Llyfrau Llafar Cymru

Oddi ar Wicipedia
Llyfrau Llafar Cymru
IaithCymraeg, Saesneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2012 Edit this on Wikidata
LleoliadCaerfyrddin Edit this on Wikidata
Gweithredwrdeaf Edit this on Wikidata
Llyfr Melysgybolfa Mari gan Mari Gwilym un o'r llyfr llafar yn 20 Uchaf rhestr defnyddwyr LlLlC[1]

Mae Llyfrau Llafar Cymru (fersiwn Saesneg yr enw: Talking Books Wales) yn gorff sy'n creu a darparu copïau o lyfrau llafar yn y Gymraeg ac o ddiddordeb Cymreig yn Saesneg. Fe'i lleolir yng Nghaerfyrddin ac fe'i sefydlwyd yn ei ffurf bresennol yn 2012 ond roedd hynny ar sail gwasanaethau blaenorol i bobl ddall a ddatblygwyd yn yr 1970au.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin, lleoliad wreiddiol Llyfrau Llafar Cymru
Eicon Llyfrau Llafar

Mae Llyfrau Llafar Cymru yn gorff a unodd o dri gwasanaeth oedd eisoes yn bodoli yn Nghaerfyrddn:

  • Llyfrau Llafar (er 1979)
  • Papur Llafar Y Dellion (1976)
  • Radio Glangwili (1972)

Bob wythnos byddai rhifynnau o’r Papur Llafar yn cael eu darlledu ar Radio Glangwili – gwasanaeth arbennig i gleifion Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin. Darlledwyd yr atodiadau misol hefyd – yn y ddwy iaith.

Yn stiwdios Radio Glangwili y recordiwyd y Papur Llafar i ddechrau gyda Sulwyn Thomas, a ddaeth maes o law yn ddarlledwr amlwg ar BBC Radio Cymru, yn chwarae rhan flaenllaw. Yna, gydag ymddangosiad y Llyfrau Llafar, symudwyd i stiwdios pwrpasol ar wahân. Mae’r ddwy elusen wedi rhannu stiwdios a swyddfeydd.

Drwy gydol yr amser fe gefnogwyd y Llyfrau Llafar gan gymdeithasau i’r Deillion.[2]

Sefydlu Gwasnaeth Unedig[golygu | golygu cod]

Yn 1979 dan arweiniad Rhian Evans, llyfrgellydd ym Mhrifysgol Cymru Drindod Dewi Sant (Coleg y Drindod ar y pryd). Roedd ei golwg yn gwaethygu a meddyliodd y byddai’n syniad gwych i fenthyg llyfrau Cymraeg ar gasét am ddim. Fe’i cefnogwyd yn syth gan y llyfrgellydd adnabyddus a dylanwadol, Alun R. Edwards, Prif Lyfrgellydd Dyfed. Ariannwyd y gwasanaeth gwreiddiol gan Gynllun Creu Gwaith y Llywodraeth San Steffan. Bedair blynedd ynghynt roedd Rhian wedi dechrau’r Papur Llafar a gai ei recordio yn Radio Glangwili, Gwasanaeth Radio Ysbyty Caerfyrddin.

Ym 1989 pan ddaeth cynllun cyllido’r Llywodraeth i ben, ond daeth Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru i’r adwy. Fe recordiwyd rhai llyfrau ym Mangor ond Caerfyrddin oedd y brif ganolfan recordio dan arweiniad Rhian. Rhoddwyd pwyslais ar recordio Llyfrau Cymraeg ar y dechrau, yna, pan sylweddolwyd bod yna alw, aethpwyd ati i recordio llyfrau Saesneg oedd yn berthnasol i Gymru ar gasét – 2,000 i gyd.

Tua diwedd 2010 roedd Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn wynebu trafferthion ariannol. Un cynnig oedd cau stiwdio Caerfyrddin, symud yr holl deitlau i Fangor gan adael dau weithiwr rhan amser heb swydd.

Ffurfiwyd pwyllgor i geisio achub y gwasanaeth allweddol yma i ddeillion, y rhannol ddall a’r rhai sy’n cael trafferth i ddarllen print yng Nghaerfyrddin. O fewn misoedd llwyddwyd i gael grant o £35,000 gan Lywodraeth Cymru i ail lawnsio’r hen gynllun casátiau fel Llyfrau Llafar Cymru/ Talking Books Wales.

Bydd y gwasanaeth newydd yn cael ei lawnsio’n swyddogol ar y 24 Ionawr 2012 ym Mae Caerdydd.

Cyllido[golygu | golygu cod]

Daw cyllideb i'r gwasanaeth o wahanol ffyrdd gan gynnwys Cronfa'r Loteri Genedlaethol a chyfraniadau mewn ewyllysiau a digwyddiadau codi arian.[3]

Gwasanaeth tebyg yn y Gogledd[golygu | golygu cod]

[4] Ceir hefyd wasanaeth debyg gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru lle bydd gwirfoddolwyr yn recordio darlleniadau o lyfrau Cymraeg.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Yr Ugain Uchaf". Gwefan Gwasg y Lolfa. Cyrchwyd 25 Ebrill 2023.
  2. "Cefndir". Gwefan Llyfrau Llafar Cymru. Cyrchwyd 25 Ebrill 2023.
  3. "Newyddion". Gwefan Llyfrau Llafar Cymru. Cyrchwyd 25 Ebrill 2023.
  4. "Hanes". Gwefan Llyfrau Llafar Cymru. Cyrchwyd 24 Ebrill 2023.
  5. "Llyfrau Llafar i Oedolion". Gwefan Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-04-24. Cyrchwyd 24 Ebrill 2023.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.