Avilés

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Trydedd ddinas Cymuned Ymreolaethol Asturias yw Avilés. Dyna hefyd enw’r ardal gwmpasog sy’n cynnwys y ddinas, un o ardaloedd lleiaf Tywysogaeth Asturias.

Mae’r ddinas yn gartref i borthladd cenedlaethol pwysig ac mae’n ddiwydianol dros ben. Mae traethau poblogaidd megis Salinas gerllaw. Ym mis Chwefror bob blwyddyn, cynhelir ‘Carnaval’ yno, un o rai gorau Sbaen. Ceir parti ewyn enwog yng nghanol ardal yr hen ddinas pan mae’r diffoddwyr tân (yn draddodiadol) yn tywallt ffôm dros y torfeydd sydd wedi ymgasglu yno i ddathlu’r ŵyl.

Flag of Spain.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Sbaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato