Piwbis

Llun allan o Gray's Anatomy yn dangos lleoliad y piwbis.
Mewn anatomeg ddynol, fe all y gair piwbis gyfeirio at asgwrn yn y pelfis neu at y cnawd sydd drosto (y mons piwbis). Gellir teimlo'r asgwrn hwn gan ei fod yn ymwthio allan megis bryncyn yn y corff dynol, islaw'r cedor. Enw'r rhan flaen asgwrn y piwbis yw'r 'ramws' blaen. Mae'r piwbis yn un o dri prif asgwrn y pelfis.
Mae esgyrn y clun (chwith a dde) yn cysylltu ag e yn yr hyn a elwir yn 'piwbic symffysis'.