Åland
| Math | rhanbarth ymreolaethol |
|---|---|
| Prifddinas | Mariehamn |
| Poblogaeth | 30,836 |
| Anthem | Ålänningens sång |
| Pennaeth llywodraeth | Katrin Sjögren |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Swedeg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Gogledd Ewrop, Gwledydd Nordig |
| Gwlad | Y Ffindir |
| Arwynebedd | 1,582.93 km² |
| Uwch y môr | 129 metr |
| Gerllaw | Sea of Åland, Archipelago Sea |
| Yn ffinio gyda | Southwest Finland, Sir Stockholm, Sir Uppsala, dyfroedd rhyngwladol |
| Cyfesurynnau | 60.25°N 20°E |
| FI-01 | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Government of Åland |
| Corff deddfwriaethol | Senedd Aland |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Lantråd |
| Pennaeth y Llywodraeth | Katrin Sjögren |
![]() | |
| CMC y pen | 1,194 million € |
| Arian | Ewro |
Rhanbarth neu 'ymreolaeth' sy'n perthyn i'r Ffindir, yn ne-orllewin y Ffindir yn nwyrain Môr Åland yn y Môr Baltig yw Åland neu Ynysoedd Åland (Swedeg: Åland Skärgård, Ffinneg: Ahvenanmaa). Swedeg yw iaith swyddogol yr ynysoedd.[1] Saif ger aber Gwlff Bothnia. Mae'r casgliad hwn o ysnysoedd yr archipelago, gyda'i gilydd, yn cael eu hystyried fel y rhanbarth lleiaf o Ffindir, ac yn gyfanswm o 0.49% o arwynebedd y Ffindir a 0.50% o'i phoblogaeth.
Y brif ynys yw Fasta Åland ac arni y trig 90% o boblogaeth ymreolaeth Åland[2] a cheir dros 6,500 o ynysoedd eraill i'r dwyrain o Fasta Åland. Rhyngddi â thir mawr Sweden, gorwedd 38 km (24 milltir) o fôr.
Gan mai rhanbarth sy'n ymreoli ei hunan ydyw, mae'r rhan fwyaf o rymoedd deddfwriaethol yn cael eu gweinyddu gan Lywodraeth Åland ei hun, yn hytrach na Llywodraeth y Ffindir.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Proto-Norweg yw tarddiad yr enw Åland, a'r gair gwreiddiol, mae'n debyg, oedd *Ahvaland sy'n golygu "Y tir a wnaed o ddŵr". Yn Swedeg datblygodd (neu newidiodd y gair yn nhreigl y blynyddoedd) i Åland, sy'n golygu'n llythrennol "Tir afon", er mai pethau digon prin yw afonydd yn naearyddiaeth Åland. Enw Ffinneg yr ynys ydy Ahvenanmaa.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Aland Islands. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Ionawr 2014.
- ↑ "The Åland Islands". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-09. Cyrchwyd 2015-01-09.
- ↑ Virrankoski, Pauli. Suomen historia. Ensimmäinen osa. SKS 2001. ISBN 951-746-321-9. Page 59.
