Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad elusennol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 5 Ionawr 1882 |
Pencadlys | Bangor |
Mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru (Saesneg: North Wales Society of the Blind) yn darparu cefnogaeth ymarferol, gwybodaeth a chyngor i bobl ddall a rhannol ddall ledled Gogledd Cymru.
Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1882. Mae'n gweithio gyda phobl Ddall a Rhannol Ddall o bob oed, mae'n ymdrechu i annog annibyniaeth, dewis a hyder wrth hefyd roi’r gwasanaethau hanfodol sy'n bwysig i'r gymuned.[1] Mae'n annibynnol ond yn cydweithio gyda Sefydliad Frenhinol Genedlaethol Pobl Ddall (yr RNIB).
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd North Wales Society for the Blind, Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru ar 5 Ionawr 1882 pan ddaeth grŵp bychan o wirfoddolwyr ynghyd dan arweiniad llywyddiaeth Esgob Bangor yn y gobaith o “ddysgu’r deillion i ddarllen er mwyn lleihau cymaint â bo modd ar undonedd eu bywydau oherwydd eu dallineb”.
Yr adeg hon roedd 35 o bobl ddall yng Nghaernarfon, 45 ym Môn a Bangor.
Yn ystod y cyfarfod penderfynwyd sefydlu cangen o Gymdeithas Addysgu Deillion Gartref, a rhoddwyd y dasg i fwrdd o 19 o wirfoddolwyr ffurfio’r Gymdeithas.
Penodwyd y gweithiwr cyntaf ganddynt, Mrs Catherine Ellis, a thalwyd iddi’r swm anrhydeddus o £60 y flwyddyn. Mrs Ellis oedd yr athrawes gartref gyntaf i weithio yn y gymuned. Yn yr un flwyddyn trawsgrifiwyd y Salmau i Braille gan y Gymdeithas ar gost syfrdanol o £73 (mwy na chyflog blwyddyn).
Erbyn 1895 roedd llyfrgell o lyfrau Braille wedi’i sefydlu a 450 o lyfrau wedi’u benthyca yn ystod y flwyddyn gan 173 o aelodau cofrestredig.
Y Rhyfel Byd Cyntaf – Gwaith wedi’r rhyfel
[golygu | golygu cod]Yn sgil y Rhyfel Mawr, tyfodd gwaith y Gymdeithas ac erbyn 1917 roedd nifer o ddynion a ddallwyd yn y Rhyfel wedi cael cymorth i ddysgu crefft. Erbyn 1920 roedd y Gymdeithas wedi recriwtio pump o athrawon cartref ac wedi caffael ei adeilad cyntaf yn 75 Stryd Fawr, Bangor.
Ym 1920 pasiwyd y Ddeddf Personau Dall ac, o ganlyniad, dyfarnwyd i bobl ddall dros 50 oed bensiwn blynyddol bychan.
Ym 1923 cytunodd ei Tywysog Cymru i noddi’r Gymdeithas, anrhydedd a roddwyd i’r Gymdeithas hyd nes iddo gael ei wneud yn frenin ym 1936.
Ddiwrnod Nadolig 1929 gwnaeth Winston Churchill, oedd yn AS ar y pryd, apêl dros y radio am Gronfa Radio i’r Deillion. Cwblhaodd y Gymdeithas, ymlaen llaw, restr o bobl allai dderbyn radio. Yn sgil hyn, ychwanegwyd 500 o setiau newydd at yr ychydig oedd eisoes yn bodoli. Hyd heddiw, mae’r Gymdeithas yn parhau i weinyddu’r cynllun ar ran y Gronfa.
Yn yr 50fed Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol newidiwyd enw’r elusen yn swyddogol i Gymdeithas y Deillion Gogledd Cymru (North Wales Society for the Blind) i adlewyrchu’r galwadau newidiol ar waith y Gymdeithas.
Yr Ail Ryfel Byd
[golygu | golygu cod]Wedi i’r Ail Ryfel Byd gychwyn ym 1939, tyfodd gwath y Gymdeithas i ofalu am y milwyr hynny a ddallwyd yn ystod y rhyfel. Ym 1944 roedd 89 o efaciwîs dall o’r dinasoedd mwy yn byw yng Ngogledd Cymru; pob un yn cael cefnogaeth gan y Gymdeithas.
Ym 1939, 224 Stryd Fawr, Bangor oedd Pencadlys Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru. Yr adeg hon, roedd y Gymdeithas yn canolbwyntio ar addysgu sgiliau megis gwaith gyda gwiail.
Noda erthygl papur newydd o fis Gorffennaf 1939 bod 1,157 ar “gofrestr y Bobl Ddall” bryd hynny yn y Gogledd.
Y blynyddoedd ar ôl y rhyfel
[golygu | golygu cod]Erbyn blynyddoedd cynnar y 1950au roedd y canolbwyntio wedi symud i ddarparu grwpiau cymdeithasol ac ymgynnull i alluogi a dysgu.
Ym 1962 dechreuwn weld dyfodiad gwasanaeth y llyfrau llafar, gyda 53 o aelodau yng Ngogledd Cymru yn derbyn llyfrau sain. Ym 1963, Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru oedd y sefydliad cyntaf i recordio llyfrau llafar Cymraeg. Crëwyd stiwdio ym Mangor wedi’i ymroi i recordio llyfrau Cymraeg.
