Y Mers

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Arglwyddiaethau'r Mers)
Y Mers
Enghraifft o'r canlynolrhanbarth Edit this on Wikidata
Cymru yn 1234 (Marchia Wallie a Pura Wallia)[1]

     Pura Wallia (Cymru Rydd)     Tirioedd a feddianwyd gan Llywelyn Fawr yn 1234     Marchia Wallie (tiroedd bwrwniaid estron y Mers.)
Am yr ardal ddaearyddol gyfoes, gweler Gororau Cymru.

Y Mers (Saesneg: The March(es)) yw'r enw Cymraeg am y tiriogaethau Normanaidd a orweddai rhwng y Gymru Gymreig annibynnol a Lloegr yn yr Oesoedd Canol.

Fe'i rheolid gan deuluoedd Normanaidd grymus o'u canolfannau yng Nghaer, Amwythig a Henffordd. Yn raddol, trwy gydbriodas, cymathwyd y teuluoedd hyn i deuluoedd uchelwrol Cymreig a Seisnig ac mewn canlyniad mae haneswyr yn tueddu i'w galw yn Eingl-Normaniaid a/neu, yn fwy diweddar, yn Gambro-Normaniaid. Mae'r term yn cynnwys yr arglwyddiaethau mwy diweddar a grëwyd ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru yn 1282-83, e.e. Swydd y Waun, Brwmffild a Iâl ac Arglwyddiaeth Dinbych. Yn ogystal, mae tiriogaethau'r Normaniaid yn ne Cymru, o Went i Sir Benfro, yn cael eu cynnwys hefyd, fel rheol.

Rhestr arglwyddiaethau'r Mers[golygu | golygu cod]

Mae'r rhestr yma[2][3] yn cynnwys unedau a grewyd gan yr arglwyddi Normanaidd yn ogystal ag unedau Cymreig - cymydau ac ati - a aeth i'w meddiant. Nodir yr enwau Saesneg/ffurfiau Seisnigaidd yn achos enwau sydd efallai'n llai cyfarwydd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyngor Sir Wrecsam, The Princes and the Marcher Lords
  2. R. R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1991), atodiad
  3. John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1990), t.223, map Deddf Uno 1536