Bluetooth

Oddi ar Wicipedia
Bluetooth
Delwedd:Bluetooth headset.jpg, UsbBluetoothDongle.jpeg, Bluetooth network topology.png
Enghraifft o'r canlynolde facto standard, near-field communication, communication protocol Edit this on Wikidata
Mathrhwydwaith di-wifr Edit this on Wikidata
Rhan oApple Pencil, Bluetooth speaker Edit this on Wikidata
PerchennogBluetooth Special Interest Group Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.bluetooth.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Protocol di-wifr ydy Bluetooth, sy'n defnyddio dull agos (short-range) o drosglwyddo gwybodaeth. Fel arfer fe ddigwydd hyn o ddyfais electronig symudol megis y ffôn llaw drwy greu rhwydwaith ardal bersonol di-wifr (neu yn Saesneg, wireless personal area networks (PANs).

Gall gysylltu un dyfais electronig symudol gyda dyfais tebyg neu gyfrifiadur, yr argraffydd, camera neu fideo er mwyn trosglwyddo gwybodaeth o'r naill i'r llall; gallant syncroneiddio'r wybodaeth er mwyn cadw'r ddau yn gyfoes. Mae'r wybodaeth yn cael ei danfon dros fand eang gydag amledd o 2.4 GHz. Sefydlwyd grŵp i ddatblygu Bluetooth, grwp o'r enw Bluetooth Special Interest Group (SIG) sy'n cynnwys cwmniau cyfrifiadurol, telegyfathrebu, rhwydweithiol ac electronig.