Pierre-Auguste Renoir
Pierre-Auguste Renoir | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 25 Chwefror 1841 ![]() Limoges ![]() |
Bu farw | 3 Rhagfyr 1919 ![]() Cagnes-sur-Mer ![]() |
Man preswyl | Limoges, Paris, Cagnes-sur-Mer ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd, darlunydd, gwneuthurwr printiau, drafftsmon, drafftsmon, arlunydd graffig, porcelain painter ![]() |
Adnabyddus am | Young Girls in Black, Two Sisters, La loge, Luncheon of the Boating Party, La Grenouillère ![]() |
Arddull | portread (paentiad), noethlun, paentiad mytholegol, celf tirlun, animal art, figure, genre art, celf y môr, portread, celfyddyd grefyddol, bywyd llonydd ![]() |
Mudiad | Argraffiadaeth ![]() |
Priod | Aline Renoir ![]() |
Partner | Lise Tréhot, Frédérique Vallet-Bisson ![]() |
Plant | Pierre Renoir, Jean Renoir, Claude Renoir, Lucienne Bisson, Jeanne Tréhot ![]() |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Officier de la Légion d'honneur, Commandeur de la Légion d'honneur ![]() |
Llofnod | |
![]() |

Arlunydd Ffrengig oedd Pierre-Auguste Renoir (25 Chwefror 1841 – 3 Rhagfyr 1919). Bu'n un o brif arlunwyr y grŵp Argraffiadol (Ffrangeg: Impressionnisme). Datblygodd dechneg o waith brwsh toredig, manwl gyda chyfuniad o liwiau a oedd yn cydweddu er mwyn dal symudiad a golau. Yn dilyn ei ymweliad â'r Eidal ym 1881 newidiodd ei steil i fod yn fwy clasurol.
Priododd, ym 1890, â Aline Victorine Charigot, model yn y paentiad Le Déjeuner des canotiers.
Bu'n dad i'r actor Pierre Renoir (1885–1952), y cyfarwyddwr ffilm Jean Renoir (1894–1979) a'r crochenydd Claude Renoir (1901–69). Yn daid i'r gweithiwr ffilm Claude Renoir (1913–1993), mab Pierre.
Bywyd a Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd ei eni yn Limoges, Haute-Vienne, Ffrainc i deulu tlawd. Dechreuodd weithio fel peintiwr ar borslen. Symudodd i Baris, gan ymuno â stiwdio'r arlunydd ffasiynol Charles Gleyre tua 1861-2. Ym Mharis cyfarfu â Claude Monet ac ym 1869 dechreuodd y ddau weithio gyda'i gilydd yn sgetsio wrth Afon Seine.
Bu'n anhapus gyda'r system swyddogol Salon a oedd yn araf i arddangos gwaith newydd a mentrus. Ym 1873 bu Renoir ymhlith y grŵp o artist, yn cynnwys Claude Monet, Camille Pissarro, Paul Cézanne, a ffurfiodd y Société Anonyme Coopérative des Artistes Peintres 6 o gynfasau mewn arddangosfa'r Société Anonyme a ddaeth yn enwog yn ddiweddarach fel yr arddangosfa Impressionniste (Argraffiadol) gyntaf.
Yn ystod y 1880au teithiodd Renoir dramor, yn ymweld â'r Eidal, Yr Iseldiroedd, Sbaen, Lloegr, Yr Almaen ac Algeria. Bu'n edmygwr mawr o Raffael, Diego Velázquez, a Peter Paul Rubens, a bu'n ddylanwad ar ei waith.[1]
Ar ddiwedd ei oes, dioddefodd arthritis a bu rhaid clymu ei frwsh i'w law er mwyn iddo ei ddal.[2]
Ym 1919, blwyddyn olaf ei fywyd, prynodd oriel fwyaf Paris y Louvre un o'i luniau, anrhydedd mawr iddo ac yn arwydd o'r sefydliad celf yn derbyn gwaith Impressionniste o'r diwedd.[3]
Mae dau o ddarluniau Renoir wedi'u gwerthu am fwy na $70 miliwn dolar. Gwerthwyd Bal au moulin de la Galette am $78.1 miliwn ym 1990, un o'r darluniau drytach y byd ar y pryd.
Yn 2012, cafodd un o gynfasau Renoir Paysage bord du Seine ei rhoi ar werth mewn ocsiwn ond ddarganfuwyd a gafodd ei ddwyn o Oriel Gelf Baltimore ym 1951 a fe'i dynnwyd yn ôl o'r farchnad.
Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]
Portread Claude Monet, 1875,
Musée d'Orsay