Sgwrs:Ffôn symudol

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Diolch Anatiomaros. Doeddwn i ddim yn medru rhoi'r acen grom ar Deitl. Llywelyn lll 23:04, 24 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]


Dewis o dair ffordd - 1. copïo o destun arall, 2. creu'r dudalen e.e. "ffon llaw" a rhoi "ffôn llaw" yn y testun, safio, copïo'r geiriau "Ffôn llaw" ac wedyn symud y dudalen (mae'n syniad da i ailgyfeirio'r gair heb yr acen yno beth bynnag am na fydd y rhan fwyaf o bobl sy'n chwilio amdani yn medru rhoi'r acen yn y blwch Chwilio). 3. Os wyt ti'n iwsio Windows, mae na beth o'r enw "Character Map" sy'n cynnwys ffontiau ac acenion o bob math. I gael o rhowch "charmap.exe" yn "Chwilio" yn Windows (neu ewch i System32 a'i ffindio fan'na os wyt ti'n gyfarwydd a gwneud hynny). Cliciwch ar y ffeil (ond dim ei agor) gyda'r botwm de; bydd rhestr yn dod i fyny; dewis "creu shortcut" i gael llwybr byr ar y desktop; hawdd dragio hynny ar y bar llywio hefyd fel ei fod ar gael trwy'r amser. Yr olaf ydy'r gorau a dydy mond yn gymhleth i esbonio; mae'n eitha hawdd i wneud! Gobeithio bydd hynny'n arbed trafferth i ti yn y dyfodol. :)
ON Cofia rhoi pedair tilde (~~~~) i gael llofnod. Anatiomaros 22:04, 24 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Wannwl! Dwi wrth draed Gamaliel! Diolch iti! Mae'r uchod yn ddigon clir i mi rwan. Ond saif un peth: soni am 'ailgyfeirio'r gair' - sut? Bum yn chwilio am hir am y gallu i ailgyfeirio 'Ffon Llaw' a hefyd 'Ffon symudol' i fy nhudalen newydd. Ond yn ofer! Diolch eto. Bois bach! Dwi newydd ei ffindio yn y rhes glas o fotymau! Hwre! Llywelyn lll 23:04, 24 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Newydd drio'r ailgyfeirio... ond yn ofer! Llywelyn lll 23:07, 24 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Newydd ddod yn ôl a gweld hyn. Gamaliel? Nefoedd wen, dwi'n mynd i fyny yn y byd, Llywelyn! Am yr ailgyfeirio (i dudalen sydd yno'n barod wyt ti'n feddwl?). Rho y gair/geiriau yn "Chwilio". Clicio "Mynd" ac mae tudalen wag yn agor (neu restr o gyfeiriadau gyda dolen goch ar ben y dudalen - clicia'r ddolen goch). O'r nodau ayyb yn yr offer dan waelod y dalen clicio ar #REDIRECT [[]] a rho'r gair/geiriau gyda'r acen rhwng y cromfachau [[]]. Rhagolwg i weld ei fod yn weithio; cadw'r dudalen! Pob lwc! Anatiomaros 23:28, 24 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
ON Os wyt ti wedi symud y dudalen i enw newydd does dim angen ailgyfeirio - mae hynny'n digwydd yn awtomatig (e.e. trio rhoi "ffon llaw" yn chwilio ac mi eiff i "ffôn llaw" rwan, rôl iti glicio Mynd). Anatiomaros 23:35, 24 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
ONN Cofia am y tudalennau Cymorth ("Cymorth" yn y panel llywio ar y chwith). Nos da! Anatiomaros 23:39, 24 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Diawc! Mi weithiodd y tro cyntaf. Mae dy gyfarwyddyd di'n haws na'r 'Cymorth' swyddogol! Diolch. Llywelyn lll 21:12, 31 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Ffon Symudol[golygu cod]

Dwi lled gredu efallai y dylem dderbyn Ffôn symodol fel y ffurf dominant (!) ac nid ffôn lôn, yn bennaf gan fod 'symudol' yn cael ei dderbyn ar ôl geiriau eraill megis PDA symudol, Tom-tom symudol ac yn llawer mwy naturiol na 'cludadwy'. Er bod ffôn lôn yn slic ac yn odli, dwi'n meddwl y dylwn ei ailgyfeirio at Ffôn symodol os nad oes gwrthwynebiad. Llywelyn2000 06:39, 23 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Gan nad oes neb yn gwrthwynebu, mi wna i hyn. Llywelyn2000 08:44, 30 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Dwi'n meddwl dy fod yn iawn. Mae "ffôn lôn" yn enw da ond y ffurf safonol ydy "ffôn symudol" a dylem ni geisio gadw at yr enw amlycaf neu fwyaf cyffredin wrth roi teitlau i erthyglau (dyna ydy'r polisi ar wicipedia yn gyffredinol ac mae'n gwneud synnwyr - er bod pobl yn dal i anghytuno weithiau, wrth gwrs!). Anatiomaros 14:31, 30 Awst 2008 (UTC)[ateb]