Gernika
Guernica | |||
---|---|---|---|
Dinas | |||
Gernika-Lumo | |||
![]() Derwen Gernika (Gernikako Arbola) | |||
| |||
Lleoliad Gernika o fewn Biskaia | |||
Gwlad | ![]() | ||
Cymuned hunan-reolaethol | Gwlad y Basg | ||
Cymunedau | Biskaia | ||
Comarca | Busturialdea | ||
Sefydlwyd | 1366 | ||
Llywodraeth | |||
• Maer | Jose Maria Gorroño Etxebarrieta (EA) | ||
Arwynebedd | |||
• Cyfanswm | 8.6 km2 (3.3 mi sg) | ||
Uchder(AMSL) | 10 m (30 tr) | ||
Poblogaeth (2009) | |||
• Cyfanswm | 16,224 | ||
• Dwysedd | 1,900/km2 (4,900/mi sg) | ||
Demonym | gernikarra | ||
Parth amser | CET (UTC+1) | ||
• Summer (DST) | CEST (UTC+2) | ||
Côd post | 48300 | ||
Cod ffôn | +34 (Sbaen) | ||
Website | Gwefan swyddogol |
Tref yn nhalaith Biskaia yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg yw Gernika (Basgeg: Gernika, Sbaeneg: Guernica). Gyda thref gyfagos Lumo ("Luno" yn Sbaeneg) mae'n ffurfio ardal ddinesig Gernika-Lumo, a oedd a phoblogaeth o 16,224 yn 2009.
Mae Gernika o bwysigrwydd mawr yn hanes Gwlad y Basg, oherwydd y cyfarfodydd a gynhelid dan dderwen Gernika, a elwid y Gernikako Arbola. Daeth y cyfarfodydd hyn yn symbol o hawliau traddodiadol Gwlad y Basg. Ar 26 Ebrill, 1937, bomiwyd Gernika gan awyrennau Almaenig oedd yn ymladd dros Fransisco Franco yn Rhyfel Cartref Sbaen. Dyma oedd un o ymosodiadau cyntaf Luftwaffe yr Almaen Natsiaidd. Disgrifiwyd yr ymosodiad gan Winston Churchill fel "an experimental horror".[1] I gofio'r ymosodiad, codwyd Amgueddfa Heddwch yn y ddinas.
Ysbrydolodd hyn ddarlun enwog Pablo Picasso: Guernica (llun).
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Sefydlwyd Gernika gan yr Iarll Tello ar 28 Ebrill 1366 ar groesffordd bwysig; y ffordd rhwng Bermeo a Durango ar y naill law a'r ffordd rhwng Bilbao ac Elantxobe ar y llall. Mae pwysigrwydd y lleoliad hefyd yn y ffaith ei fod ar lan afon ble angorai llongau ym mhorthladd Suso.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan www.gernika-lumo.net; Archifwyd 2015-11-18 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 26 Ebrill 2015