Neidio i'r cynnwys

Guernica (llun)

Oddi ar Wicipedia
Guernica
Enghraifft o:paentiad Edit this on Wikidata
CrëwrPablo Picasso Edit this on Wikidata
Deunyddpaent olew, cynfas Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1937 Edit this on Wikidata
Genrepeintio hanesyddol Edit this on Wikidata
LleoliadAmgueddfa Genedlaethol Ganolog o Gelf Brenhines Sophia Edit this on Wikidata
Prif bwncRhyfel Cartref Sbaen Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint, dan hawlfraint Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0421l5 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Murlun yn hawlio'r llun o Amgueddfa Museo Nacional Centro de Arte Reina Sofía yn ôl i Gernika
Cofeb ar y ty ym Mharis lle peintiodd Picasso y llun "Guernica"

Peintiad olew ar gynfas gan Pablo Picasso yw Guernica (1937), efallai yr enwocaf o'i ddarluniau.

Ar 26 Ebrill 1937 bomiwyd tref Gernika yng Ngwlad y Basg gan awyrennau Almaenig oedd yn ymladd dros Francisco Franco yn Rhyfel Cartref Sbaen. Pan gomisiynwyd Picasso gan Lywodraeth Weriniaethol Sbaen i greu murlun ar gyfer Ffair y Byd ym Mharis yn 1937, ysbrydolwyd ef i gymeryd y digwyddiad hwn fel pwnc. Mae'n ymdrech i gyfleu erchylltra'r digwyddiad mewn symbolau.

Am flynyddoedd, bu Guernica yn Amgueddfa Celfyddyd Fodern yn Efrog Newydd. Dychwelwyd ef i Sbaen yn 1981, ac arddangoswyd ef yn y Casón del Buen Retiro ym Madrid. Yn 1992 symudwyd y darlun i'r Museo Nacional Centro de Arte Reina Sofía, hefyd ym Madrid, lle mae ar hyn o bryd. Cred cenedlaetholwyr Basgaidd y dylai fod yn cael ei arddangos yng Ngwlad y Basg.

Eginyn erthygl sydd uchod am gelf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.