Thomas Rowland Hughes

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth T Rowland Hughes)
Thomas Rowland Hughes
Ganwyd17 Ebrill 1903 Edit this on Wikidata
Llanberis Edit this on Wikidata
Bu farw24 Hydref 1949 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata

Nofelydd, dramodydd a bardd oedd Thomas Rowland Hughes neu T. Rowland Hughes (17 Ebrill 190324 Hydref 1949). Roedd yn fab i chwarelwr o Lanberis, yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw), gogledd Cymru. Mae'n adnabyddus heddiw yn bennaf am ei nofelau am gymeriadau yn byw ac yn gweithio yn chwareli llechi y gogledd, ond yn ei ddydd yr oedd yn cael ei edmygu fel bardd yn ogystal. William Jones yw ei nofel enwocaf.

Ei fywyd[golygu | golygu cod]

Cafodd radd dosbarth cyntaf mewn Saesneg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor, ac astudiodd hefyd yng Ngholeg Yr Iesu, Rhydychen. Ei swydd bwysicaf oedd fel cynhyrchydd gyda'r BBC yng Nghaerdydd. Ac yntau yn ei dridegau dechreuodd ddioddef o'r clefyd calediad amryfal a adwaenir fel 'MS'. Yn naturiol aeth i ddioddef o iselder ysbryd ac aeth ati i ysgrifennu a dyma pryd y cynhyrchwyd ei nofelau enwog.

Fel bardd y daeth i enwogrwydd gyntaf, trwy ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1937 am ei awdl "Y Ffin", ac eto am "Pererinion" yn yr Eisteddfod Genedlaethol a ddarlledwyd ar y radio yn 1940.[1] Nid oedd ei unig gyfrol o farddoniaeth, Cân neu Ddwy (1948), er ei phoblogrwydd, yn ddigon arbennig i'w osod ymhlith beirdd mwyaf yr 20g.

Mae ei emyn "Tydi a Roddaist" wedi bod yn hynod o boblogaidd.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

Nofelau[golygu | golygu cod]

  • O Law i Law (Llundain, 1943); wedi'i gyfieithu i'r Saesneg fel From Hand to Hand gan Richard C. Ruck (Llundain, 1950); talfyriad ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg gan Basil Davies (Gwasg Gomer, 1984)
  • William Jones (1944); wedi'i gyfieithu i'r Saesneg gan Richard C. Ruck (Aberystwyth, 1953); talfyriad ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg gan Basil Davies (Gwasg Gomer, 1986)
  • Yr Ogof (Gwasg Aberystwyth, 1945)
  • Chwalfa (Gwasg Aberystwyth, 1946)
  • Y Cychwyn (Gwasg Aberystwyth, 1947); wedi'i gyfieithu i'r Saesneg fel The Beginning gan Richard C. Ruck (Gwasg Gomer, 1969)

Dramâu[golygu | golygu cod]

  • Y Ffordd (Caerdydd, 1945)
  • John Frost, The Newport Chartist (1936) a Daughters of Rebecca (1937 dau ddrama radio Saesneg ar y BBC a ysgrifennodd ar y cyd gyda Gwilym Prichard Ambrose, Prifathro Coleg Hyfforddi Sir Fynwy [2]

I blant[golygu | golygu cod]

  • Storïau Mawr y Byd (Gwasg Aberystwyth, 1936)

Astudiaethau[golygu | golygu cod]

  • Edward Rees, Cofiant: T. Rowland Hughes (Gwasg Gomer, 1968)
  • John Rowlands, T. Rowland Hughes, Cyfres Writers of Wales (Caerdydd, 1975)
  • W. Gwyn Lewis (gol.), Bro a Bywyd: T. Rowland Hughes 1903-1949 (Cyhoeddiadau Barddas, 1990)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. D. Ben Rees "Pymtheg o Wŷr Llên yr Ugeinfed Ganrif"
  2. "Gwilym Prichard Ambrose, B.A. (Wales), M.A., B.Litt. (Oxon.), L.R.A.M. Headmaster, Aberdare Boys' County School, 1940 – 1952". Gwefan Abderdare Boys Grammar School. Cyrchwyd 2022-02-14.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]