Heraclitos

Oddi ar Wicipedia
Heraclitos
Ganwydc. 535 CC Edit this on Wikidata
Effesus Edit this on Wikidata
Bu farwc. 470s CC Edit this on Wikidata
o edema Edit this on Wikidata
Effesus Edit this on Wikidata
Man preswylEffesus Edit this on Wikidata
DinasyddiaethEffesus, Yr Ymerodraeth Achaemenaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, ysgrifennwr, ffisegydd Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadHippasus, Xenophanes Edit this on Wikidata
Mudiadathroniaeth cyn-Socratig, athroniaeth hynafol, athroniaeth y Gorllewin, Ionian School Edit this on Wikidata

Athronydd Groeg oedd Heraclitos (Groeg: Ἡράκλειτος ὁ Ἐφέσιος, Heraklit neu Heraclitus mewn rhai ieithoedd) (fl. 500 CC). Cafodd ei eni yn Effesus, Asia Leiaf, yn fab i bendefig lleol. Fe'i ystyrir weithiau'n Dad Metaffiseg.

Ysgrifennodd lyfr, Ynglŷn â Natur, ond dim ond darnau sydd wedi goroesi. Ei gysyniad enwocaf oedd fod pob dim mewn cyflwr cyfnewidiol ac mae Newid ei hun yw'r unig beth sy ddim yn newid: 'Ni ellwch roi eich troed yn yr un afon ddwywaith'. Mae popeth yn y bydysawd yn rhwym wrth y ddeddf sylfaenol hon, gan gynnwys y duwiau eu hunain.

Mae undod ymddangosiadol y bydysawd yn cuddio tensiwn deinamig rhwng grymusterau gwrthwynebol a reolir, mewn rhyw fodd neu'i gilydd, gan y 'Logos' ('Rheswm'). Prif fynegiant corfforol y 'Logos' yw Tân, sail y Greadigaeth i gyd. Tân (sef y 'Logos') yw'r enaid hefyd, sydd yr un y bôn â'r elfen sy'n creu, cynnal a dinistrio'r bydysawd oll. Credai y byddai eneidiau da yn ymuno â'r 'Logos' ar ôl marwolaeth y corff.

Tywyll iawn ac agored i sawl darlleniad yw ei ddywediadau. Mae Diogenes Laertius yn ei lyfr Bucheddau'r Athronwyr yn cofnodi stori am y dramodydd Groeg Ewripedes yn rhoi copi o lyfr Heraclitus i Socrates. Gofynnodd iddo wedyn beth oedd yn meddwl ohono. Atebodd, "Mae'r hyn a ddeallais yn wych; ac dwi'n meddwl fod yr hyn na ddeallais yn wych hefyd - ond buasai angen plymiwr o Ddelos i gyrraedd ei waelod!" (roedd pysgotwyr perlau ynys Delos yn enwog am eu gallu i blymio'n ddyfnach na neb arall i'r môr).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Jonathan Barnes (gol.), Early Greek Philosophy (Penguin, 1987), pennod 8: Heraclitus.