Salvador Dalí

Oddi ar Wicipedia
Salvador Dalí
FfugenwDali, Salvador, Dalí Domènech, Salvador Edit this on Wikidata
Llais01 SALVADOR DALI.ogg Edit this on Wikidata
GanwydSalvador Domingo Felipe Jacinto Dalí i Domènech Edit this on Wikidata
11 Mai 1904, 21 Mai 1904 Edit this on Wikidata
Figueres Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ionawr 1989 Edit this on Wikidata
o ataliad y galon Edit this on Wikidata
Figueres Edit this on Wikidata
Man preswylFigueres, Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Academia Real de Bellas Artes, San Fernando Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, cerflunydd, ysgrifennwr, actor, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, ffotograffydd, actor ffilm, cynllunydd llwyfan, darlunydd, dylunydd gemwaith, arlunydd graffig, holographer Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHirbarhad Cof, Crist Sant Ioan y Groes, Sacrament y Swper Olaf, Yr Haliwr Mawr, Gwaith Meddal gyda Ffa wedi'i Berwi, Wyneb Rhyfel Edit this on Wikidata
Arddullbywyd llonydd, peintio genre, portread, celf tirlun, alegori, celfyddyd grefyddol Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadFriedrich Nietzsche, Pablo Picasso, Hieronymus Bosch Edit this on Wikidata
MudiadSwrealaeth Edit this on Wikidata
TadSalvador Dalí i Cusí Edit this on Wikidata
MamFelipa Domènech i Ferrés Edit this on Wikidata
PriodGala Dalí Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Uwch Croes Urdd Siarl III, Medal Aur Generalitat de Catalunya, Medal Aur am Deilyngdod yn y Celfyddydau (Sbaen), Gold Medal for Tourism Merit Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.salvador-dali.org/ Edit this on Wikidata
llofnod

Arlunydd Catalanaidd oedd Salvador Domingo Felipe Jacinto Dalí i Domènech, markies de Dalí de Pubol (11 Mai 190423 Ionawr 1989). Ganed Dalí yn Figueres, tref fechan ger troed y Pyreneau yng Nghatalonia. Cafodd hyfforddiant cynnar a datblygodd ddiddordeb mewn arlunwyrclasurol fel El Greco, Francisco Goya, Michelangelo a Diego Velázquez.[1][2]

Astudiodd ym Madrid o 1921 hyd 1924, a thynnodd sylw oherwydd ei ymddygiad anarferol. Yn 1929 aeth i Baris, lle daeth i adnabod Pablo Picasso ac André Breton a mabwysiadu arddull swrealaeth. Bu’n cydweithio a’r gwneuthurwr ffilmiau Luis Buñuel.

Efallai ei ddarlun mwyaf adnabyddus yw La persistència de la memòria, (Dyfalbarhad y Cof), 1931 sydd yn dangos clociau'n toddi mewn tirwedd afreal.

Yn 1940 aeth i fyw i’r Unol Daleithiau, lle bu am 25 mlynedd cyn dychwelyd i Sbaen. Ystyrir y cyfnod yma fel ei gyfnod “clasurol”. Bu farw yn Figueres ym 1989.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Teulu Dalí (tua 1910)

Roedd ei dad, Salvador Dalí y Cusi, yn gyfreithiwr dosbarth canol gydag agwedd lem tuag at fagu plant - yn dra gwahanol i'w fam Felipa Domench Ferres a oedd yn hapus i annog ei ddiddordeb yng nghelfyddyd a thueddiadau ecsentrig.[3]

Dywedir iddo fod yn blentyn bywiog, deallus a digywilydd, yn debygol o golli ei dymer gyda'i rieni a disgyblion eraill. Fel canlyniad fe gafodd ei drin yn galed gan ei dad a phlant hŷn. Ni chafodd Dalí berthynas da gyda'i dad fel canlyniad i'r gosbi gan arwain at gystadleuaeth rhwng Dalí a'i dad am sylw Felipa. Bu ganddo frawd, 9 mis yn hŷn, hefyd yn Salvador, a bu farw yn ifanc. Yn ddiweddarach fe ddywedodd Dalí'n aml hanes cael ei hebrwng i fedd ei frawd gan ei rieni pan roedd yn 5 oed. Dywedodd ei rieni wrtho ei fod yn ailymgnawdoliad (reincarnation) ei frawd.

Amlygwyd talent Dalí yn ifanc iawn yn creu darluniau soffistigedig iawn am ei oed. Fe'i anfonwyd i'r coleg gelf leol ym 1916. Ond nid oedd yn fyfyriwr cydwybodol, yn treillio’r dydd yn breuddwydio gan wisgo dillad gwahanol i'r myfiwr eraill ac yn tyfu ei wallt yn hir.[4]

Ym 1921, bu farw mam Dalí o ganser. Roedd Dalí yn 16 oed ar y pryd, ac fe effeithiodd y golled yn fawr arno. Priododd ei dad chwaer ei wraig ymadawiad a oedd yn anodd i Dalí dygymod gan achosi straen pellach rhyngddo a'i dad.

Coleg Celf a Swrealaeth[golygu | golygu cod]

Ym 1922, aeth Dalí i Academia de San Fernando ym Madrid ac fe ddaeth ei ymddygiad a'i wisg yn fwy rhyfedd byth.

Arbrofodd gyda sawl steil o beintio yn cynnwys yr arddull newydd Ciwbiaeth. Ym 1923, fe ddisgyblwyd gan yr Academi wedi iddo feirniadu'r darlithwyr ac am achosi'r myfyrwyr creu helynt dros ddewis uwch ddarlithydd. Fe ddaeth i sylw Federico García Lorca a Luis Buñuel a ddaeth yn enwau mawr y byd celf mewn blynyddoedd i ddod. Er iddo fod yn ffrind gyda Lorca, yn y pendraw gwrthododd Dalí gobeithion Lorca i ffurfio perthynas agosach[5][6]

Yn 1924 darluniodd ei lyfr cyntaf, darluniau i gyd fynd gyda'r cerddi iaith Catalaneg Les Bruixes de Llers gan Carles Fages de Climent. Tua'r adeg yma fe ymddiddorodd yn syniadaeth Dada – mudiad celf radicalaidd newydd a ffurfiwyd yn y Swistir a'r Almaen a fu'n ddylanwad mawr arno am weddill ei fywyd.

Yn ôl rhai hanesion fe arestiwyd Dalí yn Gerona am gefnogi mudiad annibyniaeth Catalonia.[7][8] Yn 1926 fe daflwyd o'r Academia yn fuan cyn ei arholiadau terfynol am fynnu nad oedd aelodau'r staff â'r gallu i farcio ei waith.

Rhwng 1926 a 1929, teithiodd sawl tro i Baris, ble cyfarfu â pheintwyr dylanwadol fel Pablo Picasso a Joan Miró. Cyflwynodd Miró, y bardd Paul Éluard a'r peintiwr René Magritte syniadaeth y mudiad celfyddydol swrealaeth iddo.[9]

Fe ddaeth Dalí i fod prif ffigiwr swrealaeth ac un o brif enwau celfydd yr 20g. Roedd gwaith Dalí yn seiliedig ar freuddwydion a'r is-ymwybod ac wedi'i ddylanwadu gan syniadaeth y seiciatrydd Sigmund Freud. Defnyddiodd Dalí dechnegau clasurol i greu darluniau a oedd yn gymysgedd o'r afreal-dychmygol yn aml yn gwrthgyferbynnu yn erbyn cefndiroedd o wir natur neu gydag elfennau'r byd go iawn.

Ym 1929, mentrodd Dalí i'r byd ffilmiau, yn cydweithio gyda Luis Buñuel ar Un Chien andalou a L'Age d'Or. Mae'r Chien Andalou yn adnabyddus am yr olygfa gychwynnol arswydus o lygaid merch yn cael ei thorri gyda rasel.[10] Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach fe gyd weithiodd gydag Alfred Hitchcock ar ei ffilm Spellbound, (1945). Defnyddiodd Hitchcock darluniau Dalí i bortreadau golygfeydd o freuddwydion.

