Tabled cyfrifiadurol

Oddi ar Wicipedia
Samsung Galaxy Tab

Dyfais symudol, electronig yw'r tabled cyfrifiadurol, neu'n syml: tabled neu llechen. Mae'n defnyddio system weithredu (OS) symudol (fel y ffôn llaw) a sgrin gyffwrdd LCD a batri gwefrol (ailwefradwy) mewn un pecyn tenau, fflat. Gall faint y tabled amrywio, ond ar gyfartaledd maent yn 18 cm (7 modfedd) yn groesgornel, gyda gallu wi-fi yn unig, ar wahân i'r tabledi drytaf sydd a chysylltiad cellog i'r we.[1][2][3]

Mae'r tabled yn fath o gyfrifiadur, ond gyda llai o fewnbwn / allbwn oherwydd ei faint (e.e. dim cysylltiad USB); defnyddir stylws, pensil neu fysedd i fforio o gwmpas y sgrin yn hytrach na'r llygoden arferol. Gellir hefyd ei reoli gydag ystumiau e.e. symudiadau'r dwylo neu'r llaw, neu gydag chyfarwyddiadau lleisiol. Mae rhan fwyaf o'r dyfeisiau yma yn defnyddio rhith-fysellfwrdd ar y sgrîn, ond gellir cysylltu un real drwy Bluetooth diwifr, os oes angen.

Lansiwyd un o'r tabledi cyntaf, sef yr iPad gan Apple Inc. yn 2010,[4] a daeth yn boblogaidd iawn dros nos. Cyrhaeddwyd anterth y gwerthiant yng nghanol y ddegawd honno, gyda'r prisiau rhwng chwarter a hanner y gliniadur.[5][6][7][8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Editors Dictionary.com, "tablet computer – 1 dictionary result", Dictionary.com, archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Tachwedd 2011, http://dictionary.reference.com/browse/tablet+computer, adalwyd 17 Ebrill 2010
  2. What makes a tablet a tablet? (FAQ) Archifwyd 2013-10-14 yn y Peiriant Wayback. CNET.com Mai 28, 2010
  3. Ulefone U7 review[dolen marw] Every device with diagonal equal 7" or longer is practically tablet PC. Adalwyd 28 Mehefin 2014.
  4. "iPad Available in US on April 3" (Press release). Apple. Mawrth 5, 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Gorffennaf 2011. https://www.apple.com/pr/library/2010/03/05iPad-Available-in-US-on-April-3.html. Adalwyd 5 Mawrth 2010.
  5. The Dell Venue 8 7000 Series Review Archifwyd 24 March 2015[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.. Anandtech. 23 Mawrth 2015. Adalwyd 23 Mawrth 2015.
  6. "Tablets Are Dying. Do You Still Need One?".
  7. "The tablet is dead, says analyst". 4 Awst 2017.
  8. "Where have all the tablets gone?". 10 Ebrill 2016.