Labia
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Gwefus ar ymyl gwain neu gont merch ydy labia. Gair lluosog ydyw; labiwm ydy'r unigol ond pur anaml y caiff y gair yma ei ddefnyddio. Mae'n dod o'r gair Lladin am wefus. Mae'r labia yn rhan o'r fwlfa.
Maent i'w gweld o bopty i hollt Gwener ac maent wedi'u gwneud allan o feinwe (Saesneg: tissue) a chroen. Dônt at ei gilydd jest o dan mwnt Gwener (yn ffrynt y corff) gan orchuddio'r clitoris yn rhanol neu'n gyfan.
Mae'r rhan fwyaf o bobloedd y byd yn eu gorchuddio gyda dillad megis nicyrs, pais neu sgert. Er hyn, ceir rhai merched sy'n rhoi pindlws drwy'r croen.
|