Thales

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thales
Illustrerad Verldshistoria band I Ill 107.jpg
Ganwyd c. 0623 CC Edit this on Wikidata
Miletus Edit this on Wikidata
Bu farw c. 0546 CC Edit this on Wikidata (0 oed)
Achos: Trawiad gwres Edit this on Wikidata
Miletus Edit this on Wikidata
Man preswyl Miletus Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Mathemategydd, athronydd, seryddwr, ffisegydd, peiriannydd Edit this on Wikidata
Mudiad Pre-Socratic philosophy, Milesian school, Seven Sages of Greece Edit this on Wikidata
Tad Examyas Edit this on Wikidata
Mam Сleobuline Edit this on Wikidata

Athronydd Groegaidd hynafol oedd Thales a sefydlodd yr ysgol Ïoniaidd.

Brodor ydoedd o Miletus, yn Asia Leiaf, a blodeuoedd yn y 6g CC. Ychydig iawn a wyddys am amgylchiadau ei fywyd. Mynegir ei fod wedi cynghori yr Ïoniaid, y rhai a fygythid gan y Persiaid i ffurfio cynghrair yn erbyn eu gelyn grymus, ac i wneud Teos yn brifddinas. Mewn cyfnod diweddarach, dywedir ei fod wedi perswadio'r Milesiaid i dynnu yn ôl o gynghrair oedd rhyngddynt â'r brenin Croesus i wrthwynebu Cyrus Fawr. Mynegir hefyd iddo ragfynegi'r diffyg a fu ar yr haul yn nheyrnasiad Alyattes.

Yn ôl traddodiad yr hen Roegiaid, un o'r Saith Gŵr Doeth oedd Thales. Yr hyn a roddodd iddo hawl i'r teitl hwnnw oedd ei ddoethindeb anarferol, yn hytrach nag unrhyw orchestion damcaniaethol. Er hynny, y mae iddo enw uchel yn hanes athroniaeth damcaniaethol. Ystyria rhai ef fel y Groegwr cyntaf a ffurfiodd ddamcaniaeth ar gyfansoddiad y greadigaeth. Yn ôl ei ddamcaniaeth, yr egwyddor wreiddiol o bob peth ydyw dŵr: o'r hwn y deilliai pob peth, a dychwelai pob peth yn ddŵr eilwaith. Mae yn dra thebygol taw ffurf o holldduwiaeth o ryw fath oedd ei athroniaeth ef. Nid ysgrifenodd ei ddamcaniaethau, ac nis gellir cael un syniad am nodwedd ei athrawiaeth, ond a ellir ei gasglu oddi wrth yr hyn a ddywedir amdano gan Roegwyr diweddarach megis Herodotus ac Aristoteles.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.