Fylfa

Oddi ar Wicipedia
Organau cenhedlu benywaidd
  1. tiwbiau Ffalopaidd
  2. pledren
  3. pwbis
  4. man G
  5. clitoris
  6. wrethra
  7. gwain
  8. ofari, neu wygell
  9. coluddyn mawr
  10. croth
  11. ffornics
  12. ceg y groth
  13. rectwm
  14. anws

Fylfa yw'r enw cyfunol am yr organau cenhedlu allanol benywaidd, o'r gair Lladin volva sy'n cynnwys y labia majora, y mons Veneris, y labia minora, y clitoris, hollt Gwener, agoriad y wain a strwythurau eraill o fewn y fylfa.

Mae'n datblygu'n bennaf mewn dau gyfnod yn oes y ferch: yn y ffoetws a glasoed. Dyma'r agoriad i'r groth ac mae gan yr agoriad ddrysau dwbwl: y labia majora a'r labia minora. Ceir bacteria naturiol oddi fewn iddo, ond mae glanhau'r rhan allanol yn ddigon, fel arfer; mae'r fylfa'n debycach o ddal haint, fodd bynnag, nac ydy'r pidyn.

Mae i'r fylfa, hefyd, ei bwrpas rhywiol ac maent yn rhoi pleser aruthrol i'r ferch pan gant eu cyffwrdd yn dyner.

Delwedd:Vulva Diversity.jpg
Fylfa dynol

Ar lafar gwlad, mae pbol yn cyfeirio at y rhan hon o'r ferch fel 'cont', 'gwain' neu 'fagina', er mai oddi fewn y mae'r rheiny i'r anatomegydd ac nid y rhan allanol. Yn yr erthygl hon, cyfeirir at fylfa bod dynol; mae fylfa y rhan fwyaf o anifeiliaid, fodd bynnag, yn ddigon tebyg.

Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.