Ffôn symudol

Oddi ar Wicipedia
Datblygiad y ffôn symudol, o 1994 (Motorola 8900X-2) i 2004 (HTC Typhoon).

Radio-teleffon di-wifr bychan cludadwy a ddefnyddir i drawsyrru llais neu ddata i ffôn arall yw ffôn symudol, ffôn llaw neu, weithiau, ffôn lôn (Saesneg mobile phone neu ar lafar mobile).

Teclun electronig ydyw sy'n trawsyrru'r wybodaeth yn ddigidol o orsaf (neu fast) i orsaf, ar ffurf rhwydwaith. Gall drosglwyddo sawl math o wasanaeth megis GSM, a SMS i ddanfon neges destun, ebost, neu gysylltiad gyda'r rhyngrwyd, gemau, bluetooth, cyfathrebu isgoch (infrared), fideo ac MMS a ddefnyddir i ddanfon a derbyn delweddau a fideo. Erbyn 2013 roedd system band llydan 4G wedi cyrraedd gwledydd Prydain a olygai fod gwylio ffilmiau byw neu tele-gynadledda'n bosib ar y ffôn llaw.

Datblygiad[golygu | golygu cod]

Yn 1914 roedd byddin Lloegr wedi datblygu math o ffôn cludadwy ar gyfer gogledd Iwerddon, ffôn a oedd mewn dwy ran: y rhan siarad a gwrando gyda gwifr yn ei gysylltu i flwch gyda batri a generadur llaw i greu trydan.[1] Yn ôl dogfennau mewnol y cwmni AT&T (American Telephone & Telegraph), bu trafodaethau yngŷn â datblygu ffôn diwifrau yn 1915, ond roedd y cwmni'n ofni y byddai rhyddhau ffonau o'r fath yn tanseilio ei fonopoli ar y ffôn wifren yn yr Unol Daleithiau.

Lansiwyd y ffôn llaw cyntaf ar y farchnad yn Siapan a hynny yn 1978; roedd y batri'n para tuag 20 munud. Yn 1971 datblygwyd y "Radiotelephone Chopper" ar gyfer yr "Ideal Home Exhibition" yn Olympia a oedd yn gyfuniad o feic a ffôn. Yn 1973 roedd ffôn un darn wedi'i greu gan Bell Labvs, a gwnaed yr alwad cyntaf arno gan Martin Cooper pan ffoniodd ei gydweithiwr Joel Engel. Erbyn Tachwedd 2007 roedd 3.3 biliwn ohonynt wedi cael eu gwerthu led-led y byd h.y. roedd 'na 1 ffôn i bob dau berson ar y blaned! Mae hyn yn gwneud y ddyfais defnyddiol hwn y teclun electronig mwyaf poblogaidd yn y byd.[2] Y ffôn cyntaf i ddarparu cysylltiad i'r rhyngrwyd ac ebost oedd y Nokia Communicator a lansiwyd yn 1996, lansiad a sefydlodd math newydd a drudfawr o ffonau symudol a alwyd yn ffonau clyfar (neu smartphones). Yn 1999 cynigiodd gwasanaeth i-mode a WAP gan NTT DoCoMo yn Siapan, gwasanaeth rhyngrwyd i weithio law-yn-llaw gyda'r cyfrifiadur.

Defnyddiwyd sglodyn ffôn (heb y cyfarpar sgwrsio) i fonitro larymau tŷ a swyddfeydd o tua 2005 ymlaen; yn 2002 dechreuodd Cyngor Swydd Gaergrawnt eu gosod ar finiau lludw er mwyn hysbysu eu hadran gwagio biniau pa bryd roedd y bin yn llawn. Cânt hefyd eu gosod ar lampau stryd er mwyn eu diffodd ar adegau tawel er mwyn arbed trydan.[1]

System o gelloedd[golygu | golygu cod]

Mast ffonau symudol

Signal radio sy'n cael ei ddanfon a'i dderbyn gan y ffôn llaw a hynny mewn ardal gellog (cell site) gyda mast neu dŵr, polyn neu adeilad yn gwneud y gwaith odrwy gyfrwng microdonnau radio wedi'u cysylltu â rhwydwaith cebl cyfathrebu a system switsio (switching system). Mae gan y ffôn symudol trawsyrrydd bychan i drosglwydo llais a data i'r ardal gellog agosaf (sydd fel arfer o fewn 8 i 13 km i ffwrdd).

