De Osetia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth De Ossetia)
Jump to navigation Jump to search
Lleoliad De Osetia ar fap o Georgia
Ossetia05.png
Cofeb yn Tskhinvali i'r rhai a syrthiodd yn y frwydr dros annibyniaeth

Tiriogaeth ddadleuol yn y Cawcasws yw De Osetia (Oseteg: Хуссар Ирыстон, Khussar Iryston; Georgeg: სამხრეთ ოსეთი, Samkhret Oseti; Rwseg: Южная Осетия, Yuzhnaya Osetiya). Yn ôl cyfraith ryngwladol, mae'n rhan de jure o weriniaeth Georgia, ond mae'n weriniaeth annibynnol de facto gyda chysylltiadau agos â Gogledd Osetia, sy'n rhan o Ffederasiwn Rwsia. Yn hanesyddol, mae'n rhan o Osetia, un o sawl cenedl hanesyddol bychan yn y Cawcasws. Tskhinvali yw'r brifddinas. Cydnabyddir De Osetia gan ychydig o wledydd eraill yn unig.

Mae tua 60-70% o'r boblogaeth yn Osetiaid, ac yn Gristnogion sy'n siarad iaith sy'n debyg i Farsi. Mae gweddill y boblogaeth, yn bennaf yn y de, yn Georgiaid.

Cyhoeddwyd gweriniaeth annibynnol De Osetia gan wrthyfelwyr yn erbyn awdurdod Georgia yn 2001, ar ôl cyfnod o anghydfod a gwrthryfel. Erbyn heddiw mae tua 90% o boblogaeth y diriogaeth yn dal pasbortau Rwsiaidd, a hynny ar anogaeth Rwsia ei hun. Sefydlwyd llu heddwch yn y diriogaeth, yn cynnwys milwyr Rwsiaidd yn bennaf ac unedau o fyddin Georgia.

Yn ystod y nos ar 7 Awst 2008, ymosododd lluoedd arfog Georgia ar y gwrthryfelwyr a bomiwyd rhannau o ddinas Tskhinvali gan gychwyn Rhyfel De Osetia. Ymateb Rwsia, a oedd wedi bod yn crynhoi adnoddau milwrol ar y ffin am tua dau fis, oedd anfon ei milwyr i mewn i Dde Osetia.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]