Hefyd ym 1929, cyfarfu a Gala (Elena Dmitrievna Diakonova), Rwsiad a oedd yn wraig i'r ysgrifennwr Paul Éluard. Yn 10 mlynedd yn hŷn na Dalí fe ddatblygodd perthynas cryf ac fe adwelodd ei gŵr. Roedd Diakonova'n ddylanwad a chytbwysedd perffaith i Dalí a fe briododd y cwpl ym 1934.

Gofalodd Gala am ochr busnes ac ariannol Dalí, yntau'n ormod o freuddwydiwr gwyllt i ymdrin â materion busnes yn ddoeth.

Erbyn canol y 1930au, roedd Salvador Dalí yn enwog cymaint am ei bersonlaeth, ymddygiad hynod, ei wisg a'i fwstash ac am ei gelf.[11]

Diarddel o'r Swrrealwyr[golygu | golygu cod]

Gyda bygythiad ffasgiaeth ar draws Ewrop, yn arbennig yn Nghatalonia a Sbaen, siomwyd a syfrdanwyd y cyhoedd a'r Swrrealwyr eraill gan agwedd Dalí. Gwrthododd gymryd safiad yn erbyn Ffasgwyr Sbaen ac Hitler – er i'r rhan mwyaf o'r artistiaid eriall fel Luis Buñuel, Picasso a Miró eu gwrthwynebu'n gryf. Roedd syniadaeth y Ffasgwyr yn gwbl groes i gelfyddyd fodern a rhyddid barn, pan gipwyr y Ffasgwyr grym llofruddiasant artistiaid ac ysgrifennwr di-ri, yn cynnwys ei hen ffrind Fredrico Garcia Lorca. Yn y diwedd fe daflwyd Dalí o grŵp y Swrrealwyr ac bu cryn feirniadaeth o agwedd Dalí byth ers hynny.[12]

Pan feddiannwyd y Ffasgwyr y rhan mwyaf o Ewrop ar ddechrau'r ail ryfel byd fe ddihangodd Dalí a Gala i'r Unol Daleithiau. Ar ddiwedd y rhyfel fe ddychwelon i Gatalonia ym 1948 er i unbennaeth Franco ormesu arlunwyr a phobl eraill Sbaen am ddegawdau i ddod.

Amgueddfa Dalí, Figueres[golygu | golygu cod]

Dros y blynyddoedd canlynol beintiodd 19 o gynfasau mawrion yn cynnwys themau gwyddonol, henesyddol neu grefyddol. Fel alwodd yr cyfnod yn 'Hudoliaeth Niwclear'. Dros y cyfnod yma, fe ddatblygodd ei waith ddisgleirdeb technegol gan gyfuno manylion manwl gyda dychymyg hynod. O 1960 – 1974 rhoddodd Dalí lawer o ymdrech i greu'r ‘Teatre Museu Dalí’ yn yr un adeilad ble cynhaliwyd ei arddangosfa gyntaf yn 14 oed yn Figueres.

Agorwyd yr amgueddfa ym 1974 fel yr 'adeilad swrreal mwyaf y byd' yn arddangos casgliadau cynhwysfawr o'i waith ac yn denu miloedd o ymwelwyr o bob cwr o'r byd bob blwyddyn.

Paentiadau a gwaith celf arall[golygu | golygu cod]

Mae dwy amgueddfa fawr wedi'u neilltuo i waith Dalí: Theatr-Amgueddfa Dalí yn Figueres, Catalwnia, ac Amgueddfa Salvador Dalí yn St Petersburg, Florida, UD.

Yr Haliwr Mawr (1929), olew ar gynfas, 110 cm × 150 cm; Museo Nacional Centro de Arte Reina Sofía
Adeiladwaith Meddal gyda Ffa wedi'i Berwi (Rhagweld y Rhyfel Cartref) 1936; olew ar gynfas, 100 x 99 cm, Amgueddfa Gelf Philadelphia

Yn y theatr, dyluniodd Dalí y golygfeydd ar gyfer drama ramantus Federico García Lorca yn 1927, Mariana Pineda.[13] Ar y bale ar Bacchanale Wagner (1939), dyluniodd Dalí y set a'r libreto.[14] Gwnaeth ddyluniadau ar gyfer sawl bale araill gan gynnwys Labyrinth (1942), Sentimental Colloquy, Mad Tristan, The Cafe of Chinitas (1944 i gyd) a The Three-Cornered Hat (1949).[15][16]

