Rolant

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rolant
HB 2016-0607 photo03 Bremer Roland.jpg
Ganwyd 736 Edit this on Wikidata
Bu farw 15 Awst 0778 Edit this on Wikidata (42 oed)
Achos: lladdwyd mewn brwydr Edit this on Wikidata
Ronsyfal Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Francia Edit this on Wikidata
Galwedigaeth marchog Edit this on Wikidata
Swydd Q105725298 Edit this on Wikidata

Uchelwr a milwr Ffrancaidd, un o gadfridogion Siarlymaen a chymeriad yn llenyddiaeth y Canol Oesoedd oedd Rolant (bu farw 15 Awst 778) (Ffrangeg: Roland, Ffranceg: Hruodland). Ef yw arwr y gerdd ganoloesol La chanson de Roland.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd y Rolant hanesyddol yn un o'r paladiniaid, y milwyr oedd agosaf at y brenin, ac yn dal y swydd o lywodraethwr Mers Llydaw. Ar 15 Awst 778, ef oedd pennaeth ôl-fyddin Siarlymaen, oedd yn dychwelyd dros y Pyreneau o Sbaen i Ffrainc. Pan oeddynt yn mynd trwy Fwlch Ronsyfal, ymosodwyd arnynt gan lu y Basgiaid, a lladdwyd Rolant a'i wŷr ym Mrwydr Ronsyfal.

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Tyfodd chwedloniaeth o gylch y digwyddiad yn ystod y Canol Oesoedd, a chymerwyd lle'r Basgiaid gan y Mwslimiaid, gan droi'r stori yn un am frwydr rhwng Cristionogion a dilynwyr Islam. Yn y chwedlau hyn, daeth Rolant yn gawr, a adawodd ei olion yma ac acw yn y Pyreneau.

Daeth y chwedlau am Siarlymaen a Rolant yn boblogaidd trwy Ewrop, ac fe'i cyfeithwyd i't Gymraeg fel Ystorya de Carolo Magno.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]