Gwyddorau naturiol
Ystyr traddodiadol gwyddorau naturiol[1] yw astudiaeth o agweddau di-ddynol y byd. Fel casgliad, gwahaniaethwyd y gwyddorau naturiol oddi wrth diwinyddiaeth a gwyddorau cymdeithas ar un llaw, a'r celfyddydau a dyniaethau ar y llaw arall. Nid yw mathemateg ar ben ei hun yn wyddor naturiol, ond mae yn darparu nifer o dullau craidd iddynt. Mae gwyddorau naturiol yn ymgeisio i esbonio gweithiant y byd ar sail prosesau naturiol yn hytrach na phrosesau dwyfol. Hefyd, defnyddir y term gwyddoniaeth neu wyddor naturiol ar gyfer nodi "gwyddoniaeth" fel disgyblaeth sy'n dilyn y dull gwyddonol.
Is-ddosbarthiad y gwyddorau naturiol
[golygu | golygu cod]| Bioleg Yr astudiaeth o fywyd yw beioleg (neu weithiau "bywydeg"). Mae'n delio â nodweddion, dosbarthiad, ac ymddygiad organebau, sut mae rhywogaethau'n dod i fodolaeth a'r berthynas sydd ganddynt efo'i gilydd ac efo'r amgylchedd. |
Cemeg Astudiaeth mater yw Cemeg (Groeg: χημεία), sy'n ymwneud â strwythur a nodweddion cemegau, ynghyd â thrawsnewidiadau ar lefel atomig. | ||
| Ecoleg Astudiaeth o'r berthynas rhwng organebau a'u hamgylchedd yw Ecoleg (Groeg: oikos yw tŷ a logos ydy gwyddoniaeth). Mae esblygiad ac ecosystem yn dermau perthnasol. |
Ffiseg Mae ffiseg (o'r Groeg "φυσικός", naturiol, a "φύσις", natur) yn gainc o'r astudiaeth wyddonol o fyd natur. Amcan ffiseg yw canfod y deddfau sylfaenol sy'n llywodraethu mater, ynni, gofod ac amser. | ||
| Gwyddorau Daear Mae Gwyddorau daear yn cynnwys pob math o astudiaeth o'r Ddaear gan gynnwys astudiaeth cerrig a chramen y Ddaear, sef Daeareg, astudiaeth dŵr, sef Hydroleg, yr hinsawdd a'r tywydd, sef Meteoroleg. |
Seryddiaeth Astudiaeth wyddonol o'r bydysawd yw Seryddiaeth, gan gynnwys y sêr, Cysawd yr Haul a'r planedau. Mae'n cynnwys arsylwi ac egluro digwyddiadau a tharddiad a datblygiad gwrthrychau ynghyd a'u priodoleddau ffisegol a chemegol. |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "gwyddorau naturiol", BydTermCymru (Llywodraeth Cymru). Adalwyd ar 27 Ionawr 2026.
Bywydeg · Cemeg · Ecoleg · Ffiseg · Gwyddorau daear · Seryddiaeth