Chwedl Arachne

Oddi ar Wicipedia
Chwedl Arachne
Hen enw: Les filadores
(Y Gwehyddwyr Gwlân)
ArlunyddDiego Velázquez
Blwyddync. 1657
MathOlew ar ganfas
Maint167 cm × 252 cm ×  (66 in × 99 in)
LleoliadMuseo del Prado, Madrid

Paentiad olew gan y Sbaenwr Diego Velázquez yw Chwedl Arachne a gedwir yn amgueddfa Museo del Prado ym Madrid. Caiff ei adnabod hefyd dan ei hen deitl Y Gwehyddwyr Gwlân (Catalaneg: Les filadores). Mae'n un o weithiau a wnaed ym mlynyddoedd olaf yr arlunydd, oddeutu 1657.

Yn draddodiadol credwyd fod y llun yn dylunio merched mewn gweithdy a oedd wrth eu gwaith pob dydd yn llunio tapestri o Santes Isabel. Fodd bynnag, yn 1948, awgrymodd Diego Angula fod y darlun yn dylunio Chwedl Ovid (Arachne) - sef y chwedl am Arachne'n rhoi sialens i'r dduwies Athena i wehyddu'r tapestri gorau. Ond pan enillodd y gystadleuaeth drwy greu'r tapestri ceinaf, fe'i drowyd yn bry copyn gan y dduwies. Bellach, credir mai dyma'r hyn a ddylunir yn y llun, ac efallai mai'r teitl gorau iddo fyddai 'Chwedl Arachne'.

Y llun gwreiddiol, heb yr ychwanegiadau gan arlunwyr eraill.

Fe'i paentiwyd ar gyfer Don Pedro de Arce, a oedd yn un o helwyr y Brenin Felipe IV, brenin Sbaen.[1] Cofnodir y llun yn y casgliad brenhinol yn yr 18g, ac fe'i difrodwyd yn rhannol gan dân yn 'Alcazar Brenhinol Madrid' yn 1734. Cryfhawyd y gwaith drwy ychwanegu rhannau newydd ar yr ochrau: 37 cm i gyd, a darn 50 cm ar dop y llun.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "La légende d'Arachné" (yn French). Cyrchwyd 20 February 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)