Talaith Málaga
| Math | talaith o fewn Sbaen |
|---|---|
| Prifddinas | Málaga |
| Poblogaeth | 1,773,136 |
| Cylchfa amser | UTC+01:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 7,308 km² |
| Gerllaw | Y Môr Canoldir, Môr Alboran |
| Yn ffinio gyda | Talaith Córdoba, Talaith Granada, Talaith Cádiz, Talaith Sevilla |
| Cyfesurynnau | 36.72°N 4.42°W |
| Cod post | 29 |
| ES-MA | |
| Corff gweithredol | Provincial Deputation of Málaga |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Q42409076 |
![]() | |
Talaith yn ne Sbaen, yng nghymuned ymreolaethol Andalucía yw Talaith Málaga. Mae'n ffinio â Môr y Canoldir i'r de a thaleithiau Cádiz i'r gorllewin, Sevilla i'r gogledd-orllewin, Córdoba i'r gogledd, a Granada i'r dwyrain. Málaga yw ei phrifddinas.

Mae ganddi arwynebedd o 7,308 km². Mae'n cynnwys 102 o fwrdeistrefi.
Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan y dalaith boblogaeth o 1,696,955.[1]
Heblaw am y brifddinas, ei phrif ddinasoedd yw Marbella, Mijas, Fuengirola, Véliz-Málaga, Torremolinos, Estepona, a Benalmádena, sydd i gyd wedi'u lleoli ar yr arfordir. Mae trefi Antequera a Ronda wedi'u lleoli yn y mewndir.
Ei phrif ddiwydiant yw ei gyrchfannau twristiaeth, yn enwedig y rhai ar y traethau ar hyd y Costa del Sol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 25 Awst 2023
A Coruña · Albacete · Alicante · Almería · Araba · Asturias · Ávila · Badajoz · Barcelona · Biscay · Burgos · Cáceres · Cádiz · Cantabria · Castellón · Ciudad Real · Córdoba · Cuenca · Girona · Granada · Guadalajara · Gipuzkoa · Huelva · Huesca · Jaén · Las Palmas · León · Lleida · Lugo · Madrid · Málaga · Murcia · Navarre · Ourense · Palencia · Pontevedra · La Rioja · Salamanca · Santa Cruz de Tenerife · Segovia · Sevilla · Soria · Tarragona · Teruel · Toledo · Valencia · Valladolid · Ynysoedd Balearig · Zamora · Zaragoza