Dechreuodd ddefnyddio siapiau corn y rhinoseros a'r rhinoseros ei hun yn ei waith o ganol y 1950au. Yn ôl Dalí, mae'r corn rhinoseros yn dynodi geometreg ddwyfol oherwydd ei fod yn tyfu mewn sbiral logarithmig. Cysylltodd y rhinoseros â themâu diweirdeb ac i'r Forwyn Fair, am ryw reswm.[17] Fodd bynnag, fe'i defnyddiodd hefyd fel symbol phallig amlwg fel yn Y Forwyn Ifanc a Rebiwyd yn Otomatig gan Adar Ei Morwyndod ei Hun.[18]

Symbolaeth[golygu | golygu cod]

O ddiwedd y 1920au, cyflwynodd Dalí lawer o ddelweddau rhyfedd a gwahanol i'r arferol yn ei waith sy'n gwahodd dehongliad symbolaidd. Er bod rhai o'r delweddau hyn yn awgrymu dehongliad rhywiol neu Freudaidd syml (darllenodd Dalí Freud yn y 1920au) mae eraill (fel locustiaid, asynnod yn pydru, ac wrchin y môr) yn idiosyncratig ac wedi'u dehongli mewn sawl modd.[19] Mae rhai sylwebyddion wedi rhybuddio nad yw sylwadau Dalí ei hun ar y delweddau neu'r symbolau hyn bob amser yn ddibynadwy.[20]

Bwyd[golygu | golygu cod]

Mae gan fwyd a bwyta le canolog yng ngwaith Dalí. Cysylltodd fwyd â harddwch a rhyw ac roedd ganddo obsesiwn â delwedd y fenyw fel mantis-mewn-gweddi yn bwyta ei phartner ar ôl paru.[21]

Roedd bara yn ddelwedd greiddiol yng nghelf Dalí, o'i waith cynnar The Basket of Bread i berfformiadau cyhoeddus diweddarach fel ym 1958 pan roddodd ddarlith ym Mharis wedi'i harfogi â baguette 12 metr o hyd.[22] Roedd yn gweld bara fel "sylfaen elfennol parhad" a "chynhaliaeth gysegredig".[23] Mae'n fwy na thebyg mai o'r defnydd o fara yn y cymun y daeth y symbol hwn.

Mae'r wy yn ddelwedd Dalí-aidd gyffredin arall. Mae'n cysylltu'r wy â'r cyn-geni a'r fewngroth, gan ei ddefnyddio felly i symboleiddio gobaith a chariad.[24] Mae'n ymddangos yn Yr Haliwr Mawr, Metamorffosis Narcissus a llawer o weithiau eraill. Mae yna hefyd gerfluniau anferth o wyau mewn gwahanol leoliadau yn nhŷ Dalí ym Mhort Lligat[25] yn ogystal ag yn Theatr-Amgueddfa Dalí yn Figueres.

Roedd Dalí a'i dad yn mwynhau bwyta wrchin y môr, wedi'u dal yn ffres yn y môr ger Cadaqués, Catalwnia. Cyfareddwyd Dali gan gymesuredd reiddiol yr wrchin môr, ac addasodd ei ffurf mewn llawer o'i weithiau celf. Mae bwydydd eraill hefyd yn ymddangos trwy gydol ei waith.[26]

Mae'r "watsis yn toddi" enwog sy'n ymddangos yn Y Cof Tragwyddol yn awgrymu bod amser yn gymharol ac nid yn sefydlog.[27] Yn ddiweddarach honnodd Dalí fod y syniad am glociau sy'n gweithredu'n symbolaidd fel hyn wedi dod ato pan oedd yn ystyried caws Camembert.[28]

Anifeiliaid[golygu | golygu cod]