Disgrifiwyd yr achlysur fel y datblygiad mwyaf i’r deillion ers i Louis Braille ddyfeisio ei system ysgrifennu, a hynny gan y person a dderbyniodd y llyfr cyntaf. Y llyfrau cyntaf i gael eu recordio oedd William Jones ac O law i Law gan T. Rowland Hughes, a Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis.[2] Mae poblogrwydd y llyfrau’n parhau i fod yn berthnasol heddiw. Mae gwaith y stiwdio’n parhau i gynhyrchu llyfrau, papurau newydd a chylchgronau llafar Cymraeg er eu bod ar CD ac MP3 yn hytrach nag ar gasét.
Ym 1969 symudodd y Gymdeithas i’w lleoliad cyfredol yn 325 Stryd Fawr. Ym 1972 rhyddhaodd y Gymdeithas ei 100fed rhifyn o’i phapur llafar wythnosol ac fe’i dosbarthwyd i dros 200 o bobl ddall a rhannol ddall.
Ym 1978 bu farw Mr Thomas ap Rees o Fangor, perchennog cyntaf y ci tywys. Roedd Mr ap Rees yn gyn-filwr y rhyfel byd cyntaf a ddallwyd yn ystod y Rhyfel. Derbyniodd y ci tywys cyntaf erioed yn Hydref 1931.[3]
Gweithgaredd
[golygu | golygu cod]Mae'r Gymdeithas yn darparu amrywiaeth fawr o weithgareddau a gwasanaethau:
- Cymorth a Chyngor - cymorth ymarferol ac emosiynol i bobl Ddall a rhannol ddall ledled Gogledd Cymru.
- Adsefydlu - mae gan y Gymdeithas dîm o Swyddogion Adfer sy’n gweithio yn adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol awdurdodau lleol Gwynedd ac Ynys Môn
- Canolfan Adnoddau - mae’r Ganolfan ar 325 Stryd Fawr Bangor, yn agored o 10am i 4pm ddydd Llun i ddydd Gwener yn ffynhonnell o gyngor, gwybodaeth ac arddangosiadau ymarferol
- Plant a Theuluoedd - ceir system mentoriaid a Chronfa Plant
- Technoleg Gynorthwyol - darperir offer yn y ganolfan adnoddau, gan gynnwys; chwyddwyr electronig, darllenwyr teledu wedi'u haddasu, sganwyr siarad, ffonau symudol a thabledi
- Clybiau a Grwpiau - ceir Clwb Bae Colwyn sy'n cwrdd bob 2il a 4ydd dydd Llun yn y mis' Ceir hefyd Clwb Cerdded Eryri
- Hyfforddiant a Sgyrsiau Ymwybyddiaeth - cynigir cyngor a hyfforddiant i gynorthwyo pobl i fod yn fwy ymwybodol o anghenion pobl ddall a rhannol ddall yn y gwaith ac yn gymdeithasol
- Grantiau - ceir 3 gwahanol grant:
- Grant Cyffredinol - roi grantiau o hyd at £100
- Grant Plant - helpu i gwrdd ag anghenion plant â nam ar eu golwg, trwy ddarparu grantiau anghenion arbennig ac offer arbenigol
- Grant Dr Rhydian Fôn James[4] - astudiodd Rhydian fathemateg ac economeg ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, ac fe’i gwobrwywyd â’i radd PhD gan Brifysgol Aberystwyth yn 2012. Bu farw Rhydian yn 31 blwydd oed ar y 12 Ionawr 2016.[5] Sefydlwyd cronfa Rhydian Fôn James i helpu darparu cyfarpar a hyfforddiant, a chymorth ariannol, i ganiatáu mynediad teg a chyfartal i addysg a hyfforddiant ar gyfer pobl ddall a phobl rhannol ddall
- Trawsgrifiau Clyweledol - mae'r Gymdeithas yn darparu gwasanaeth trawsgrifio dwyieithog o safon am bris hynod gystadleuol
- Papurau Newydd Clyweledol - mae gwirfoddolwyr a Thîm Trawsgrifio Sain y Gymdiethas yn recordio a dosbarthu toreth o lyfrau cylchgronau a phapurau newydd llafar yn rhad ac am ddim. Mae hyn yn cynnwys papurau bro y Gogledd.[6]
- Llyfrau Llafar - CDGC oedd y cyntaf i recordio llyfrau llafar yn y Gymraeg gan gychwyn yn 1963.[7] Mae'r llyfrau ar gael mewn sawl fformat ac ar gael mewn llyfrgelloedd lleol.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Croeso i Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru". Gwefan Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru. Cyrchwyd 27 Ebrill 2023.
- ↑ "Hanes". Gwefan Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru. Cyrchwyd 27 Ebrill 2023.
- ↑ "Hanes". Gwefan Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru. Cyrchwyd 27 Ebrill 2023.
- ↑ "Grantiau". Gwefan Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru. Cyrchwyd 28 Ebrill 2023.
- ↑ "Rhydian Fôn James Bywgraffiad 1984-2016". Blog Hyn A'r Llall. Cyrchwyd 28 Ebrill 2023.
- ↑ "Pwy Ydym Ni". Gwefan Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru. Cyrchwyd 27 Ebrill 2023.
- ↑ "Gwasanaethau a Chefnogaeth". Gwefan Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru. Cyrchwyd 27 Ebrill 2023.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol y Gymdeithas[dolen farw] Cymraeg a Saesneg
- Tudalen Facebook y Gymdeithas
- Cyfrif Twitter y Gymdeithas @nwsb1
- Gwefan yr RNIB