Málaga
Dinas a phorthladd mawr yn Andalucía, de Sbaen, yw Málaga. Mae'n gorwedd ar lan y Môr Canoldir ac yn denu miloedd o ymwelwyr.
Sefydlwyd Mâlaga gan y Ffeniciaid. Fe'i cipiwyd gan y Rhufeiniaid ac yn nes ymlaen gan y Visigothiaid a'r Mwriaid pan ddaeth yn un o ddinasoedd Al-Andalus. Cipiwyd y ddinas gan y Sbaenwyr yn 1487 fel un o gamrau olaf y Reconquista. Codwyd eglwys gadeiriol yno yn y ganrif olynol.
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Pablo Picasso - ganed yr arlunydd enwog ym Malaga ar 25 Hydref 1881.