Mae amryw o anifeiliaid eraill yn ymddangos trwy gydol gwaith Dalí: dehonglwyd bod asynnod a morgrug yn awgrymu marwolaeth a phydredd ac awyddion o awch rhywiol. e'n darlunio corff dynol gyda phen malwen; gwelodd falwen ar feic y tu allan i dŷ Freud pan gyfarfu â Sigmund Freud gyntaf. Symbol yw'r locust o wastraff ac ofn.[24] Mae'r eliffant hefyd yn ddelwedd amlwg yn ei waith; er enghraifft, Breuddwyd a Achoswyd gan Hedfan Gwenyn o amgylch Pomgranad eiliad Cyn Deffro. Mae'r eliffantod wedi'u hysbrydoli gan sylfaen cerfluniau Gian Lorenzo Bernini yn Rhufain o eliffant sy'n cario obelisg hynafol.[29]

Gwyddoniaeth[golygu | golygu cod]

Roedd gan Dali ddiddordeb gydol oes mewn gwyddoniaeth a mathemateg, ac yn aml adlewyrchir hyn yn ei waith. Dehonglwyd ei oriorau (watsis) meddal fel cyfeiriadau at theori Einstein o berthnasedd amser a gofod.[27] Ymddangosodd delweddau o ronynnau atomig yn ei waith yn fuan ar ôl bomio atomig Hiroshima a Nagasaki[30] ac ymddangosodd llinynnau o DNA o ganol y 1950au.[18] Yn 1958 ysgrifennodd yn ei Maniffesto Gwrth-Fater: "Yn y cyfnod Swrealaidd, roeddwn i eisiau creu eiconograffeg y byd mewnol a byd rhyfeddol, fy nhad Freud. Heddiw, mae'r byd allanol a byd ffiseg wedi rhagori ar fyd seicoleg. Fy nhad heddiw yw Dr. Heisenberg."[31][32]

Ymdrechion y tu allan i baentio[golygu | golygu cod]

Roedd Dalí yn arlunydd amryddawn, a throdd ei law at gerflunio a chreu gwrthrychau eraill - gweithiau poblogaidd iawn, ac mae hefyd yn nodedig am ei gyfraniadau i fyd y theatr, ffasiwn a ffotograffiaeth, ymhlith meysydd eraill.

Cerfluniau a gwrthrychau eraill[golygu | golygu cod]

O ddechrau'r 1930au, bu Dalí'n gefnogwr brwd o boblogeiddio 'Gwrthrychau Swrreal' tri-dimensiwn i wyrdroi canfyddiadau o realiti confensiynol, gan ysgrifennu: "bydd amgueddfeydd yn llenwi'n gyflym â gwrthrychau y bydd eu defnydd, eu maint a'u gorlenwi yn gofyn am adeiladu, yn yr anialwch, tyrau arbennig i'w cynnwys." [33]

Ymhlith ei wrthrychau cynnar mwy nodedig mae Bwrdd y Cysylltiadau Gwallgo (1930–31), Penddelw Menyw o'r Gorffennol (1933), Venus de Milo gyda Cist y Droriau (1936) a Siaced Ginio Affrodisaidd (1936). Dau o wrthrychau mwyaf poblogaidd y mudiad Swrealaidd oedd Ffôn Cimwch (1936) a Soffa Gwefusau Mae West (1937) a gomisiynwyd gan y noddwr celf Edward James.[34] Roedd gan gimychiaid a ffonau symbolaeth rhywiol cryf i Dalí a dynnodd gyfatebiaeth agos rhwng bwyd a rhyw.[35] Roedd y ffôn yn swyddogaethol, a phrynodd James bedwar ohonynt gan Dalí i amnewid y ffonau yn ei gartref. Cafodd Soffa Gwefusau Mae West ei lunio i siap gwefusau’r actores Mae West, a oedd gynt yn destun dyfrlliw Dalí (1934–35).[34] Yn Rhagfyr 1936 anfonodd Dalí anrheg Nadolig o delyn gyda llinynnau weiren bigog i Harpo Marx.[36]

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd awdurdododd Dalí lawer o gerfluniau a ddeilliodd o'i weithiau a'i ddelweddau enwocaf. Yn ei flynyddoedd olaf ymddangosodd cerfluniau eraill hefyd, yn aml, llawer iawn ohony nhw, a chwestiynir eu dilysrwydd weithiau.[37]

