Colunwy

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Colunwy
Math cwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Y Mers, Teyrnas Powys Edit this on Wikidata
Sir Teyrnas Powys, Swydd Amwythig Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Gerllaw Afon Tefeidiad Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Ceri, Maelienydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.4214°N 3.0297°W Edit this on Wikidata

Yn yr Oesoedd Canol, arglwyddiaeth yn Swydd Amwythig wrth y ffin â Chymru oedd Colunwy (Saesneg: Clun). Cyn hynny bu'n rhan o hen deyrnas Powys, efallai fel cwmwd yn y deyrnas honno.

Yn yr Oesoedd Canol Cynnar, bu Colunwy yn rhan o Bowys ar adeg pan roedd y deyrnas honno yn cynnwys rhan sylweddol o'r Swydd Amwythig ddiweddarach a rhan o Swydd Henffordd. Arhosodd yn ardal Gymraeg ei hiaith am ganrifoedd.

Gorweddai Colunwy yn ne-orllewim Swydd Amwythig, yn nhiriogaeth arglwyddi Normanaidd y Mers. Ffiniai'r arglwyddiaeth strategol â chymydau Ceri a Maelienydd yn ardal Rhwng Gwy a Hafren, i'r gorllewin yng nghanolbarth Cymru, a rhan o Swydd Henffordd i'r de. Llifa afon Tefeidiad trwy'r diriogaeth. Un o'r prif ganolfannau oedd tref Clun, lle ceir castell Normanaidd.

Llwyddodd Llywelyn ap Gruffudd i adennill rhan orllewinol Colunwy o ddwylo'r Eing-Normaniaid yn 1263 yn ei ymgyrch i sefydlu ei awdurdod yn ardal Trefaldwyn.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986), tt. 133-4.
Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Salop arms.png Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato