Apple Inc.
Cyfesurynnau: 37°19′55″N 122°01′52″W / 37.33182°N 122.03118°W
| Apple Inc. | |
|---|---|
| Math | Cyhoeddus |
| Sefydlwyd | 1976 |
| Sylfaenydd | Steve Jobs Steve Wozniak Ronald Wayne |
| Pencadlys | California, UDA |
| Nifer lleoliadau | 317 |
| Ardal wasanaethu | Byd Eang |
| Pobl blaenllaw | Steve Jobs (Cadeirydd a'r Prif Weithredwr) Tim Cook (Prif Swyddog Gweithredu a'r Prif Weithredwr Gweithredol) |
| Diwydiant | Caledwedd cyfrifiadurol Meddalwedd Cyfrifiadurol Dyfeisiau electronig Dosbarthiad digidol |
| Refeniw | $65.23 biliwn (FY 2010) |
Mae Apple Inc. (neu Apple, Inc. ac yn flaenorol: Apple Computer Inc.) yn gorfforaeth ryngwladol Americanaidd sy'n dylunio a marchnata dyfeisiau electronig, meddalwedd cyfrifiadurol a chyfrifiaduron personol. Ymhlith eu cynnyrch o galedwedd cyfredol y mae'r gyfres o gyfrifiaduron Macintosh, yr iPod, yr iPhone a'r iPad.
Mae'r meddalwedd a gynhyrchir gan Apple yn cynnwys y system weithredu Mac OS X, y chwaraewr iTunes, iLife ac iWork (dwy gyfres o raglenni aml-gyfryngol a chreadigol), Aperture (sy'n becyn ffotograffiaeth proffesiynol, Final Cut Studio, (pecyn golygu sain a fideo proffesiynol), Logic Studio (pecyn cynhyrchu cerddoriaeth), y porwr gwefannau Safari, a hefyd iOS sef system weithredu ar gyfer dyfeisiau cludadwy.