Roedd rhai ffonau ar y cychwyn yn defnyddio trawsyrrydd allanol (y carphone, h.y. wedi'i osod mewn cerbyd modur) a chyfyngwyd pŵer y trawsyrrydd i lai na 3 watt ERP neu Bŵer Ymbelydrol Effeithiol (Effective Radiated Power). Erbyn hyn, wrth gwrs, mae'r trawsyrrydd yn y ffôn llaw - a hwnnw wedi'i leoli o fewn milimetrau i'r pen. Gosodwyd uchafwsm o 0.6 watt o bŵer ar y ffonau hyn. Er bod y ffonau modern yn saffach, maen nhw gryn dipyn yn wanach ac felly mae' rhaid cael mwy o fastiau - a'r rheiny'n nes at ei gilydd. Yng nghefn gwlad Cymru, mae hyn yn amlwg; er bod rhai mastiau wedi eu cuddliwio'n grefftus i edrych fel coed!

Y Ffonau[golygu | golygu cod]

Nokia sy'n cynhyrchu fwyaf o ffonau symudol gan gipio 40% o'r farchnad yn 2008. Yn eu dilyn y mae: Samsung (14%), Motorola (14%), Sony Ericson (9%) ac LG gyda 7%.[3] Dyna i chi 80% o'r farchnad wedi'i gymryd gan lond dwrn o gwmniau.

Anelwyd gwahanol fathau o ffonau at wahanol haenau o gymdeithas e.e. anelwyd y RIM Blackberry ar gwsmeriaid corfforaethol a'u defydd helaeth o ebost; ac anelwyd y SonyEricsson Walkman (musicphones) at y cerddor, y gyfres Cybershot (cameraphones) ar gyfer y ffotograffydd a chyfres Nokia N fel camera aml-gyfrwng. Mae hyn i gyd yn bosib gan fod y co-bach (neu'r memory stick yn Saesneg) wedi cynyddu yn ei faint mor aruthrol.

Ffôn Symudol Cymraeg[golygu | golygu cod]

Ym mis Awst 2009, cyhoeddodd y cwmni ffôn Samsung ei fod am wneud hanes yn y diwydiant ffonau symudol trwy gynhyrchu meddalwedd rhyngwyneb ffôn symudol yn yr iaith Gymraeg - y ffôn Cymraeg cyntaf yn y byd. Mae'r cwmni'n gweithio mewn partneriaeth efo Orange ac fe fydd y model S5600 yn arddangos yn y siopau o'r 1 Medi 2009. Fe fydd gan y ffôn eiriadur efo 44,000 gair Cymraeg ar gyfer negeseuon tecstio darogan (predictive text) a dewislenni hollol Gymraeg.[4] [5][6][7]

Y Samsung S5600

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 The Daily Telegraph; The Revolution has Just Began; tudalen V1; 20 Ebrill 2013.
  2. Reuters
  3. "Datganiad y Wasg gan IDC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-04. Cyrchwyd 2008-07-24.
  4. (Saesneg)BBC News, Cymru Wales - Ffôn symudol ar gyfer siaradwyr y Gymraeg
  5. (Saesneg)WalesOnline - Lansir Samsung/Orange ffôn symudol yn y Gymraeg
  6. Y ffôn symudol Cymraeg cynta (BBC Cymru, Newyddion)
  7. (Saesneg)Newyddion BBC Cymru - Welsh language mobile launched

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am ffôn symudol
yn Wiciadur.