Neidio i'r cynnwys

Mari, brenhines yr Alban

Oddi ar Wicipedia
Mari, brenhines yr Alban
Ganwyd8 Rhagfyr 1542 Edit this on Wikidata
Palas Linlithgow Edit this on Wikidata
Bu farw8 Chwefror 1587 Edit this on Wikidata
Castell Fotheringhay, Swydd Northampton Edit this on Wikidata
Man preswylYr Alban, Castell Fotheringhay, Castell Chartley, Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas yr Alban Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, brenin neu frenhines, pendefig, brenhines cyflawn, brenhines gydweddog Edit this on Wikidata
Swyddteyrn yr Alban, Consort of France Edit this on Wikidata
Adnabyddus amOxburgh Hangings Edit this on Wikidata
TadIago V, brenin yr Alban Edit this on Wikidata
MamMary o Lorraine Edit this on Wikidata
PriodFfransis II, brenin Ffrainc, Henry Stuart, James Hepburn Edit this on Wikidata
PlantIago VI yr Alban a I Lloegr, marwanedig Hepburn (efaill 1), marwanedig Hepburn (efaill 2) Edit this on Wikidata
PerthnasauHarri VIII, Rupert, tywysog y Rhein, Marged Tudur Edit this on Wikidata
Llinachy Stiwartiaid Edit this on Wikidata
Gwobr/auRhosyn Aur Edit this on Wikidata
llofnod

Brenhines yr Alban rhwng 14 Rhagfyr 1542 a 24 Gorffennaf 1567 oedd Mari I (hefyd Mari Stewart neu, yn Saesneg, Mary Queen of Scots) (8 Rhagfyr 15428 Chwefror 1587).[1]

Mari oedd unig etifedd cyfreithlon byw y Brenin Iago V o’r Alban. Dim ond chwe diwrnod oed oedd hi pan fu farw ei thad, ac olynwyd ef gan Mari'r baban. Treuliodd llawer o’i phlentyndod yn Ffrainc tra'r oedd yr Alban yn cael ei rheoli gan raglywiaeth, ac yn 1558 priododd etifedd coron Ffrainc, Francis.[2][3] Mari oedd Brenhines Gydweddog Ffrainc pan ddaeth Francis i’r orsedd yn 1559 tan ei farwolaeth yn Rhagfyr 1560. A hithau bellach yn weddw ifanc, dychwelodd Mari i’r Alban, gan gyrraedd Leith ar 19 Awst 1561.[4] Bedair blynedd yn ddiweddarach, priododd ei hanner cefnder, Henry Stuart, Arglwydd Darnley, ac ym Mehefin 1566 ganwyd mab iddynt o'r enw Iago.[5]

Yn Chwefror 1567, dinistriwyd tŷ Darnley gan ffrwydrad a darganfuwyd Darnley wedi ei lofruddio yn yr ardd. Y gred gyffredinol oedd mai James Hepburn, 4ydd Iarll Bothwell, oedd wedi trefnu marwolaeth Darnley, a chafwyd ef yn euog o’r cyhuddiadau yn Ebrill 1567. Fis yn ddiweddarach priododd ef a Mari. Denodd y briodas lawer o feirniadaeth a arweiniodd at wrthryfel yn erbyn y ddau, gyda Mari yn cael ei charcharu yng Nghastell Loch Leven.[6] Ar 24 Gorffennaf 1567 gorfodwyd hi i ymwrthod â’r goron er mwyn paratoi’r ffordd ar gyfer esgyniad ei mab i orsedd yr Alban. Wedi ymdrech aflwyddiannus i ail-gipio’r goron, gorfodwyd hi i ffoi i gyfeiriad y de, gan ofyn am loches gan ei chyfnither gyntaf, y Frenhines Elisabeth I, yn Lloegr.

Roedd Mari a’i chefnogwyr wedi honni ar un adeg mai ganddi hi oedd yr hawl i etifeddu gorsedd Elisabeth, ac ystyriwyd hi gan lawer o Gatholigion yn Lloegr fel etifedd cyfreithlon Lloegr. Hynny oedd y rheswm dros Wrthryfel y Gogledd yn 1569. Ystyriwyd Mari gan Elisabeth fel bygythiad i’w sefydlogrwydd ar orsedd Lloegr, ac oherwydd hynny, symudwyd Mari yn rheolaidd rhwng gwahanol gestyll a phlastai yn Lloegr er mwyn sicrhau nad oedd yn dod yn ganolbwynt neu’n ffocws cynllwyn neu wrthryfel yn erbyn Elisabeth.[7] Wedi treulio deunaw mlynedd wedi ei charcharu, cafwyd Mari yn euog o gynllwyn i lofruddio Elisabeth yn 1586, a dienyddiwyd hi yng Nghastell Fotheringay ym mis Chwefror 1587.[8]

Priodasau

[golygu | golygu cod]
  1. Y brenin Ffransis II, brenin Ffrainc (24 Ebrill 15585 Rhagfyr 1560)
  2. Harri Stuart, Arglwydd Darnley (29 Gorffennaf 156510 Chwefror 1567)
  3. James Hepburn, 4ydd Iarll Bothwell (15 Mai 156714 Ebrill 1578)

Darluniau diwylliannol

[golygu | golygu cod]

Llyfrau

[golygu | golygu cod]

Ffuglen

[golygu | golygu cod]

Cofiant

[golygu | golygu cod]

Barddoniaeth

[golygu | golygu cod]

Ffilmiau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Fraser, Antonia, 1932-. Mary, Queen of Scots. London. ISBN 0-297-17773-7. OCLC 28698.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  2. Fraser, Antonia, 1932-. Mary, Queen of Scots. London. tt. 31–32. ISBN 0-297-17773-7. OCLC 28698.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  3. Relations politiques de la France et de l'Espagne avec l'Écosse au XVIe siècle : papiers d'état, pièces et documents inédits ou peu connus tirés des bibliothèques et des archives de France: Correspondances françaises 1515-1560 (François Ier, Henri II (yn Ffrangeg). Renouard. 1862.
  4. Guy, J. A. (John Alexander) (2004). My heart is my own : the life of Mary Queen of Scots. London: Fourth Estate. t. 134. ISBN 1-84115-752-X. OCLC 53389141.
  5. Wormald, Jenny. (1988). Mary Queen of Scots : a study in failure. London: G. Philip. ISBN 0-540-01131-2. OCLC 18292524.
  6. Guy, J. A. (John Alexander) (2004). My heart is my own : the life of Mary Queen of Scots. London: Fourth Estate. t. 351. ISBN 1-84115-752-X. OCLC 53389141.
  7. Guy, J. A. (John Alexander) (2004). My heart is my own : the life of Mary Queen of Scots. London: Fourth Estate. tt. 368–369. ISBN 1-84115-752-X. OCLC 53389141.
  8. Guy, J. A. (John Alexander) (2004). My heart is my own : the life of Mary Queen of Scots. London: Fourth Estate. t. 4. ISBN 1-84115-752-X. OCLC 53389141.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Rhagflaenydd:
Iago V
Brenhines yr Alban
14 Rhagfyr 154224 Gorffennaf 1567
Olynydd:
Iago VI
Baner yr AlbanEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Albanwr neu Albanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.