Ḷḷena

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
L.lena Asturies map.svg

Tref ac ardal weinyddol yng nghymuned ymreolaethol Asturias yw Ḷḷena (Sbaeneg: Lena). Mae ganddi boblogaeth o 11,278 o drigolion (INE, 2017). Prifddinas yr ardal yw Pola de Lena sydd â phoblogaeth o 9,200, sy'n ei gosod yn 12fed tref fwyaf yn Asturias.

Olion hanesyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae ei olion hanesyddol o fodau dynol yn dyddio o Oes y Cerrig, mae ei strwythurau megalithig wedi'u cynrychioli'n dda, a cheir esiampl dda yn y dolmen yn Padrún. Mae tomenni claddu yma hefyd, ond ni chawsant eu harchchwilio i gyd.

Mae llawer o aneddiadau Rhufeinig wedi'u canfod ar hyd y Via de la Carisa. Enghraifft o'r aneddiadau hyn yw'r mosaig a geir yn Mamorana a Gwersyll Rufeinig La Carisa.

Prif noddwr, neu sant yr ardal yw Martin o Tours.

Plwyfi[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir yma nifer o blwyfi (paroquies):

  • Cabezón
  • Campumanes
  • Carabanzo
  • Casorvía
  • Castieḷḷo
  • Columbieḷḷo
  • Congostinas
  • Chanos de Somerón
  • Felgueras
  • Erías
  • Muñón Cimiru
  • Muñón Fondiru
  • Parana
  • Payares
  • Piñera
  • La Pola
  • Las Puentes
  • Samiguel del Río
  • Sotieḷḷo
  • Teyeo
  • Tuíza
  • Viḷḷayana
  • Xomezana
  • Zurea


  1. "Asturias: población por municipios y sexo". http://www.ine.es/jaxiT3/Datos.htm?t=2886.