Rhwng 1941 a 1970, creodd Dalí gsgliad o 39 darn o emwaith, llawer ohonynt yn gywrain, rhai yn cynnwys rhannau symudol. Mae'r casgliad enwocaf, Y Galon Frenhinol, wedi'i wneud o aur a'i orchuddio â 46 rhuddem, 42 diemwnt, a phedwar emrallt, wedi'u creu yn y fath fodd fel bod y canol yn "curo" fel calon.[38]

Mentrodd Dalí i ddylunio diwydiannol yn y 1970au pan grewyd 500 darn o lestri bwrdd Suomi gan Timo Sarpaneva ac a addurnwyd gan Dalí ar gyfer "Studio Linie" gwneuthurwr porslen Rosenthal yr Almaen.[39] Yn 1969 dyluniodd logo Chupa Chups.[40] Hwylusodd ddyluniad yr ymgyrch hysbysebu ar gyfer Cystadleuaeth Cân Eurovision 1969 a chreodd gerflun metel mawr ar y llwyfan a safai yn y Teatro Real ym Madrid.[41][42]

Cloc haul wedi'i baentio gan Dalí, 27 Rue Saint-Jacques, Paris

Theatr a ffilm[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Dalí ymddiddori mewn ffilm pan oedd yn ifanc, gan fynd i'r theatr bron pob dydd Sul.[43] Erbyn diwedd y 1920au roedd wedi ei swyno gan botensial ffilm i ddatgelu "y ffantasi diderfyn a anwyd o bethau eu hunain" [44] ac aeth ymlaen i gydweithio â'r cyfarwyddwr Luis Buñuel ar ddwy ffilm Swreal: y ffilm fer 17 munud Un Chien Andalou (1929) a'r ffilm nodwedd L'Age d'Or (1930). Sgwennodd Dalí a Buñuel y sgript a delweddaeth Un Chien Andalou ar y cyd, ond mae cryn ddadlau ynghylch maint cyfraniad Dalí i L'Age d'Or.[45] Roedd Un Chien Andalou yn cynnwys golygfa agoriadol graffig o belen llygad ddynol yn cael ei thorri â rasel ac yna'n datblygu delweddaeth swreal ac afresymol mewn amser a gofod i gynhyrchu naws freuddwydiol.[46] Mae L'Age d'Or yn fwy gwrth-glerigol a gwrth-sefydliad, ac fe’i gwaharddwyd ar ôl i grwpiau asgell dde brotestio yn y theatr ym Mharis lle roedd yn cael ei ddangos.[47] Gan grynhoi effaith y ddwy ffilm hon ar y mudiad ffilm Swrealaidd, mae un sylwebydd wedi nodi: "Os yw Un Chien Andalou yn sefyll fel y record orau o anturiaethau Swrealaeth i deyrnas yr anymwybod, yna efallai mai L'Âge d'Or yw'r mwyaf miniog o'i fwriad chwyldroadol." [48]

Ar ôl iddo gydweithio â Buñuel, gweithiodd Dalí ar sawl prosiect ffilm heb nas gwireddwyd, gan gynnwys sgript gyhoeddedig ar gyfer y ffilm, Babaouo (1932); senario ar gyfer Harpo Marx o'r enw Giraffes on Horseback Salad (1937); a dilyniant wedi'i adael ar gyfer y ffilm Moontide (1942).[49] Yn 1945 creodd Dalí y dilyniant breuddwydiol Spellbound i Hitchcock, ond nid oedd Dalí na'r cyfarwyddwr yn fodlon â'r canlyniad.[50] Gweithiodd Dalí hefyd gyda Walt Disney a'r animeiddiwr John Hench ar y ffilm fer Destino ym 1946.[51] Ar ôl cael ei gadael heb ei gorffen am rai blynyddoedd, cwblhawyd y ffilm animeiddiedig yn 2003 gan Baker E., a nai Walt Disney, sef E. Disney. Rhwng 1954 a 1961 gweithiodd Dalí gyda'r ffotograffydd Robert Descharnes ar The Prodigious History of the Lacemaker a'r Rhinoceros, ond ni chwblhawyd y ffilm.[52]

Etifeddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae bywyd a gwaith Dalí wedi dylanwadu'n fawr ar gelf bop, ar Swrealwyr eraill, ac ar artistiaid ol-fodern fel Jeff Koons a Damien Hirst.[53][54] Mae wedi cael ei bortreadu ar ffilmiau gan Robert Pattinson yn Little Ashes (2008), a chan Adrien Brody yn Midnight in Paris (2011). Enwir Anialwch Salvador Dalí yn Bolifia a chrater Dalí ar y blaned Mercher ar ei ôl.[55][56]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Phelan, Joseph, ',The Salvador Dalí Show". Artcyclopedia.com. Cyrchwyd August 22, 2010.
  2. Dalí, Salvador. (2000) Dalí: 16 Art Stickers, Courier Dover Publications. ISBN 0-486-41074-9.
  3. Birth certificate and "Dalí Biography". Dalí Museum. Dalí Museum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-27. Cyrchwyd August 24, 2008.
  4. Rojas, Carlos. Salvador Dalí, Or the Art of Spitting on Your Mother's Portrait, Penn State Press (1993). ISBN 0-271-00842-3.
  5. http://www.theguardian.com/uk/2007/oct/28/spain.books
  6. Etherington -Smith Meredith La persistència de la memòria: Una Biografia de Dalí, 1995 Da Capo Press, ISBN 0-306-80662-2
  7. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-07. Cyrchwyd 2014-09-05.
  8. http://translate.google.co.uk/translate?hl=cy&sl=en&tl=cy&u=http%3A%2F%2Fwww.abcgallery.com%2FD%2Fdali%2Fdalibio.html&anno=2
  9. Hodge, Nicola, and Libby Anson. The A–Z of Art: The World's Greatest and Most Popular Artists and Their Works. California: Thunder Bay Press, 1996. Online citation Archifwyd 2006-09-21 yn y Peiriant Wayback..
  10. Koller, Michael. [https://web.archive.org/web/20101225061923/http://archive.sensesofcinema.com/contents/cteq/01/12/chien.html Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback. Un Chien Andalou]. senses of cinema Ionawr 2001. Retrieved on Gorffennaf 26, 2006.
  11. Gibson, Ian (1997). The Shameful Life of Salvador Dalí. London: Faber and Faber. tt. 238–9. ISBN 0-571-19380-3.
  12. Luis Buñuel, My Last Sigh: The Autobiography of Luis Buñuel (Vintage, 1984) ISBN 0-8166-4387-3
  13. Liukkonen, Petri. "Federico García Lorca". Books and Writers (kirjasto.sci.fi). Finland: Kuusankoski Public Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Chwefror 2015.
  14. Gibson, Ian (1997) pp. 385, 398–99
  15. "Past Exhibitions". Haggerty Museum of Art. Marquette University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Medi 2006. Cyrchwyd 8 Awst 2006.
  16. Gibson, Ian (1997), pp. 431–43
  17. Elliott H. King in Dawn Ades (ed.), Dalí, Bompiani Arte, Milan, 2004, p. 456.
  18. 18.0 18.1 Gibson, Ian (1997) p. 478
  19. Gibson, Ian (1997) pp. 207–08
  20. Gibson, Ian (1997), p. 478
  21. Gibson, Ian (1997), p. 312
  22. Pine, Julia (1 Ionawr 2010). "Breaking Dalinian Bread". InVisible Culture. Cyrchwyd 3 April 2020.
  23. Dalí, Salvador (1993). The Secret Life of Salvador Dalí. New York: Dover Publications. t. 306. ISBN 978-0-486-27454-6.
  24. 24.0 24.1 "Salvador Dalí's symbolism". County Hall Gallery. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 December 2006. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2006.
  25. Stone, Peter (7 Mai 2007). Frommer's Barcelona (arg. 2nd). Wiley Publishing Inc. t. 284. ISBN 978-0-470-09692-5. Cyrchwyd 23 Mawrth 2017.
