Llanera

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

43°28′N 5°56′W / 43.467°N 5.933°W / 43.467; -5.933Cyfesurynnau: 43°28′N 5°56′W / 43.467°N 5.933°W / 43.467; -5.933

Lleoliad Cuaña yn Asturias

Mae Llanera yn ardal weinyddol yng Nghymuned Ymreolaethol Tywysogaeth Asturias. Mae'n ffinio gyda Xixón (Sbaeneg: Gijón) a Corvera yn y gogledd, Uviéu yn y de, Xixón a Siero yn y dwyrain ac Illas a Les Regueres yn y gorllewin.

Mae ei brif ddinas gweinyddol, Posada, yn 11 km o Uviéu (Sbaeneg: Oviedo), 20 km o Avilés (Avilés) a 22 km o Xixón.

Palas Villanueva yn San Cucao, Llanera, Asturias.

Mae gan Renfe Operadora, y sefydliad rheilffyrdd cenedlaethol, orsafoedd yn Lugo, Villabona y Ferroñes. Mae gan y fwrdeistref sector ddiwydiannol bwysig. Mae yna barciau diwydiannol yn Silvota ac Asipo a cheir carchar yn Villabona.

Sefydlwyd Lugo fel anheddiad Rhufeinig, o'r enw Lucus Asturum. Fe'i lleolir ar fforc y ffyrdd Rhufeinig i Estorga a Cantabria.

Ganwyd y pêl-droediwr Santi Cazorla, sy'n chwarae i Sbaen yno.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]


  1. "Asturias: población por municipios y sexo". http://www.ine.es/jaxiT3/Datos.htm?t=2886.