sicilia oedd wedi ymgyfoethogi ar draul y wlad. Bu'r achos yn erbyn Verres yn 70 CC yn llwyddiant mawr i Cicero, a daeth yn enwog yn Rhufain.

Etholwyd ef yn gonswl yn 63 CC. Yn ystod ei gyfnod fel conswl, llwyddodd i ddatgelu cynllwyn gan gefnogwyr Lucius Sergius Catilina yn erbyn y wladwriaeth. Ffôdd Catilina pan draddododd Cicero araith yn ei erbyn yn y Senedd, a dienyddiwyd nifer o'i ganlynwyr.

Cicero yn ymosod ar Catilina yn Senedd Rhufain (ffresgo, 19eg ganrif)

Yn 61 CC gwahoddodd Iŵl Cesar ef i fod yn bedwerydd yn ei bartneriaeth gyda Gnaeus Pompeius Magnus a Marcus Licinius Crassus, ond gwrthododd Cicero. Yn 58 CC cyhoeddodd Publius Clodius Pulcher, tribwn y bobl, ddeddf yn alltudio unrhyw un oedd wedi dienyddio dinasyddion Rhufeinig heb eu rhoi ar brawf. Roedd Cicero wedi gwneud hyn adeg cynllwyn Catilina, a bu raid iddo adael am Wlad Groeg. Dychwelodd i Rufain yn 57 CC.

Amddiffynnodd Cicero Milo ar gyhuddiad o lofruddio, ac ystyrir ei araith Pro Milone yn un o'i gampweithiau. Er hynny, alltudiwyd Milo. Erbyn 50 CC roedd y berthynas rhwng Cesar a Pompeius wedi dirywio, a rhoddodd Cicero ei gefnogaeth i Pompeius. Yn y cyfnod wedi llofruddiaeth Cesar yn 44 CC, cyhoeddodd gyfres o ymosodiadau ar Marcus Antonius, y Philippicau.

Pan ddaeth Antonius ac Octavianus i gytundeb i rannu grym, cyhoddwyd enw Cicero ar restr o elynion. Daliwyd ef wrth iddo adael ei fila yn Formiae ar ei ffordd tua'r porthladd i geisio dianc, a lladdwyd ef.

Gwaith llenyddol[golygu]

Areithiau:

  • Pro Quinctio
  • Pro Roscio Amerino
  • Pro Roscio Comodeo
  • De lege agraria contra Rullum
  • In Verrem
  • De Imperio Cn. Pompei
  • Pro Caecina
  • Pro Cluentio
  • Pro Rabirio perduellionis reo
  • In Catilinam I-IV
  • Pro Murena
  • Pro Sulla
  • Pro Flacco
  • Pro Archia poeta
  • Post reditum in senatu
  • Post reditum in Quirites
  • De domo sua
  • De haruspicum responsis
  • Pro Cn. Plancio
  • Pro Sestio
  • In Vatinium
  • Pro Caelio
  • De provinciis consularibus
  • Pro Balbo
  • Pro Milone
  • In Pisonem
  • Pro Scauro
  • Pro Fonteio
  • Pro Rabirio Postumo
  • Pro Marcello
  • Pro Ligario
  • Pro rege Deiótaro
  • Philippicae quae dicuntur in M. Antonium orationes I–XIV

Rhethreg:

  • De inventione
  • De partitione oratoria
  • De optimo genere oratorum
  • Topica
  • Brutus
  • De oratore
  • Orator

Gweithiau athronyddol a gwleidyddol:

Epistolau:

Cerddi:

  • Arati Phaenomena (cerddi ar seryddiaeth)
  • Marius
  • De consulatu suo