El Aaiún
| Math | dinas fawr, endid tiriogaethol gweinyddol, cymuned drefol Moroco |
|---|---|
| Poblogaeth | 262,791 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Moulay Hamdi Ould Errachid |
| Cylchfa amser | UTC+00:00, UTC+01:00 |
| Gefeilldref/i | |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Talaith Laâyoune |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 83.6 km² |
| Uwch y môr | 72 metr |
| Cyfesurynnau | 27.15°N 13.2°W |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer |
| Pennaeth y Llywodraeth | Moulay Hamdi Ould Errachid |
![]() | |
Dinas yn nhiriogaeth Gorllewin Sahara a chyn-wladfa Sbaenaidd yw El-Aaiún (troslythrennir hefyd fel "Laâyoune" neu "El Ayun")(Arabeg: العيون, al-`ayūn, sef "Y Ddinas"). Mae'n gorwedd ger arfordir gogledd-orllewin Affrica ar lan Cefnfor Iwerydd, gyferbyn â'r Ynysoedd Dedwydd. Mae ym meddiant Moroco ers 1976, ac yn brifddinas rhanbarth Laâyoune-Boujdour-Sakia El Hamra yn y wlad honno. Hawlir meddiant ar y ddinas gan Weriniaeth Ddemocrataidd Arabaidd Sahrawi hefyd, fel ei phrifddinas de jure.
Mae ganddi boblogaeth o 188,084, yn gymysgedd o Forocwyr o'r gogledd a Sahrawiaid o dde Moroco a brodorion Gorllewin Sahara. Mae'r boblogaeth wedi cynyddu yn sylweddol dros y degawdau diwethaf, diolch i fenwfudo o Foroco. Cafwyd peth gwrthdaro ar y strydoedd yn 2005 fel rhan o intifada Gorllewin Sahara.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Ffrangeg) Gwybodaeth am y ddinas ar Lexicorient Archifwyd 2012-05-07 yn y Peiriant Wayback
