Neidio i'r cynnwys

Thomas Rowland Hughes

Oddi ar Wicipedia
Thomas Rowland Hughes
T Rowland Hughes gan David Bell - Amgueddfa Cymru
Ganwyd17 Ebrill 1903 Edit this on Wikidata
Llanberis Edit this on Wikidata
Bu farw24 Hydref 1949 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, cynhyrchydd radio Edit this on Wikidata

Nofelydd, dramodydd a bardd oedd Thomas Rowland Hughes neu T. Rowland Hughes (17 Ebrill 190324 Hydref 1949).[1] Fe'i cofir yn bennaf heddiw am ei nofelau,[2] y rhan fwyaf ohonynt yn portreadu bro chwareli llechi y gogledd; ef oedd nofelydd Cymraeg mwyaf poblogaidd ei oes.[1]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Hyd 1920: Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Hughes yn 20 Goodman Street, Llanberis,[3] Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw). Roedd yn fab i William Rowland Hughes, chwarelwr, a'i wraig Mary. Bedyddwyr selog oedd y teulu, gyda William Hughes yn flaenor yng nghapel Seion, a phan yn ifanc symudodd y teulu i fyw i dŷ o'r enw "Angorfa" oedd drws nesaf i'r capel.

Wedi derbyn addysg gynradd yn lleol, derbyniodd ysgoloriaeth i Ysgol Brynrefail; taith o ddwy filltir bob ffordd. Roedd yn ddisgybl ysgol digon cyffredin yn ôl ei gofianydd ac ni ddangosodd rhyw lawer o addewid yn y cyfnod.[4] Fodd bynnag, pan yn yr ysgol cyflwynwyd ef i waith y bardd R. Williams Parry, sef hoff fardd Hughes am weddill ei fywyd. Mewn rhaglen radio ar y bardd a gynhyrchodd Hughes yn ddiweddarach yn ei fywyd, mae'n disgrifio sut y bu iddo yntau orfod copio allan Englynion Coffa Hedd Wyn fel cosb, ac iddynt greu argraff ddofn arno.[5]

1920-26: Myfyriwr ym Mangor

[golygu | golygu cod]

Serch hynny roedd ganddo fwy o ddiddordeb mewn llenyddiaeth Saesneg na Chymraeg, a chafodd le i astudio Saesneg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor, gan ddechrau yno yn 1920. Cwrs pum mlynedd oedd y rhaglen yr oedd yn ei ddilyn, gyda blwyddyn o ymarfer dysgu. Astudiodd y clasuron, athroniaeth a llenyddiaeth Gymraeg hefyd fel rhan o'r cwrs, ac yn ystod ei gyfnod ym Mangor derbyniodd addysg gan John Morris-Jones, Ifor Williams a'i eilun, R. Williams Parry, pan ymunodd hwnnw â'r adran yn 1921.[6]

Yn ôl ei gofiannydd Edward Rees, fu'n gyd-myfyriwr ag ef ym Mangor, ymrwymodd Hughes bron yn gyfangwbl i'w astudiaethau yn ystod ei flynyddoedd cyntaf ym Mangor ac ychydig iawn oedd ei ddiddordeb ar y pryd mewn gweithgareddau allgyrsiol neu wleidyddol; er ei fod yn cofio iddo fynd at y llenor Eingl-Gymreig Caradoc Evans a'i herio mewn tafarn am ei bortreadau negyddol o'r Cymry.[7] Ei brif diddordebau llenyddol, yn ogystal ag R. Williams Parry, oedd Shakespeare, John Donne a John Keats;[8] dywedodd hefyd fod gwaith Dafydd ap Gwilym,[9] gwaith Ceiriog, cerdd T. Gwynn Jones Ymadawiad Arthur a nofel Daniel Owen Rhys Lewis wedi creu argraff arno.[5]

Yn ystod ei flynyddoedd olaf yn y coleg ymdaflodd ei hun fwyfwy i fywyd cyhoeddus y brifysgol, gan ddod yn llywydd undeb y myfyrwyr yn ei flwyddyn olaf, ac ymrwymo hefyd i'r Gymdeithas Ddrama Gymraeg (fel ysgrifennydd yn bennaf, ond actiodd hefyd) lle daeth i gysylltiad â J. Gwilym Jones. Ymhlith cynhyrchiadau'r gymdeithas hon yn y cyfnod roedd dramau gan R. G. Berry a J. O. Francis[10] a Tŷ Dol, cyfieithiad Ifor Williams o ddrama Ibsen.[11] Cyhoeddodd gerddi yn Saesneg a Chymraeg yng nghylchgrawn y brifysgol.[12] Roedd bellach yn dymuno ymenwogi fel llenor o ryw fath, er nad oedd eto'n glir ym mha gyfrwng nac iaith.[13]

1926-1935: Aberdâr, Rhydychen, Harlech a Llundain

[golygu | golygu cod]

Derbyniodd radd dosbarth cyntaf o Fangor a chael swydd fel athro Saesneg a Chymraeg yn Aberdâr ym Medi 1926.[1] Ystyriwyd hyn ar y pryd fel cam angenrheidiol ar gyfer cymhwyso yn ysgolhaig, a phrin mewn gwirionedd oedd ei ddiddordeb mewn dysgu plant, yn enwedig y rhai ifanc.[14] Bu yn Aberdâr am gyfnod o ddwy flynedd, gan ddod i gysylltiad yno â'r gymuned Gymraeg lleol, gan gynnwys y nofelydd Kate Roberts; aeth ar daith gyda hi i Lundain i weld perfformio dramâu Henrik Ibsen ac Anton Chekhov.[15]

Tra yn Aberdâr cwblhaodd draethawd M.A. ar farddoniaeth Saesneg,[16] ac ar sail hwn a chymrodoriaeth o Fangor derbyniwyd ef i astudio gradd ymchwil B. Litt yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, lle bu'n ymchwilio i lenyddiaeth gyfnodol Saesneg yr 19g.[17][1] Ni fwynhaodd ei gyfnod yn Rhydychen: roedd yn gas ganddo ffurfioldeb y lle a'r ffaith nad oeddynt yn cydnabod ei astudiaethau ym Mangor (ystyriwyd ef yn fyfyriwr israddedig yno).[18] Fodd bynnag, ymaelododd â Chymdeithas Dafydd ap Gwilym[19] a thrwy'r sefydliad hwnnw daeth i gysylltiad ag E. Tegla Davies, fyddai'n ddylanwad bwysig arno.[20] Tra'r oedd yn Rhydychen ymddangosodd cerddi o'i eiddo yn Y Llenor ac erthyglau yn Y Traethodydd.[21] Yn Rhydychen hefyd cyfarfu ag Eirene Williams, oedd yn wreiddiol o Gwm Ogwr, fyddai'n dod yn wraig iddo'n ddiweddarach.[1]

Ar ôl gadael Rhydychen yn 1930 cafodd swydd fel darlithydd Cymraeg a Saesneg yng Ngholeg Harlech,[22] lle arhosodd ef ag Eirene, a gafodd swydd yn lleol gyda'r Urdd, hyd 1933. Priododd y ddau y flwyddyn honno.[23] Chwarelwyr oedd nifer o'i fyfyrwyr yn y coleg a byddai'n trafod a chasglu eu profiadau a'u straeon am gymeriadau'r chwareli.[24] Cyfrannodd erthyglau, barddoniaeth ac adolygiadau i gyfnodolion a phapurau, ac thra'r oedd yn Harlech darllenodd am y tro cyntaf straeon Richard Hughes Williams am fywyd y chwareli, gan ysgrifennu amdanynt yn Yr Efrydydd.[25]

Yn Harlech roedd Hughes pan ddaeth i gysylltiad am y tro cyntaf gyda'r BBC, pan wahoddwyd ef i ysgrifennu rhaglenni yn y Gymraeg ar gyfer y radio. Roedd y rhain ymysg y rhaglenni radio cynharaf yn yr iaith Gymraeg. Ei raglen gyntaf oedd Yr Hogyn Drwg, drama un-act yn seiliedig ar un o straeon Richard Hughes Williams.[26] Ymhen dim roedd yn ysgrifennu'n rheolaidd ar gyfer y radio; ymysg y rhaglenni y paratodd oedd cyfres o raglenni i blant ar straeon enwog o fytholeg amryw wledydd; cyhoeddwyd y rhain ar ffurf llyfr yn 1936 fel Storiau Mawr y Byd, ei lyfr cyntaf.[27] Daliodd i ysgrifennu'n gyson i'r BBC tra'r oedd yn Harlech a pharhau i wneud pan symudodd eto o 1933-35 i fyw yn Llundain a dod yn Warden y Mary Ward Institute, coleg addysg i oedolion. Roedd yn casáu'r swydd hon fodd bynnag, ac ymddiswyddodd yn 1935. Ar y pryd roedd yn dal i ddymuno dilyn gyrfa academaidd. Fodd bynnag, rhoddodd cyswllt iddo yn y BBC wybod bod y gorfforaeth yn bwriadu cyflogi nifer o Gymry, a derbyniwyd Hughes i swydd llawn amser yng Nghaerdydd, ar gyflog o £500 y flwyddyn, yn gweithio fel cynhyrchydd.[28]

1935-1937: Cynhyrchydd Radio a Phrifardd

[golygu | golygu cod]

Bu'r BBC yn araf iawn i ddarparu rhaglenni rheolaidd yn y Gymraeg: er yr agorodd swyddfa'r gorfforaeth yng Nghaerdydd mor gynnar â 1923, aeth naw mlynedd heibio cyn penodi Cymro Cymraeg i'r staff. Fodd bynnag roedd Hughes yn un o saith penodiad a wnaethpwyd yn 1935 i ehangu rhaglenni Cymraeg a Chymreig y sefydliad.[29] Yn rhinwedd ei swydd fel cynhyrchydd roedd Hughes yn eithriadol o gynhyrchiol ym mlynyddoedd cynnar sefydliad Cymreig y gorfforaeth. Er mai cynhyrchu rhaglenni nodwedd oedd ei swydd wreiddiol ymestynnwyd hyn yn fuan i gynhyrchu dramâu hefyd gan nad oedd pennaeth drama parhaol. Mae teitlau'r rhaglenni'n rhoi blas o'i gynnyrch: Ynys Enlli, Ogmore Vale, Rhowch Galennig, rhifyn cyntaf Noson Lawen, a Daughters of Rebecca. Hughes oedd y cyfarwyddwr pan ddarlledwyd ddrama radio Saunders Lewis Buchedd Garmon,[30] ac ar gynhyrchiad radio o ffilm Paul Robeson The Proud Valley. Yn 1936 buddsoddwyd mewn fan recordio a byddai Hughes yn defnyddio hwn i deithio ar hyd a lled Cymru i recordio a darlledu.[31] Ysgrifennodd hefyd lawer o'r deunydd, gan gynnwys dramâu.

Daeth i amlygrwydd cyhoeddus yn 1937 pan enillodd y Gadair ym Machynlleth am ei awdl Y Ffin. Buddugoliaeth braidd yn annisgwyl oedd hon: er bod ambell gerdd o eiddo Hughes wedi'u cyhoeddi mewn cyfnodolion fel Y Llenor a Tir Newydd ychydig iawn o broffil oedd ganddo fel bardd ar y pryd; meddai Prosser Rhys: "[aeth] y gadair yn wir i ŵr nad oedd wedi dyfod i ddim amlygrwydd o gwbl fel bardd."[32] Nododd serch hynny bod i'r awdl "geinder a miwsig amheuthun."[32]

1937-1942: Gwaeledd Cynyddol

[golygu | golygu cod]

Yn 1937 roedd gyrfa Hughes ar ei anterth; fodd bynnag tua diwedd y flwyddyn honno gwelwyd arwyddion cyntaf yr afiechyd a fyddai'n rhoi pen ar ei oes yn gymharol ifanc, sef sglerosis ymledol (Saes. Multiple Sclerosis). Araf yw datblygiad y cyflwr hyn ac ni fyddai'n gwybod ei ddiagnosis tan 1939,[33] ond roedd y rhagolygon yn ddrwg a byddai'n araf gwaethygu dros y blynyddoedd i ddod, gan golli ei reolaeth yn gyntaf ar ei allu corfforol ac wedyn ei allu feddyliol hyd nes ei farwolaeth.

Ymdaflodd ei hunan serch hynny i'w waith. Rhoddodd misoedd cyntaf yr yr Ail Ryfel Byd rywfaint o stop ar ddarlledu, fodd bynnag pan ail-ddechreuodd roedd Hughes yn gynhyrchydd ar nifer o raglenni ddaeth yn adnabyddus drwy Brydain gyfan gan gynnwys Home Fires Burning a The Home Front.[34] Rowland Hughes yn anad neb arall oedd yn gyfrifol am y syniad o gynnal Eisteddfod Genedlaethol 1940 ar y radio;[35] yn briodol ddigon enillodd yntau hefyd y Gadair am yr eildro yn yr Eisteddfod honno gydag awdl ar y testun Pererinion. Mae'n debyg mai i'r cyfnod hwn hefyd yn perthyn mwyafrif y cerddi a ymddangosodd yn ddiweddarach yn Cân neu ddwy.[36]

Roedd ei iechyd yn gwaethygu fodd bynnag er gwaethaf ymdrechion lu ar ran Hughes ac Eirene i gyrchu'r driniaethau meddygol diweddaraf.[37] Collodd ei allu i gerdded ac er ei fod dal wedi'i gyflogi'n swyddogol gan y BBC tan 1945, ar ôl 1943 byddai'n ymgynghori ar raglenni o adref yn hytrach na mynd i'r stiwdio yn bersonol.[38]

1943-1949: Y Nofelydd

[golygu | golygu cod]
Clawr argraffiad cyntaf O Law i Law, nofel gyntaf T. Rowland Hughes

Yn ystod y cyfnod hwn o iselder ac o gystudd, awgrymodd Eirene y gallai Hughes lunio nofel, gan awgrymu testun iddo hefyd. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd y nofel, O Law i Law, wedi'i chwblhau, a hwyliau Hughes wedi codi rhywfaint drwy'r broses.[39] Roedd elfennau hunangofiannol gryf i'r nofel, sydd wedi'i osod ym mro'r charweli llechi ac yn adrodd hanes gŵr sy'n gwerthu eiddo ei rieni ar ôl iddynt farw. Portread o Hughes ei hun a geir yn y llyfr yn y prif gymeriad John Davies ond hefyd ei ewythr Huw, sy'n dioddef o salwch di-enw, ac yn defnyddio cadair olwyn.[40]

Llwyddiant ysgubol fu'r nofel i raddau nad oedd yr un nofelydd Cymraeg wedi'i brofi ers dyddiau Daniel Owen. Derbyniwyd adolygiadau cadarnhaol iawn ac roedd yr argraffiad cyntaf wedi gwerthu erbyn dechrau 1944 a'r ail-argraffiad erbyn Mehefin.[41]

Dilynwyd y nofel y flwyddyn ganlynol (1944) gan William Jones, nofel ysgafn, ddigrif am chwarelwr sy'n ymfudo i gymoedd De Cymru; unwaith eto roedd elfennau hunan-fywgraffiadol i'r nofel gydag William Jones ei hunan yn seiliedig ar unigolyn a ddaeth i stwidio Hughes am glyweliad.[42] Llwyddiant ysgubol arall fu'r nofel honno; a byddai Hughes yn cyhoeddi nofel newydd bob blwyddyn am yr ychydig flynyddoedd nesaf. Disgrifir ef yn y cyfnod hwn gan ei gofiannydd Edward Rees:

