O Law i Law
![]() Clawr argraffiad cyntaf O Law i Law, nofel gyntaf T. Rowland Hughes | |
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Thomas Rowland Hughes |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1943 |
| Dynodwyr | |
Nofel episodig yn y Gymraeg am fywyd chwarelwyr a'u teuluoedd mewn pentref chwarelyddol "dychmygol" yng ngogledd Cymru yw O Law i Law gan T. Rowland Hughes. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yn 1943 gan Wasg Gymraeg Foyle, Llundain, gyda darluniau gan Dewi Prys Thomas.[1] Cafodd y nofel ei haddasu ar gyfer y llwyfan gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1986.
| Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cefndir
[golygu | golygu cod]Mae'r teitl yn fenthyciad o'r ymadrodd adnabyddus "(byw) o law i law", ac yn cyfeirio at galedi bywyd y chwarelwyr, ond mae'n drosiad hefyd sy'n adlewyrchu un arall o brif themau'r nofel, bod diwylliant a gwerthoedd yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth er gwaethaf pawb a phopeth.
Nodai'r awdur ar gychwyn y nofel mai "dychmygol yw pentref Llanarfon a chymeriadau'r nofel hon."[1]
Cynnwys
[golygu | golygu cod]Ar ddiwrnod angladd ei fam, mae'r hen lanc "deugain" oed 'John Davies' yn wynebu ei gymdogion, wrth iddo ystyried bod yn rhaid gwagio'r tŷ. Mae'r nofel yn canolbwyntio ar ddodrefnyn gwahanol fesul pennod, megis 'Y Mangl', 'Yr Harmoniym', 'Y Gadair', 'Bwrdd y Gegin' a.y.y.b, sydd, yn eu tro, yn codi atgofion am ei deulu a'r hiraeth sy'n ei lethu. Gwelir bod y cymdogion i gyd yn dyheu am gael prynu neu etifeddu dodrefnyn gwahanol, gyda chymeriadau cryf fel y 'Meri Ifans' fusneslyd, sy'n ceisio ei gynorthwyo.[1]
Beirniadaeth
[golygu | golygu cod]Wrth ail-gyhoeddi'r nofel yn 2025, mae Gwasg Melin Bapur yn nodi: "Roedd T. Rowland Hughes eisoes yn adnabyddus fel cynhyrchydd radio a phrifardd adeg cyhoeddi O Law i Law, ei nofel gyntaf; ond bu’r nofel hon a'r rhai a’i dilynodd yn llwyddiannau ysgubol ddaeth â bri ac enwogrwydd i’w hawdur na phrofasai’r un nofelydd Cymraeg ers Daniel Owen. O Law i Law yw’r tawelaf a’r mwynaf o’i nofelau, a’r un sy’n dwyn y mwyaf o’i deunydd o fywyd y nofelydd ei hun."[2] Cynhwyswyd y nofel ar restr o nofelau Cymraeg "y dylai pawb eu darllen".[3]
Ystyriai Bobi Jones mai'r nofel hon oedd y gorau o nofelau'r awdur.[4] Meddai amdani: "tebyg gennyf iddo o'r dechrau fynnu dweud y peth mawr a oedd ganddo heb falu awyr, mai gyda'r syml a'r didwyll yr oedd ef am fwrw ei goelbren. Dilyniant o delynegion ar y testun hwnnw yw O Law i Law, yn disgyn hwnt ac yma ar draws y fro...".[5]
Disgrifir y nofel gan Roger Owen fel "[t]eyrnged hiraethus, berlesmeiriol i gymdogaeth goll, a oedd, er ei ffaeleddau a'i phroblemau, yn batrwm o gymdeithas wâr".[6]
Addasiadau
[golygu | golygu cod]

Addaswyd y nofel ar gyfer y llwyfan gan John Ogwen ym 1986, ar gyfer cynhyrchiad cyntaf Cwmni Theatr Gwynedd. Graham Laker oedd yng ngofal y cyfarwyddo a Martin Morley yn gynllunydd. Ymhlith y cast roedd John Ogwen, J. O. Roberts, Grey Evans, Trefor Selway, Eric Wyn a Beryl Williams.[6] "Cymaint fu ei lwyddiant fel arwyddnod i'r fenter," nododd Roger Owen, "nes iddo orseddu Cwmni Theatr Gwynedd yn gwmni prif-ffrwd teithiol 'cenedlaethol' i'r Gymru Gymraeg ymron yn syth".[6]
"Yn sicr, bu O Law i Law yn gynhyrchiad poblogaidd: denwyd tua deng mil o bobl i'w gweld, yn Theatr Gwynedd ac ar daith; hynny'n gyfartaledd o 360 i bob perfformiad a roddwyd, neu oddeutu 90 y cant o'r gynulleidfa bosibl."[6]
Aiff Owen ymlaen i sôn am "effaith ryfeddol" gafodd y cynhyrchiad ar y gynulleidfa a'i gwelodd, gyda cyn-reolwr Theatr Gwynedd, Dafydd Thomas, yn dal i sôn am y "brwdfrydedd" dros ddeng mlynedd wedi hynny.[6] Mae Owen yn egluro mai un o'r rhesymau pennaf am ei lwyddiant oedd "fod nifer fawr o aelodau'r gynulleidfa yn gyfarwydd â'r nofel" neu yn rhannu'r weledigaeth y gymdeithas a bortreadwyd ynddi, yn debyg iawn i'r ymateb ysgubol a fu i Bargen gan Theatr Bara Caws saith mlynedd ynghynt.[6]
Bu hefyd yn un o'r llyfrau Cymraeg cyntaf i'w recordio fel llyfr llafar ar gyfer y deillion. Gwnaed hynny gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn yr 1960au cynnar.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 Hughes, T. Rowland (1944). O Law i Law. Foyle.
- ↑ "O Law i Law (T. Rowland Hughes)". Llyfrau Melin Bapur Books. Cyrchwyd 2026-06-29.
- ↑ Nation.cymru, 24 Hydref 20217 (Adalwyd 7 Gorffennaf 2026).
- ↑ Bobi Jones (1975) Lenyddiaeth Gymraeg 1936-1972, Christopher Davies: Llandybie, t.236
- ↑ Bobi Jones (1975) Lenyddiaeth Gymraeg 1936-1972, Christopher Davies: Llandybie, t.239
- 1 2 3 4 5 6 Owen, Roger (2003). Ar Wasgar - Theatr a Chenedligrwydd yn y Gymru Gymraeg 1979-1997. Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 9780708317938.
- ↑ "Pwy Ydym Ni". Gwefan Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru. Cyrchwyd 27 Ebrill 2023.
