Henri Matisse
| Henri Matisse | |
|---|---|
| Ganwyd | 31 Rhagfyr 1869 Le Cateau-Cambrésis |
| Bu farw | 3 Tachwedd 1954 Nice |
| Man preswyl | Bohain-en-Vermandois, Paris, Issy-les-Moulineaux, Nice, Q122222531 |
| Dinasyddiaeth | Ffrainc |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd, gwneuthurwr printiau, lithograffydd, drafftsmon, seramegydd, celfyddydwr, cynllunydd, glass painter, damcaniaethwr celf, stage painter |
| Adnabyddus am | Blue Nude, The Joy of Life, The Dessert: Harmony in Red (The Red Room), Woman with a hat, the dance bicht |
| Arddull | decoupage, celf tirlun, figure painting, bywyd llonydd, portread (paentiad) |
| Mudiad | Argraffiadaeth, rhaniadaeth, Fauvisme, Neoargraffiadaeth, Ôl-argraffiaeth |
| Priod | Amélie Parayre |
| Plant | Marguerite Duthuit Faure, Jean Gérard Matisse, Pierre Matisse |
| Perthnasau | Paul Matisse |
| Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur |
| llofnod | |
| Delwedd:Matisse autograph.svg, Henri Matisse signature.svg | |
Arlunydd o Ffrainc oedd Henri Matisse (31 Rhagfyr 1869 – 3 Tachwedd 1954). Roedd yn un o arlunwyr enwocaf yr 20g am ei ddefnydd o liw a'i arddull rhydd. Dylunydd, argraffwr a cherflunydd oedd ef, ond fe'i adnabyddir yn bennaf fel peintiwr.[1]
Gyda Pablo Picasso a Marcel Duchamp ystyrir Matisse yn o'r tri arlunydd a oedd yn bennaf gyfrifol am ysbrydoli'r datblygiadau chwyldroadol yng nghelfyddydau gweledol yr 20g.[2][3][4][5]
Er iddo gael ei labelu yn wreiddiol fel rhan o'r grŵp Fauve, erbyn y 1920au fe'i cydnabuwyd fel un a oedd yn driw i draddodiad clasurol peintio Ffrengig.[6]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganed ef yn Henri-Émile-Benoît Matisse yn Le Cateau-Cambrésis, département Nord, Ffrainc, a magwyd ef yn Bohain-en-Vermandois yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc, lle'r oedd gan ei rieni fusnes hadau. Ym 1887 aeth i Baris i astudio'r gyfraith, ac wedi pasio ei arholiadau, bu'n gweithio fel gweinyddwr llys yn Le Cateau-Cambrésis. Dechreuodd arlunio ym 1889, a phenderfynodd ddod yn arlunydd. Dychwelodd i Baris i astudio, ac ym 1897 a 1898, ymwelodd â'r arlunydd John Peter Russell ar ynys Belle Île ar arfordir Llydaw. Cyflwynodd Russell waith Vincent van Gogh iddo, a newidiodd Matisse ei arddull yn llwyr. Dylanwadwyd arno hefyd gan Paul Cézanne, Gauguin a Paul Signac, a chan arlunwaith Japaneaidd. Cynhaliodd ei arddangosfa gyntaf ar ei ben ei hun ym 1904. Ym 1905 symudodd i dde Ffrainc.
Fauvisme
[golygu | golygu cod]Roedd Matisse ac André Derain yn brif arweinwyr Fauvisme, mudiad celfyddydol a ddechreuodd tua 1900 ac a barhaodd hyd nes tua 1910. Ymhlith aelodau eraill y grŵp oedd Georges Braque, Raoul Dufy a Maurice de Vlaminck.[7] Roedd eu lluniau'n cyfleu teimlad gyda defnydd gwyllt, amhersain o liwiau gan ddiystyru lliwiau go iawn y pwnc dan sylw. Roedd newydd-deb eu harddull yn syfrdanu rhai o'r beirniaid, gydag un yn disgrifio eu gwaith fel 'Pot paent wedi'i daflu yn wyneb y cyhoedd'.
Pan arddangoswyd eu gwaith yn yr un oriel â cherflun traddodiadol fe ddywedodd beirniad arall fod y cerflun parmi les fauves (ymhlith yr anifeiliaid gwylltion) ac fe gydiodd yr enw Fauve.[8] Ar ddiwedd ar y mudaid Fauve, parhaodd Matisse i fod yn gynhyrchiol. Symudodd i Montparnasse ym Mharis a oedd yn boblogaidd gydag arlunwyr ifanc, er bod ei wisg geidwadol a'i arferion gwaith trefnus yn gwbl groes i fywyd Bohemaidd yr ardal. Yn awyddus i ddarganfod dylanwadau newydd, teithiodd i Algeria, Morocco a Sbaen yn ymddiddori mewn celf Affricanaidd ac Arabaidd.