Byddai'n eistedd yn y gadair yn y gornel wrth y tân, ac yn ysgrifennu yn araf. Dechreuai ysgrifennu bob bore, hyd y gallai, oddeutu hanner awr wedi deg, a dal ati tan tuag un o'r gloch. Yn y prynhawn, bob dydd, haf a gaeaf, nes yr aeth yn rhy wael i fynd allan, âi yn ei gadair olwyn gyda'i briod i Barc y Rhath, a Mot y ci gyda hwy... Ni fyddai, fel rheol, yn paratoi cynllun manwl ymlaen llaw, ond yr oedd y stori, wrth gwrs, yn ei feddwl, a byddai'n myfyrio llawer drosti yn ei gadair yn yr ysbeidiau rhwng ysgrifennu.[43]

I'r cyfnod hwn hefyd y perthyn llun yr arlunydd David Bell ohono yn ei gadair, llyfr ar ei lin (gweler ar dop y dudalen hon).

Parc y Rhath, lle'r âi Hughes bron bob dydd yn y cyfnod pan oedd yn ysgrifennu ei nofelau.

Er bod O Law i Law ac (i raddau llai) William Jones wedi portreadu'r diwylliant chwarelyddol, nofel o natur hollol wahanol oedd trydedd nofel Hughes, Yr Ogof (1945). Nofel hanesyddol/feiblaidd oedd hon gyda Joseff o Arimathea yn gymeriad canolog iddi. Cymaint oedd poblogrwydd Hughes erbyn fel y bu i'r nofel werthu 4,000 o gopiau ymlaen llaw,[44] er i'r nofel ennyn ymateb beirniadol mwy cymysg na'r rhai blaenorol, gyda rhai yn cwestiynu priodoldeb ymddangosiad Iesu Grist fel cymeriad, a phortreadu ei groeshoeliad, mewn nofel.[45] Yn y un flwyddyn ysgrifennodd ddrama, Y Ffordd, yn seiliedig ar helyntion Beca.

Roedd iechyd Hughes yn gwaethygu, ond daliai ati i ysgrifennu. Ymddangosodd ei bedwaredd nofel, Chwalfa, yn 1946, a'i derbyn yn wresog iawn. Testun y nofel oedd Streic Fawr Chwarel y Penrhyn ar droad yr Ugeinfed Ganrif. Noda cofiannydd Hughes Edward Rees mor fynych oedd y cymhariaethau i Daniel Owen yn adolygiadau'r nofel, gyda Caradog Pritchard yn dweud yn blaen "Y mae hwn yn well na Daniel Owen".[46] Mewn gohebiaeth gyda'r cyfieithydd Richard Ruck ar ddiwedd ei fywyd, nododd Hughes mai Chwalfa oedd ei nofel orau yn ei farn ef ei hun.[47]

Bedd T. Rowland Hughes ym Mynwent Cathays, Caerdydd

Dilynwyd Chwalfa y flwyddyn ganlynol gan Y Cychwyn. Hon fyddai nofel olaf Hughes. Mae'r stori'n dilyn hanes cynnar gweinidog, y Parchedig Owen Ellis, gyda'r chwareli unwaith eto'n gefndir. Fel y mae'r teitl yn awgrymu, bwriadwyd hon i fod yn ddim ond rhan gyntaf stori hir fyddai'n dilyn Owen dros dwy neu ragor o nofelau;[48] ond er iddo ddechrau llunio'r dilyniant cyn ei farw dim ond y dudalen gyntaf a gwblhawyd.[49] Adeg Nadolig 1948 cyhoeddwyd Cân neu ddwy, cyfrol o farddoniaeth Hughes gan gynnwys awdl fuddugol 1937 Y Ffin a rhan o Pererinion, awdl 1940. Fodd bynnag roedd y rhain a gweddill y gyfrol wedi'u cyfansoddi flynyddoedd ynghynt, ac roedd ei fethiant i gyhoeddi nofel arall ar ôl Y Cychwyn yn dystiolaeth i'r graddau yr oedd ei iechyd wedi dirywio erbyn diwedd y 40au. Llwyddodd, fodd bynnag, i ysgrifennu sgript yn 1949 ar gyfer rhaglen radio, Bardd Yr Haf, sef portread o'i eilun oes, R. Williams Parry.[50]

Ym mis Mai'r flwyddyn honno derbyniodd bensiwn sifil o £200 y flwyddyn gan y llywodraeth; testun fu'n bleser mawr iddo, ond nid cymaint â'i anrhydeddu â D. Litt gan Brifysgol Cymru yn fuan wedyn.[51] Erbyn adeg y seremoni ym mis Gorffennaf nid oedd yn ddigon iach i'w mynychu, fodd bynnag, ac ar 24 Hydref y flwyddyn honno bu farw. Claddwyd ef ym mynwent Cathays.

