Hokusai
Hokusai | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
31 Hydref 1760 ![]() Honjo ![]() |
Bu farw |
10 Mai 1849 ![]() Asakusa ![]() |
Man preswyl |
Uraga ![]() |
Dinasyddiaeth |
Japan ![]() |
Galwedigaeth |
arlunydd, cymynwr coed, darlunydd, ukiyo-e artist, arlunydd ![]() |
Blodeuodd |
1808 ![]() |
Adnabyddus am |
36 Golygfa ar Fynydd Fuji, Breuddwyd Gwraig y Pysgotwr, Hokusai Manga, Q28016726, A Tour of the Waterfalls of the Provinces, Oceans of Wisdom, Q24862612, Great Daruma ![]() |
Arddull |
ukiyo-e, portread ![]() |
Mudiad |
japonism, Kasei culture ![]() |
Plant |
Katsushika Ōi, Katsushika Tatsujo ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Roedd Katsushika Hokusai, (葛飾北斎) (1760 – 18 Ebrill 1849) yn un o arlunwyr ukiyo-e amlycaf y Cyfnod Edo yn Japan. Fe'i ystyrir yn un o feistri mawr yr ysgol arlunio Ukiyo-e.
Ganed ef yn Edo (yn awr Tokyo); ei enw pan yn blentyn oedd Tokitarō. Yn 14 oed aeth yn brentis i gerfiwr coed, yna yn 18 oed daeth yn ddisgybl yn stiwdio Katsukawa Shunshō, pennaeth Ysgol Katsukawa.
Bu Hokusai yn gweithio fel arlunydd am gyfnod hir, ond cynhyrchodd ei waith gorau wedi iddo basio 60 oed. Ei waith enwocaf yw'r gyfres ukiyo-e 36 Golygfa ar Fynydd Fuji (富嶽三十六景 Fugaku Sanjūrokkei), a greodd rhwng 1826 a 1833. Mae'n cynnwys llun enwocaf Hokusai, Y Don Fawr ger Kanagawa, un o'r lluniau mwyaf adnabyddus yn y byd. Roedd Mynydd Fuji yn ymddangos yn gyson yn ei luniau.
Un o'i weithiau erotig enwocaf yw'r darlun Breuddwyd Gwraig y Pysgotwr, sy'n perthyn i'r arddull shunga.