Neidio i'r cynnwys

Sgrin gyffwrdd

Oddi ar Wicipedia
Sgrin gyffwrdd
Mathdyfais mewnbwn, dyfais rhyngwyneb dynol, dyfais allbwn Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ymwelydd yn dewis iaith ar sgrin gyffwrdd mewn arddangosfa.

Dyfais fewnbwn electronig yw'r sgrin gyffwrdd, a ddefnyddir i weithio dyfais prosesu gwybodaeth fel ffôn neu liniadur. Gall y defnyddiwr reoli'r system brosesu gwybodaeth hon trwy gyffwrdd â'r sgrîn gyda stylus arbennig neu ei fysedd. Mae'r haen dryloyw yma'n caniatau i'r defnyddiwr ymateb i'r hyn a ddangosir ar y sgrin, ac wrth wneud hyn, mae'r defnyddiwr yn mewnbynnu gwybodaeth. Dull amgen o fewnbynnu gwybodaeth yw drwy roi cyfarwyddyd llais i'r ddyfais; yr hen ddull oedd drwy symud llygoden electronig.

Gosodir sgrin gyffwrdd mewn teclynnau a dyfeisiau megis consolau gêm Nintendo, cyfrifiaduron personol, gliniaduron, peiriannau pleidleisio electronig, i reoli gwres a golau yn y cartref ac mewn siopau (POS) ayb. Gallant fod ynghlwm wrth gyfrifiaduron neu i derfynellau rhwydweithiau.

Prototeip[1] sgrin gyffwrdd x-y mutual capacitance (chwith) a ddatblygwyd yn CERN[2][3] yn 1977 gan Frank Beck.[4] a'r self-capacitance screen (dde) a oedd yn ddatblygiad pellach; hefyd gan Stumpe.

Disgrifiodd Eric Johnson, o'r Sefydliad Radar Brenhinol, a leolir yn Malvern, Lloegr ei waith ar sgriniau cyffwrdd mewn erthygl fer a gyhoeddwyd ym 1965 ac yna'n llawn, gyda ffotograffau a diagramau, mewn erthygl a gyhoeddwyd ym 1967.[5][6]

Disgrifiwyd cymhwyso technoleg sgriniau cyffwrdd ar gyfer rheoli traffig awyr mewn erthygl a gyhoeddwyd ym 1968. Datblygodd Frank Beck a Bent Stumpe, peirianwyr yn CERN (Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear), sgrin gyffwrdd tryloyw yn y 1970au cynnar, yn seiliedig ar waith Stumpe mewn ffatri deledu yn y 1960au cynnar.[7] Yna datblygodd y dyfeisiwr Americanaidd George Samuel Hurst sgrin gyffwrdd a gafodd batent yr Unol Daleithiau Rhif 3,911,215 ar 7 Hydref, 1975.[8] Cynhyrchwyd y fersiwn gyntaf yn 1982.[9]

Y ffôn cyntaf i gynnwys sgrin gyffwrdd oedd LG Prada, a hynny ym Mai 2007, gan ragflaenu'r iPhone.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. The first capacitative touch screens at CERN. CERN Courrier. 31 Mawrth 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Medi 2010. http://cerncourier.com/cws/article/cern/42092. Adalwyd 2010-05-25
  2. Bent STUMPE (16 Mawrth 1977). A new principle for x-y touch system. CERN. http://cdsweb.cern.ch/record/1266588/files/StumpeMar77.pdf. Adalwyd 2010-05-25
  3. Bent STUMPE (6 Chwefror 1978). Experiments to find a manufacturing process for an x-y touch screen. CERN. http://cdsweb.cern.ch/record/1266589/files/StumpeFeb78.pdf. Adalwyd 2010-05-25
  4. Two devices for operator interaction in the central control of the new CERN accelerator (Adroddiad). CERN. Mai 24, 1973. CERN-73-06. http://cds.cern.ch/record/186242/. Adalwyd 2017-09-14.
  5. Johnson, E.A. (1965). "Touch Display - A novel input/output device for computers". Electronics Letters 1 (8): 219–220. doi:10.1049/el:19650200. https://archive.org/details/sim_electronics-letters_1965-10_1_8/page/219.
  6. "1965 - The Touchscreen". Malvern Radar and Technology History Society. 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Ionawr 2018. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. "Another of CERN's many inventions! - CERN Document Server". CERN Document Server. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2015.
  8. USPTO. "DISCRIMINATING CONTACT SENSOR". Google. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Mai 2013. Cyrchwyd 6 April 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  9. oakridger.com, "G. Samuel Hurst -- the 'Tom Edison' of ORNL", December 14 2010[dolen farw]