Gwaddol

[golygu | golygu cod]

Fel Nofelydd

[golygu | golygu cod]

Cytunir mai nofelau T. Rowland Hughes oedd ei brif gyfraniad i'w genedl[2][1] a does dim dwywaith mai ef oedd y nofelydd Cymraeg fwyaf llwyddiannus a phoblogaidd gyda'r cyhoedd ers Daniel Owen yn y ganrif flaenorol; ffaith sy'n ei wneud yn ffigwr pwysig yn hanes y nofel Gymraeg. Yng ngeiriau ei gofiannydd, Edward Rees,

nofelydd ydoedd Rowland Hughes, nofelydd a gyflawnodd ei waith dan amgylchiadau oedd bron yn anhygoel o anodd a chaled, ac a enillodd glust a serch gwerin Cymru i fwy graddau nag y gwnaeth odid un o'i hawduron. Nid heb reswm y cymharwyd ef â Daniel Owen. Beiir ef weithiau oherwydd bod ei nofelau'n or-garedig a tyner, heb ond ychydig bwyslais ar y boen a'r loes sy'n rhan annatod o fywyd; y wyrth yw iddo beidio ag ymollwng, fel y gallasai mor hawdd, i chwerwedd, a mynegi hynny yn ei waith llenyddol.[52]

Derbyniodd Hughes gydnabyddiaeth lawn yn ystod ei oes ei hun: adeg gwobrwyo ei D. Litt gan Brifysgol Cymru disgrifwyd ef fel un a ysgrifenodd "nofelau a gyfrifid ymysg y digwyddiadau pwysicaf yng Nghymru... Ni welsom yng Nghymru ddewrach awdur na Rowland Hughes, ac nid yn aml y caiff Prifysgol Cymru gyfle i anrhydeddu nofelydd sydd y fath feistr ar y ffurf lenyddol hon."[53] Sonir yn fynych am ddifyrrwch ei nofelau a'i allu i blethu hiwmor a difrifoldeb.[2] Ym marn Dafydd Jenkins "mae Rowland Hughes yn rhagori yn saerniaeth ei nofelau fel cyfanbethau."[54]

Beirniedir ei nofelau hefyd fodd bynnag, yn bennaf oll am eu sentimentaleiddwch a'u diffyg cymhlethdod seicolegol tybiedig.[2][55] "diffyg mwyaf T. Rowland Hughes i mi yw unochredd sentimental ei brofiad," chwedl J. Gwilym Jones;[56] "yn sicr, nid yw wedi symud y nofel Gymraeg ymlaen i ryw ddyfnderoedd newydd o brofiad," meddai R. M. Jones.[57] Gellid beirniadu ei nofelau am fod yn henffasiwn yn yr ystyr eu bod yn perthyn o ran arddull ac agwedd i ddisgwyliadau oes cynharach.[52][58]

Cysylltir T. Rowland Hughes yn anad neb arall â sefydlu 'myth' rhamantaidd o'r chwarelwr Cymraeg fel cynrychiolydd nobl, rhinweddol o'r dosbarth gweithiol sy'n dioddef mewn tawelwch.[59][60]

Fel Cynhyrchydd Radio

[golygu | golygu cod]

Er mai am ei gynnyrch llenyddol y cofir Hughes yn bennaf ni ddylid di-brisio ei ddylanwad sylweddol ar ddarlledu yng Nghymru ac yn y Gymraeg. Roedd yn ffigwr hollol allweddol yng nghyfnod cynharaf y diwydiant darlledu Cymreig. Yng ngeiriau un sylwebydd,

