Jan Mayen
| Math | ynys, sir, tiriogaeth dramor gyfannol, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Jan Jacobszoon May van Schellinkhout |
| Prifddinas | Olonkinbyen |
| Poblogaeth | 18 |
| Cylchfa amser | UTC+01:00 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Norwyeg |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Norwy |
| Arwynebedd | 377 km² |
| Uwch y môr | 2,277 metr |
| Gerllaw | Cefnfor yr Arctig, Greenland Sea, Môr Norwy |
| Cyfesurynnau | 70.983°N 8.5336°W |
| Cod post | 8099 |
| NO-22 | |
| Hyd | 54 cilometr |
![]() | |
Ynys fwlcanig yng Nghefnfor yr Arctig yw Jan Mayen. Mae'n rhan sofranaidd o Norwy. Gyda Svalbard, mae'n rhan o Svalbard a Jan Mayen. Does neb yn byw yno yn barhaol, er bod anheddiad bach Olonkinbyen yn cael ei weithredu gan ychydig o aelodau o Luoedd Arfog a Sefydliad Meteorolegol Norwy.
Hyd yr ynys yw 55 km (34 milltir) gyda arwynebedd o 373 km² (144 milltir sgwar); fe'i gorchuddir yn rhannol gan rewlifoedd (ardal o 114.2 km (71.0 milltir) o gwmpas mynydd Beerenberg). Fe'i rhennir yn ddwy ran, sef Nord-Jan yn y gogledd-ddwyrain (y rhan fwyaf) a'r Sør-Jan llai, a gysylltir gan isthmus o dir gyda lled o 2.5 km (1.6 milltir). Mae'n gorwedd 600 km (370 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o Wlad yr Iâ, 500 km (310 milltir) i'r dwyrain o ganolbarth yr Ynys Las a 1,000 km (620 milltir) i'r gorllewin o Nordkapp, Norwy. Mae'n ynys fynyddig; ei phwynt uchaf yw llosgfynydd Beerenberg yn y gogledd. Lleolir dau lyn fwyaf yr ynys ger yr isthmus, sef Sørlaguna a Nordlaguna. Ceir llyn arall a enwir yn Ullerenglaguna hefyd.
