Neidio i'r cynnwys

Coleg Hyfforddi Sir Fynwy

Oddi ar Wicipedia
Coleg Hyfforddi Sir Fynwy
Sefydlwyd
  • 1914 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCaerllion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Edward Anwyl, Prifathro cyntaf y Coleg

Roedd Coleg Hyfforddi Sir Fynwy (hefyd Coleg Addysg Caerllion, Coleg Hyfforddi Caerllion) yn goleg ar gyfer hyfforddi athrawon gwrywaidd a leolwyd yng Nghaerllion. Ar lafar galwyd y lle yn Coleg Caerllion.

Sefydlwyd y Coleg Hyfforddi ar dir a brynwyd gan yr Alderman Parry ac a werthwyd i'r Pwyllgor Addysg. Gosodwyd y garreg sylfaen ar 12 Gorffennaf 1913 Prifathro cyntaf y Coleg oedd Syr Edward Anwyl ond bu farw yn 1914, cyn i'r Coleg agor ac fe'i ddilynwyd gan Ivor Bertram John. Oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf bu cwymp yn nifer y myfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf o'r 56 disgwyliadwy, i ddeunaw.

Derbyniwyd menywod i'r Coleg yn 1962, fel ag y derbyniwyd dynion i chwaer sefydliad y Coleg, Coleg Hyfforddi Morgannwg yn y Barri.[1]

Yn 1975 unwyd y Coleg gyda sefydliadau lleol eraill; Coleg Celf Casnewydd a Coleg Technoleg Gwent, i greu Coleg Addysg Uwch Gwent (Gwent College of Higher Education).[1]

Caeodd y campws ar 31 Gorffennaf 2016.[2]

Prif Athrawon

[golygu | golygu cod]
Syr Edward Anwyl 1913-1914
Ivor Bertram John 1914-1937
John Owen 1937-1944
Thomas John Webley 1944-1952 - Dirprwy Brifathro a weithredai fel Prifathro
Gwilym Prichard Ambrose 1952-1970 - awdur 'The History of Wales' (1947), yn seiliedig ar ei wersi hanes Cymru a gyhoeddwyd maes o law. Bu hefyd yn awdur dwy ddrama radio gyda'r bardd T. Rowland Hughes ar y BBC; "John Frost, The Newport Chartist" (1936) a “Daughters of Rebecca” (1937) [3]
Harold Edwards 1970 - nes creu Coleg Addysg Uwch Gwent yn 1975

Adeilad

[golygu | golygu cod]
Adeilad blaen y Coleg Hyfforddi, a arbedwyd rhag datblygwyr

Lleolir cyn gampws Prifysgol De Cymru yng Nghaerllion. Caeodd y campws ar 31 Gorffennaf 2016. Y campws oedd prif gampws Prifysgol Cymru, Casnewydd ac ail gampws mwyaf Prifysgol De Cymru ar ôl uno prifysgolion yn 2013. Cynhaliodd amrywiaeth o gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig, gan gynnwys addysg, chwaraeon a ffotograffiaeth. Roedd gan y campws gyfleusterau chwaraeon helaeth, llyfrgell, siop undeb y myfyrwyr, bar undeb y myfyrwyr a blociau llety.

Yn ystod mis Medi 2014, cyhoeddodd Prifysgol De Cymru y byddai campws Caerllion yn cau yn 2016[4] gyda chyrsiau'n cael eu hintegreiddio i weddill y campysau. Mae'r Brifysgol yn bwriadu gwerthu'r campws ar gyfer datblygu tai ond mae gwrthwynebiad cryf i'r ailddatblygiad arfaethedig gan drigolion lleol.[5] Mae Cymdeithas Ddinesig Caerllion wedi gofyn i Cadw, y corff sy'n gofalu am henebion ac adeiladau hanesyddol yng Nghymru, roi statws Adeilad Rhestredig Gradd II i'r prif adeilad Edwardaidd er mwyn ei arbed rhag cael ei ddymchwel.[6] Ym mis Awst 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw'n argymell bod y prif adeilad, y porthdai, a phileri'r gatiau yn cael eu rhestru fel 'adeiladau o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig'. Mynegodd Prifysgol De Cymru eu gwrthwynebiad parhaus i'r rhestru arfaethedig ond croesawyd y cyhoeddiad gan wleidyddion lleol a Chymdeithas Ddinesig Caerllion.[7] Cadarnhawyd rhestriad Gradd II o'r Prif Adeilad, Preswylfa'r Pennaeth, Pierau Giât a Phorthdy'r Gofalwr / Garddwr ar 3 Mawrth 2017.[8]

Chwaer Sefydliad

[golygu | golygu cod]

Chwaer sefydliad Coleg Hyfforddi Caerllion (oedd ar gyfer dynion yn wreiddiol) oedd Coleg Hyfforddi Morgannwg oedd ar gyfer hyfforddi athrawon benywaidd, a agorodd, fel coleg y Barri, yn 1914. Yn 1962 derbyniodd y ddau goleg myfyrwyr o'r ddau ryw. Daeth Coleg Hyfforddi Morgannwg, maes o law, yn rhan o Politechneg Pontypridd, a ddaeth ei hun yn graidd goleg ar gyfer Brifysgol De Cymru.[9]

Neuaddau Preswyl

[golygu | golygu cod]

Caed sawl neuadd breswyl yn y Coleg gan gynnwys Adeilad Edward Anwyl. Enwau ar goridorau megis Little Moscow, Rhondda, ac Upper Bogs.[1]

Cyn-fyfyrwyr

[golygu | golygu cod]
  • Leighton Jenkins - Chwaraeodd un o fyfyrwyr y Coleg dros dîm rygbi Cymru. Roedd Leighton yn gapten tîm rygbi'r Coleg ac enillodd sawl cap i Gymru, yn cyntaf yn 1956 yn erbyn Iwerddon.[1]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Memories from the archive - Caerleon Campus". Prifysgol De Cymru. 2016-04-22.
  2. "Campus changes". University of South Wales Campus Changes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 8 Mai 2015.
  3. "Gwilym Prichard Ambrose, B.A. (Wales), M.A., B.Litt. (Oxon.), L.R.A.M. Headmaster, Aberdare Boys' County School, 1940 – 1952". Gwefan Abderdare Boys Grammar School. Cyrchwyd 2022-02-14.
  4. "Campus changes". University of South Wales Campus Changes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 8 Mai 2015.
  5. "Campus Changes". Cyrchwyd 18 April 2016.
  6. "Open Letter". Cyrchwyd 2 June 2016.
  7. "Lifeline for part of Caerleon Campus after minister says building should be listed". Cyrchwyd 8 August 2016.
  8. "Historic Caerleon college campus given listed status by Cadw". South Wales Argus. Cyrchwyd 4 March 2017.
  9. "Ein Hanes". Gwefan Prifysgol De Cymru. Cyrchwyd 2022-02-14.