Beth oedd cyfraniad Rowland Hughes i dwf a datblygiad darlledu yng Nghymru? Gosod safon, gofalu am waith glân a chyson, ennill enw da i Gymru fel man lle gellid llunio a chynhrychu rhaglenni radio a oedd yn deilwng o'u lle ym mhatrwm cyffredinol rhaglenni'r BBC.[61]

Fel Bardd

[golygu | golygu cod]

Prin yr oedd Hughes wedi amlygu ei hun fel bardd pan enillodd y Gadair am y tro cyntaf yn 1937.[32] Wrth drafod Awdlau buddugol Hughes, disgrifiodd Alan Llwyd Pererinion, y gerdd a enillodd Gadair 1940, yn "awdl anwastad";[35] fodd bynnag wrth drafod Y Ffin, awdl 1937, meddai mai "Awdl ragorol oedd yr awdl fuddugol, a cheir delweddu gwych a chynganeddu gloyw ynddi."[62] Cynigiodd Hughes yn aflwyddiannus am y Goron yn 1943.[37]

Roedd yr un gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddwyd ganddo, Cân neu Ddwy, yn boblogaidd,[2] ond mae'n debyg bod hynny i raddau i'w briodoli i'r enwogrwydd oedd yn gysylltiedig ag enw T. Rowland Hughes erbyn cyhoeddi'r gyfrol honno; "nid oedd... yn ddigon arbennig i'w osod yn rheng flaenaf ein beirdd."[2] Cafwyd adolygiad gwresog o'r gyfrol gan Cynan,[63] ond mae'r adolygiad a'i ganmoliaeth o natur delynegol, soniarus y cerddi'n awgrymu mai bardd Rhamantaidd oedd Hughes, a'i arddull farddonol hwyrach yn perthyn i oes a fu. Serch hynny, mae ei emyn Tydi a Roddaist,[64] a osodwyd i dôn gan Arwel Hughes, wedi bod yn boblogaidd, ac i raddau llai ei emyn Dwy Law yn Erfyn [65] sy'n seiliedig ar lun Albrecht Dürer Dwylo'n Gweddïo, fu'n boblogaidd mewn ysgolion sul ac ysgolion dyddiol.

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]

Nofelau

[golygu | golygu cod]

Gwasg Aberystwyth oedd cyhoeddwr gwreiddiol y nofelau, ond maent ers hynny wedi'u hail-gyhoeddi gan gyhoeddwyr eraill.

Cyhoeddodd Gwasg Gomer dalfyriadau i ddysgwyr Cymraeg gan Basil Davies o O Law i Law (1984) a William Jones (1986). Cyfieithwyd y pum nofel i'r Saesneg gan Richard C. Ruck a'u cyhoeddi rhwng 1950 ac 1969.

Barddoniaeth

[golygu | golygu cod]

Dramâu

[golygu | golygu cod]
  • Y Ffordd (Caerdydd, 1945)
  • John Frost, The Newport Chartist (1936) a Daughters of Rebecca (1937), dwy ddrama radio Saesneg ar y BBC a ysgrifennodd ar y cyd gyda Gwilym Prichard Ambrose, Prifathro Coleg Hyfforddi Sir Fynwy [72]

I blant

[golygu | golygu cod]
  • Storïau Mawr y Byd (Gwasg Aberystwyth, 1936)[73]