Gertrude Stein ac Académie Matisse
[golygu | golygu cod]
Ym 1906 daeth yn gyfeillgar â Pablo Picasso, a oedd ddeuddeg mlynedd yn iau. Yn ffrindiau oes, fe gymharwyd eu gwaith yn aml, er i Matisse gweithio'n bennaf o natur a Picasso o'r dychymyg. Cyfarfu'r ddau yn salon y casglwyr ariannog, teulu'r Stein. Daeth Gertrude Stein a'i chyfeillion, y chwiorydd Cone, yn noddwyr i Matiesse a Picasso gan brynu llawer o'u gweithiau. Sefydlodd ei gyfeillion Académie Matisse ym Mharis, a bu Matisse yn dysgu yno o 1911 hyd 1917.
Ail Ryfel Byd
[golygu | golygu cod]Ym 1939 gwahanodd o'i wraig wedi 41 mlynedd. Ym 1941, yn dilyn llawdriniaeth, bu rhaid iddo ddefnyddio cadair olwyn. A'i symudiad wedi'i gyfyngu, fe ddechreuodd 'beintio gyda siswrn' gan greu collages o bapur yn dangos ei allu i ddod â'i ddawn gyda lliwiau i gyfrwng newydd. Yn y 1940au fe weithiodd fel dylunydd graffig yn cynhyrchu darluniau ar gyfer llyfrau a thros gant o lithograffau.
Er ei fod yn anwleidyddol, fe'i syfrdanwyd pan glywodd am ei ferch Marguerite, a oedd wedi bod yn aelod o'r Résistance yn erbyn y Natsïaidd, yn cael ei harteithio (bron hyd nes iddi farw) mewn carchar yn Rennes. Fe anfonwyd Marguerite i Wersyll-garchar Ravensbrück ond llwyddodd ddianc oddi ar y trên a oedd yn ei chludo yn ystod ymosodiad bomio. Wedi iddi guddio mewn coedwig fe'i hachubwyd gan ymladdwyr y Résistance.[9]
Blynyddoedd olaf
[golygu | golygu cod]Ym 1951 gorffennodd Matisse brosiect pedair blynedd yn cynllunio addurniadau a ffenestri ar gyfer y Chapelle du Rosaire de Vence, a adnabyddir yn 'Capel Matisse' [10] Yn ôl y miliwnydd David Rockefeller, gwaith olaf Matisse oedd cynllunio ffenestri ar gyfer eglwys ym Pocantico Hills ger ystâd Rockefeller i'r gogledd o Efrog Newydd [11] Bu farw Matisse yn 84 oed ym 1954. Fe'i gladdwyd ym Monastère Notre Dame de Cimiez ger Nice.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Myers, Terry R. (July–August 2010). "Matisse-on-the-Move". The Brooklyn Rail. http://brooklynrail.org/2010/07/artseen/matisse-on-the-move.
- ↑ "Tate Modern: Matisse Picasso". Tate.org.uk. Cyrchwyd 13 February 2010.
- ↑ Adrian Searle (7 Mai 2002). "Searle, Adrian, "A momentous, tremendous exhibition"". Guardian. UK. Cyrchwyd 13 Chwefror 2010.
- ↑ "Trachtman, Paul, Matisse & Picasso, Smithsonian, February 2003". Smithsonianmag.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-08. Cyrchwyd 13 Chwefror 2010.
- ↑ "Duchamp's urinal tops art survey". news.bbc.co.uk. 1 Rhagfyr 2004. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2010.
- ↑ Wattenmaker, Richard J.; Distel, Anne, et al., Great French Paintings from the Barnes Foundation (Efrog Newydd: Alfred A. Knopf, 1993), t.272
- ↑ John Elderfield, The "Wild Beasts": Fauvism and Its Affinities (Efrog Newydd: Museum of Modern Art, 1976), t.3
- ↑ Chilver, Ian (gol.). "Fauvism" Archifwyd 2011-11-09 yn y Peiriant Wayback, The Oxford Dictionary of Art (Oxford University Press, 2004)
- ↑ Heftrig, Ruth; Olaf Peters; Barbara Maria Schellewald [editors] (2008), Kunstgeschichte im "Dritten Reich": Theorien, Methoden, Praktiken, Akademie Verlag, p. 429; Spurling, Hilary, Matisse the Master: A Life of Henri Matisse, the Conquest of Colour, 1909–1954, p.424.
- ↑ "Sister Jacques-Marie Influence for Matisse's Rosary Chapel, Dies", New York Times, 29 Medi 2005. Adalwyd 27 Gorffennaf 2010
- ↑ David Rockefeller, It is a pleasure to welcome you to the Union Church of Pocantico Hills Archifwyd 2011-07-26 yn y Peiriant Wayback, Union Church of Pocantico Hills website, adalwyd 30 Gorffennaf 2010