William Jones (nofel)
Gwedd
Clawr y llyfr | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | T. Rowland Hughes |
Cyhoeddwr | Gwasg Aberystwyth |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1944 |
Genre | nofel |
Nofel gan T. Rowland Hughes yw William Jones, a gyhoeddwyd ym 1944.
Mae'n sôn am hanes chwarelwr yng Ngwynedd sy'n penderfynu gadael ei gymuned i chwilio am waith yng nglofeydd y De.
Mae'n disgrifio bywyd caled y chwarelwyr ar ddechrau'r 20g, a hwyrach mai hon yw'r unig nofel Gymraeg sydd yn rhoi darlun o fywyd yng nghymoedd y De diwydiannol tan i Gwenallt ysgrifennu ei nofel yntau Ffwrneisiau. Ceir ynddi yr ymadrodd "Cadw dy blydi chips!", sef mae'n debyg y tro cyntaf i reg ymddangos mewn llenyddiaeth Gymraeg (mewn llenyddiaeth ddiweddar, o leiaf).
Bu hefyd yn un o'r llyfrau Cymraeg cyntaf i'w recordio fel llyfr llafar ar gyfer y deillion. Gwnaed hynny gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn yr 1960au cynnar.[1]
CYNNWYS
[golygu | golygu cod]Pennod
- I. AR ÔL
- II. DIWRNOD I'R BRENIN
- III. AMYNEDD
- IV. GOLDEN STREAK
- V. DEUD GWD-BEI
- VI. ANHUNEDD
- VII. Y NEFOEDD, DYMA LE!
- VIII. SABATH
- IX. SOWTHMAN
- X. O FRYN GLO—I FRYN GLO
- XI. DAU ACTOR
- XII. UN ACTOR
- XIII. ELERI
- XIV. AWYR IACH
- XV. UN GARW
- XVI. POBOL RYFADD
- XVII. PEN Y BWRDD
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
- ↑ "Pwy Ydym Ni". Gwefan Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru. Cyrchwyd 27 Ebrill 2023.