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  • Rees, Edward (1968). Cofiant T. Rowland Hughes. Gwasg Gomer.
  • Rowlands, John (1975). T. Rowland Hughes (Cyfres Writers of Wales). Gwasg Prifysgol Cymru.
  • Lewis, W. Gwyn (gol.) (1990). Bro a Bywyd: T. Rowland Hughes 1903-1949. Cyhoeddiadau Barddas.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 HUGHES, THOMAS ROWLAND (1903 - 1949), bardd a nofelydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 19 Tach 2023
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 Stephens, Meic (gol) (1997) Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t.347
  3. Rees, t. 15.
  4. Rees, t. 20-21.
  5. 5.0 5.1 Bardd "Yr Haf", 1949 BBC; Dyfynnwyd yn Rees 1968.
  6. Rees, tt. 35-43.
  7. Rees, t. 50.
  8. Rees, t. 46.
  9. Rees, t. 45.
  10. Rees, t. 44.
  11. Rees, t. 57.
  12. Rees, t. 48.
  13. Rees, t. 71.
  14. Rees, t. 63.
  15. Rees, t. 68.
  16. Rees, t. 69.
  17. Rees, t. 74.
  18. Rees, t. 70.
  19. Rees, t. 48.
  20. Rees, t. 78-9.
  21. Rees, t. 79-80.
  22. Rees, t. 82.
  23. Rees, t. 85.
  24. Rees, t. 85.
  25. Rees, t. 92.
  26. Rees, t. 95.
  27. Rees, t. 101.
  28. Rees, t. 103.
  29. Rees, t. 104.
  30. Rees, t. 109.
  31. Rees, t. 116.
  32. 32.0 32.1 32.2 Rhys, Prosser (1937) "Cynhaeaf yr Eisteddfod", Tir Newydd, Rhif 9 Awst 1937 t.5-7
  33. Rees, t. 114.
  34. Rees, t. 122-23.
  35. 35.0 35.1 Gwefan y BBC; adalwyd 10 Awst 2016.
  36. Rees, t. 130.
  37. 37.0 37.1 Rees, t. 130-31.
  38. Rees, t. 133.
  39. Rees, t. 135.
  40. Rees, t. 148.
  41. Rees, t. 154.
  42. Rees, t. 150.
  43. Rees, t. 141-42.
  44. Rees, t. 157.
  45. Rees, t. 159.
  46. Rees, t. 165.
  47. Rees, t. 177.
  48. Rees, t. 165.
  49. Gweler Rees, t. 171.; dyfynir y dudalen hon yno.
  50. Rees, t. 176.
  51. Rees, t. 177.
  52. 52.0 52.1 Rees, t. 136.
  53. Rees, t. 177-78.
  54. Jenkins, Dafydd, "Datblygiad y Nofel Gymraeg ar ôl Daniel Owen" yn Williams, Gerwyn (gol.) (1999) Rhyddid y Nofel, Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, t.76-77.
  55. John Rowlands, Ysgrifau ar y Nofel (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1992), t. 113.
  56. J. Gwilym Jones, "Beth yw Nofel?" yn Swyddogaeth Beirniadaeth, Dinbych 1977; t.231
  57. R. M. Jones (1975) Llenyddiaeth Gymraeg 1936-1972, Llandybie; t.237
  58. John Rowlands, Ysgrifau ar y Nofel, t.111
  59. Menna Baines, Yng Ngolau’r Lleuad, t. 122.
  60. Elin Gwyn, Traethawd PhD: "'Segur fydd y cŷn a'r morthwyl mwy' : dehongli portreadau o'r bröydd chwarelyddol ers 1972", Prifysgol Bangor, 2014.
  61. Alun Oldfield-Davies (1961), "Y BBC a Chymru - Cipolwg dros Chwarter Canrif," Y Genhinen, 12:1
  62. "Canrif o Brifwyl: 1937". Cyrchwyd 14 Ebrill 2025.
  63. Cynan, "Dau Delynegwr", Lleufer, 5:4 Gaeaf 1949, tt.165-9.
  64. Tydi, a roddaist ar Wicidestun,
  65. Dwy Law yn Erfyn ar Wicidestun,
  66. O Law i Law ar Wicidestun
  67. William Jones ar Wicidestun
  68. Yr Ogof ar Wicidestun
  69. Chwalfa ar Wicidestun
  70. Y Cychwyn ar Wicidestun
  71. "T. Rowland Hughes: Bywgraffiad a Llyfryddiaeth | Y Lolfa". www.ylolfa.com. Cyrchwyd 2023-11-19.
  72. "Gwilym Prichard Ambrose, B.A. (Wales), M.A., B.Litt. (Oxon.), L.R.A.M. Headmaster, Aberdare Boys' County School, 1940 – 1952". Gwefan Abderdare Boys Grammar School. Cyrchwyd 2022-02-14.
  73. Storïau Mawr y Byd ar Wicidestun

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]