Sir

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Am ystyron eraill o swydd, gweler galwedigaeth (gwahaniaethu).
Siroedd Cymru wedi'r Deddfau Uno 1536 a 1542

Uned llywodraeth leol yw sir neu swydd.

Etymoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Daw'r gair 'sir' o'r Saesneg shire.[1] Mae'r gair 'shire' yn hŷn na'r term mwy cyffredin am sir yn y Saesneg heddiw, sef county ac yn deillio o drefn llywodraeth leol Eingl-Sacsoneg.[2] Mae'r term yn deillio o'r Hen Ffrangeg conté neu cunté sy'n dynodi awdurdodaeth o dan sofraniaeth 'count' (iarll) neu viscount (is-iarll). [2] Diddorol yw nodi bod y gair Cymraeg 'iarll' yn dod o'r Hen Norseg, jarl a gwelir wrth yn y Saesneg fel 'earldom'.

Siroedd Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd gan Gymru ei system llywodraeth leol gynhenid ei hun lle trefnwyd is-adrannau gweinyddol fewn i: Cantref (lluosog: cantrefi) a Cwmwd (lluosog: cymydau).

Gyda'r goncwest Seisnig yn gyntaf crewyd 7 sir newydd wedi lladd Llywelyn ap Gruffudd yn 1282 a meddiannu ei diroedd (Sir Fôn, Sir Gaernarfon, Sir Feirionnydd, Sir Aberteifi, Sir Gaerfyrddin i ychwanegu ar Sir Benfro a grewyd yn sir yn 1138. Yna wedi'r Deddfau Uno Cymru a Lloegr crewyd y gweddill o'r 'Hen Siroedd' sef Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed, Sir Frycheiniog, Sir Forgannwg a Sir Fynwy o hen Arglwyddiaethau'r Mers.

Ad-drefnwyd hen siroedd Cymru wedi Deddf Llywodraeth Leol 1972 ac yn 1974 i crewyd 8 sir newydd: Gwynedd, Clwyd, Powys, Dyfed, Gorllewin Morgannwg, De Morgannwg, Morgannwg Ganol, a Gwent. O dan y cynghorau sir yma roedd cynghorau dosbarth gyda sawl un wedi ei seilio ar yr hen siroedd blaenorol e.e. Cyngor Dosbarth Ceredigion.

Wedi Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 cafwyd ad-drefniad arall gan greu 22 uned lywodraeth leol a elwir yn awdurdodau unedol neu, ar lafar ac yn swyddogol, yn 'Sir' neu 'Bwrdeistref Sirol'.

Rhyngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Siroedd USA
Siroedd Estonia

Yn wahanol i unedau llywodraeth leol eraill fel Llywodraethiaethau sydd bellach yn dueddol o'i cysylltu ag elfen o apwyntio Llywodraethwyr gan y llywodraeth ganolog neu filwrol, mae i'r cysyniad o sir awgrymiad cryfach o lywodraeth ddemocrataidd wedi ei hethol yn lleol a gydag hawliau yn annibynnol o'r canol.

Er bod y term yn cael ei gysylltu'n bennaf â gwledydd Prydain ac Iwerddon, ceir siroedd/swyddi, neu unedau sy'n cyfateb yn agos iddynt, mewn sawl gwlad, yn cynnwys:

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am sir
yn Wiciadur.
Globe stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Society.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.