  26. "Salvador Dalí: Liquid Desire". ngv.vic.gov.au. Cyrchwyd 14 Chwefror 2015.
  27. 27.0 27.1 Salvador Dalí, La Conquête de l'irrationnel (Paris: Éditions surréalistes, 1935), p. 25.
  28. Salvador Dalí, The Secret Life of Salvador Dalí (New York: Dial Press, 1942), p. 317.
  29. Michael Taylor in Dawn Adès (ed.), Dalí (Milan: Bompiani, 2004), p. 342
  30. Gibson, Ian (1997) pp. 433–34
  31. Datta, Suman. "Dalí: Explorations into the domain of science". The Triangle Online. College Publisher. t. 1. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 December 2010. Cyrchwyd 8 Awst 2006.
  32. Salvador Dalí, "Anti-Matter Manifesto," Carstairs Gallery, New York, December 1958 – Ionawr 1959, quoted in Elliott H. King, ‘Nuclear mysticism’, Salvador Dalí: Liquid Desire, National Gallery of Victoria, Melbourne, 2009, p. 247.
  33. Gibson, Ian (1997), pp. 289–93
  34. 34.0 34.1 Lobster telephone Archifwyd 2021-07-23 yn y Peiriant Wayback.. National Gallery of Australia. Retrieved on 4 Awst 2006.
  35. Tate Collection | Lobster Telephone by Salvador Dalí. Tate Online. Retrieved on 4 Awst 2006.
  36. Gibson, Ian (1997), p. 370
  37. Peterson, Than (1 December 2008). "The Dali Sculpture Mess". Art News. Cyrchwyd 2 April 2020.
  38. Owen Cheatham Foundation. Dalí, a study of his art-in-jewels: the collection of the Owen Cheatham Foundation. New York: New York Graphic Society. 1959. p. 14.
  39. "Faenza-Goldmedaille für SUOMI". Artis 29: 8. 1976. ISSN 0004-3842.
  40. H. Vázquez, Carlos (2 Gorffennaf 2015). "Cuando Dalí reinventó Chupa Chups" (yn es). Forbes. http://forbes.es/business/7188/cuando-dali-reinvento-chupa-chups/. Adalwyd 17 Mawrth 2018.
  41. Calandria, Juan (29 Mawrth 2017). "Madrid acoge el festival de Eurovisión de 1969" (yn es). Eurovision Planet. http://eurovisionplanet.com/madrid-acoge-el-festival-de-eurovision-de-1969. Adalwyd 17 Mawrth 2018.
  42. Jacques (26 April 2009). "40 años de Eurovisión 1969 – Segunda parte: Canciones 1–5" (yn es). Ole Vision. http://olevision.com/2009/04/40-anos-de-eurovision-1969-segunda-parte-canciones-1-5/. Adalwyd 17 Mawrth 2018.
  43. "Dalí & Film" Edt. Gale, Matthew. Salvador Dalí Museum Inc. St Petersburg, Florida. 2007.
  44. Gibson, Ian (1997) p. 174
  45. Gibson, Ian (1997) pp. 248–49
  46. Eberwein, Robert T. (2014). Film and the Dream Screen: A Sleep and a Forgetting. Princeton University Press. p. 83. ISBN 1-4008-5389-3.
  47. Gibson, Ian (1997), pp. 267–74
  48. Short, Robert. "The Age of Gold: Surrealist Cinema, Persistence of Vision" Vol. 3, 2002.
  49. "Dali: Painting and Film," Press release, Museum of Modern Art, Mehefin 2008
  50. Gibson, Ian (1997) pp. 434–35
  51. Gibson, Ian (1997) pp. 436–38
  52. Gibson, Ian (1997) p. 479
  53. Koons, Jeff (March 2005). "Who Paints Bread Better than Dali". Cyrchwyd 1 April 2020.
  54. "Salvador Dalí's iconic Lobster Telephone acquired by National Galleries of Scotland". National Galleries Scotland. 17 December 2018. Cyrchwyd 20 Mai 2020.
  55. "La Reserva Nacional de Fauna Andina Eduardo Avaroa cumple 47 años de creación". Servicio Nacional de Áreas Protegidas. 13 December 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-12-10. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2021.
  56. "Dali". Gazetteer of Planetary Nomenclature. NASA. Cyrchwyd 30 Mehefin 2012.