Royal National Institute of Blind People

Oddi ar Wicipedia
Royal National Institute of Blind People
Enghraifft o'r canlynolsefydliad elusennol, sefydliad, disability rights organization Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1868 Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolDAISY Consortium, International Federation of Library Associations and Institutions Edit this on Wikidata
Gweithwyr1,412, 1,670, 1,802, 2,083, 2,335 Edit this on Wikidata
PencadlysJudd Street, Great Portland Street Edit this on Wikidata
RhanbarthLlundain Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.rnib.org.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Pencadlys yr RNIB yn Judd St, Llundain

Mae'r Royal National Institute of Blind People a adnebir hefyd yn Gymraeg fel Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (yn fwy cyffredin ar lafar wrth y talfyriad Saesneg wreiddiol, RNIB) gyda'i phencadlys yn Llundain ac yn elusen ar gyfer pobl ddall, rhannol ddall a nam ar y golwg.

Mae'r sefydliad hwn yn darparu gwybodaeth a chymorth yn ogystal ag offer materol neu anfaterol ym maes hygyrchedd i'r rhai â nam ar eu golwg.[1] Mae'r sefydliad wedi bod drwy sawl man newid i'w henw ers ei sefydlu yn 1868.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd yr RNIB ei sefydlu gan Thomas Rhodes Armitage, meddyg oedd â phroblemau golwg.

Ym 1868, sefydlodd Armitage fudiad o'r enw y British and Foreign Society for Improving Embossed Literature for the Blind.[2] Daeth hon yn ddiweddarach yn British and Foreign Blind Association.[2]Ym 1875 daeth y Frenhines Fictoria yn noddwr cyntaf y mudiad.[2]

Derbyniodd y sefydliad Siarter Brenhinol ym 1948, a newidiodd ei enw i Royal National Institute for the Blind (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion) ym 1953.[2] Yn 2002, cyflwynwyd aelodaeth RNIB a newidiwyd enw'r sefydliad i Royal National Institute of the Blind.[2] Ym mis Mehefin 2007 newidiodd y sefydliad ei enw eto, i Royal National Institute of Blind People.[2]

Mae gwestai sy’n eiddo i RNIB yn y DU wedi’u haddasu ar gyfer ymwelwyr â nam ar eu golwg gan gynnwys The Century Hotel yn Blackpool ond cafodd y rhain eu cau neu eu gwerthu oherwydd costau rhedeg gormodol. Perchnogion hefyd oedd America Lodge yn Torquay, Dyfnaint a oedd yn ganolfan adsefydlu. Mae America Lodge bellach yn eiddo preifat ac wedi'i drawsnewid yn fflatiau.

Y Sefydliad[golygu | golygu cod]

Mae'r RNIB yn sefydliad Brydeinig gyda changhennau a gwasanaethau ledled y Deyrnas Unedig gan gynnwys Gogledd Iwerddon.[2] Mae pencadlys yr elusen yn Llundai. Noddwr RNIB oedd y Frenhines Elizabeth II, gellir disgwyl i'r mab, Charles III, dilyn yn ei ôl traed.

Ym mis Hydref 2008, cytunodd RNIB ac Action for Blind People mewn egwyddor i gyfuno rhai gwasanaethau ledled Lloegr. Dechreuodd y trefniant newydd ym mis Ebrill 2009, gan arwain at Action for Blind People yn dod yn Elusen Gyswllt i RNIB.[3]

Cefnogir gwaith RNIB gan fwy na 3,000 o wirfoddolwyr ledled y DU.[4]

RNIB Cymru[golygu | golygu cod]

Arwyddlun RNIB Gogledd Iwerddon yn Omagh

Ceir strwthur Gymreig o fewn y corff Brydeinig (fel sydd i'r Alban a Gogledd Iwerddon) gyda swyddfa yng Nghaerdydd. Yn ôl y wefan mae oddeutu 110,000 o bobl yng Nghymru sy'n diodded o ddallineb neu anhawster gweld. Mae dros 4,000 o bobl sydd wedi eu cofrestru'n ddall neu rhanol dall Cymru yn mewn gwaith cyflogedig.[5]

Ceir hefyd gynllun iaith Gymraeg gan y sefydliad sy'n cydnabod bod yna bobl ddall sy'n siarad Cymraeg yn naturiol ac sy'n anelu i ddiwallu eu anghenion.[6]

Yr RNIB yw'r prif fudiad ar gyfer pobl ag anabledd gweledol yng Nghymru, ond ceir rhai eraill. Yn eu mysg mae Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru sydd â phencadlys ym Mangor[7] ac sydd wedi gwneud gwaith pwysig mewn sawl maes gan gynnwys darparu llyfrau llafar i bobl eu mwynhau. Mae Llyfrau Llafar Cymru a leolir yng Nghaerfyrddin hefyd yn gefn i'r gymuned ddall.

Gweithgareddau[golygu | golygu cod]

Rhoddir yr RNIB fel gweithgareddau: Atal colli golwg y gellir ei osgoi, cefnogaeth a gwybodaeth i bobl â nam ar eu golwg, gofal mewn cartrefi arbenigol neu mewn ysgolion, darparu cynhyrchion sy'n hyrwyddo hygyrchedd.

Codi arian[golygu | golygu cod]

Am bob punt a roddir, mae RNIB yn gwario 87c yn uniongyrchol ar helpu pobl ddall a rhannol ddall, 11c ar godi mwy o arian, a 2c ar weinyddu.[8] Mae RNIB yn trefnu digwyddiadau codi arian yn y DU a thramor, yn ogystal â rafflau, cynlluniau ailgylchu, rhoddion cymynroddion, codi arian ar-lein a phartneriaethau corfforaethol.[9]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Welcome to RNIB". RNIB - See differently.[dolen marw]
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 "Our history". RNIB - See differently (yn Saesneg). 2014-02-24. Cyrchwyd 2020-06-26.
  3. "Association with Action for Blind People". Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 30, 2011.
  4. "Volunteering". 18 February 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-24. Cyrchwyd 2023-04-26.
  5. "More from Wales". Gwefan yr IRNB. Cyrchwyd 26 Ebrill 2023.
  6. "Cynllun Iaith Cymraeg Grŵp yr RNIB". Gwefan RNIB. Cyrchwyd 26 Ebrill 2023.
  7. "Elusennau a mudiadau sy'n darparu cymorth". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-04-27. Cyrchwyd 27 Ebrill 2023. Unknown parameter |publiher= ignored (|publisher= suggested) (help)
  8. "Annual review and report".
  9. "Donations and fundraising". RNIB - See differently (yn Saesneg). 2014-02-19. Cyrchwyd 2020-06-26.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am feddygaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.