Trawiad gwres

Oddi ar Wicipedia
Trawiad gwres
Mathgorwres, trawiad gwres Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Math o salwch gwres difrifol yw trawiad gwres, a elwir hefyd yn drawiad haul, ac mae'n achosi i dymheredd y corff gynyddu i dros 40.0 °C (104.0 °F), gall ddioddefwyr deimlo'n ddryslyd o ganlyniad i'r cyflwr.[1] Achosa symptomau eraill hefyd, er enghraifft croen coch, sych neu laith, cur pen a phenysgafnder. Mae modd i'r cyflwr ddatblygu'n raddol neu'n sydyn. Mewn achosion eithafol gall arwain at gymhlethdodau difrifol fel strôc, rhabdomyolysis, neu fethiant yr arennau.

Achosir trawiad gwres gan dymereddau allanol uchel neu orweithio corfforol.[2] Mae ffactorau risg yn cynnwys poethdonnau a lleithder uchel; defnyddio rhai cyffuriau megis diwretigion, beta-atalyddion, neu alcohol; clefyd y galon, ac anhwylderau croen. Mewn achosion nad sy'n gysylltiedig â gorymarfer corfforol, y mae'r cyflwr fel arfer yn taro’r rheini sy'n hŷn neu â phroblemau iechyd hirdymor. Rhoddir diagnosis ar sail symptomau. Math o hyperthermia (gorwres) yw trawiad gwres. Mae'n wahanol i dwymyn sy'n achosi cynnydd ffisiolegol yn y pwynt gosod tymheredd.

Gellir osgoi'r cyflwr drwy yfed digon o hylif a chysgodi o wres allanol gormodol.[3] Wrth drin y cyflwr rhaid oeri'r corff yn gyflym. Argymhellir defnyddio dulliau megis chwistrellu'r dioddefwr â dŵr, defnyddio gwyntyll, gosod yr unigolyn mewn dŵr ag iâ, neu gynnig hylifau mewnwythiennol oer. Er bod gosod pecynnau iâ ar yr unigolyn yn synhwyrol, ni argymhellir defnyddio'r dull hwnnw'n unig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Warning Signs and Symptoms of Heat-Related Illness". www.cdc.gov (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar Gorffennaf 13, 2017. Cyrchwyd Gorffennaf 17, 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Gaudio, FG; Grissom, CK (April 2016). "Cooling Methods in Heat Stroke.". The Journal of emergency medicine 50 (4): 607–16. doi:10.1016/j.jemermed.2015.09.014. PMID 26525947.
  3. "Tips for Preventing Heat-Related Illness|Extreme Heat". www.cdc.gov (yn Saesneg). Mehefin 19, 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Gorffennaf 29, 2017. Cyrchwyd Gorffennaf 17, 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)