Llangréu

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llangreu Asturies map.svg
Neuadd y Ddinas

Ardal weinyddol a dinas yn Asturias ydyw Llangréu (Sbaeneg: Langreo). Dyma'r 4ydd dinas fwyaf yn Asturias gyda dros 43,000 o drigolion. Mae Llangréu yng nghanol Asturias, tua 20 cilomedr (12 milltir) i'r de-ddwyrain o Oviedo. Arferai fod yn ganolfan mwyngloddio a metelegol bwysig.

Yn y gymdogaeth mae ffrwythau a seidr yn cael eu cynhyrchu, ac mae yno hefyd glofeydd, ffowndri a ffatrïoedd pwysig ar gyfer cynhyrchu brethyn.

Plwyfi[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir 8 israniad pellach, a elwir yn 'blwyfi':

  • Barros
  • Ciañu
  • Lada
  • La Felguera
  • La Venta
  • Riañu
  • Sama
  • Tiuya


  1. "Asturias: población por municipios y sexo". http://www.ine.es/jaxiT3/Datos.htm?t=2886.