Rhisiart III, brenin Lloegr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Rhisiart III)
Rhisiart III, brenin Lloegr
Ganwyd2 Hydref 1452 Edit this on Wikidata
Castell Fotheringhay Edit this on Wikidata
Bu farw22 Awst 1485 Edit this on Wikidata
o lladdwyd mewn brwydr Edit this on Wikidata
Bosworth Field site Edit this on Wikidata
Swyddteyrn Lloegr, Dug Caerloyw, Arglwydd Iwerddon Edit this on Wikidata
TadRichard o York, 3ydd dug York Edit this on Wikidata
MamCecily Neville, duges Efrog Edit this on Wikidata
PriodAnne Neville Edit this on Wikidata
PlantEdward o Middleham, John o Gaerloyw, Richard Plantagenet, Catherine Plantagenet Edit this on Wikidata
PerthnasauBenedict Cumberbatch Edit this on Wikidata
LlinachIorciaid Edit this on Wikidata
llofnod

Rhisiart III (2 Hydref 145222 Awst 1485) oedd brenin Lloegr o 6 Gorffennaf 1483, hyd ei farwolaeth ar faes y gad ym Mrwydr Bosworth a hynny gan Rhys ap Thomas yn ôl y bardd Guto'r Glyn, pan ddywedodd: "Lladd y baedd, eilliodd ei ben".[1]

Beddrod Rhisiart III yn Eglwys Gadeiriol Caerlŷr

Fe'i ganwyd yng Nghastell Fotheringay, yn fab i Rhisiart Plantagenet, Dug Efrog (1411–1460) a'i wraig Cecily Neville.

Rhisiart oedd brawdd y brenin Edward IV, brenin Lloegr, Siôr, Dug Clarens a Marged, Duges Bwrgwyn. Cafodd ei ladd ar Faes Bosworth ar 22 Awst 1485 a chipiodd Harri Tudur Goron Lloegr. Yn ôl Jean Molinet o Fwrgwyn, ataliwyd ceffyl Richard gan gors, cafodd ei dowly neu ei fwrw o'i geffyl 'a'i ladd gan filwyr o Gymru'.

Cipio'r awenau[golygu | golygu cod]

Pan farwodd ei frawd, Edward IV, o strôc, roedd eisoes wedi cyfarwyddo yn ei ewyllus y dylai ei frawd Richard lywodraethu ar ran ei fab Edward fel 'Arglwydd Amddiffynnydd'. Ond cipiodd Richard yr awenau oddi wrth y bachgen 12-mlwydd-oed gyda 20,000 o'i filwyr wedi teithio i Lundain o Ogledd Lloegr. Gwnaeth hyn drwy gyhoeddi fod priodas Edward IV ac Elizabeth Woodville yn anghyfreithiol, ac felly nad oedd hawl cyfreithiol gan Edward i ael ei goroni. Flynyddoedd ynghynt roedd Edward IV wedi dychryn pawb drwy briodi Elizabeth - un o deulu cyffredin, yn hytrach nag o dras uchelwrol. Rhoddwyd cyfoeth a swyddi bras i lawer o deulu'r Woodvilles, gan ffyrnigo llawer. Pan ddaeth Richard i Lundain fel Arglwydd Amddiffynnydd, dechreuodd erlyn rai o'r teulu a ffôdd Syr Edward Woodville i Lydaw gyda £10,250, gan geisio Siasbar Tudur a Harri VII fel cyd-gynllwynwyr ymosodiad potensial ar Goron Lloegr.

Un o'r newidiadau cyntaf a wnaeth Richard, ychydig cyn ei goroni oedd penodi Buckingham yn Brif Ustus ar Gymru ac yn Gwnastabl a Stiward ar 53 o gestyll Cymru.[2]. Roeddent yn fygythiad i Richard, wrth gwrs

Lladd y ddau blentyn yn Nhŵr Llundain[golygu | golygu cod]

Ar ddiwrnod ei goroni, chwarae ar lawnt y Tŵr oedd y ddau blentyn: Edward a Rhisiart, dug Efrog, plant Edward V. Roedd y mab hynaf, Edward V, wedi bod yn frenin, mewn enw, am 86 diwrnod. Diflanodd y ddau o'r Tŵr ac mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn beio eu hewyrth Richard.[3] Yn ôl Thomas More, cawsant eu mygu gyda chlustog; yn ôl Shakespeare, yn ei ddrama 'Richard III', gwneir hynny gan Tyrrell ar orchymyn Richard III.

Roeddent y ddau, wrth gwrs, yn fygythiad i barhad cais Richard am Orsedd Lloegr.

Darganfod ei ysgerbwd[golygu | golygu cod]

Ar 12 Medi 2012 cafwyd hyd i'w weddillion o dan maes parcio ceir lle gynt y safodd Abaty Greyfriars yng Nghaerlŷr gan archeolegwyr o Brifysgol Caerlŷr ac eraill.[4] Roedd nam ar yr asgwrn cefn – a blygai ar siap pladur a olygai i'r person fod wedi dioddef o scoliosis; golyga hyn fod ysgwydd dde'r person hefyd yn uwch na'r ysgwydd chwith. Profodd profion DNA a dyddio carbon mai hwn oedd ysgerbwd Rhisiart. Mae oed y sgerbwd – a gredir i fod yn sgerbwd dyn rhwng 30 a 33 oed – hefyd yn ffitio'r patrwm gan mai 32 oedd oed Richard yn marw.

Gwayw-fwyell (neu halberd) a thrawiad gan gleddyf a'i lladdodd, ac mae hyn yn cadarnhau disgrifiad Guto'r Glyn i Rhys 'siafio'i ben'. Roedd gwaelod y penglog wedi'i hacio i ffwrdd gan y wayw-fwyell gan dreiddio sawl centimetr i mewn i'r ymenydd; golyga hyn y byddai Richard wedi'i fwrw'n anymwybodol ar unwaith, gan farw ychydig wedyn. Roedd anafiadau eraill i'w gweld yn y penglog a mannau eraill, nifer ohonynt gan gleddyfau a chyllyll.

Cariwyd ei gorff noeth o faes y gad ar gefn ceffyl ac yna'i arddangos yn Abaty Greyfriars. Dywedodd yr Osteoarchaeolegwr Dr Jo Appleby fod ôl crafiad gan gleddyf ar ganol y clun, yn union o dan llinell yr asgwr cefn, a'i fod wedi'i wneud ar ôl tynnu'r arfwisg oddi amdano. Mae'n bosib felly, meddai, i hyn ddigwydd pan oedd y corff wedi'i osod ar y ceffyl fel rhan o'r dathliadau - gwthio cleddyf i fyny tin y brenin.[5]

Gwraig[golygu | golygu cod]

Plant[golygu | golygu cod]

Rhagflaenydd:
Edward V
Brenin Loegr
6 Gorffennaf 148322 Awst 1485
Olynydd:
Harri VII

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Griffith, Ralph, Sir Rhys ap Thomas and his family: a study in the Wars of the Roses and early Tudor politics, University of Wales Press, 1993, tud.43. Gweler hefyd: guto'r glyn.net
  2. Bosworth gan Chris Skidmore; Gwasg Phoenix (2013); tudalen 123.
  3. (Saesneg) Horrox, Rosemary. "Edward V (1470–1483)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/8521.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  4. Gwefan englishmonarchs.com; adalwyd 24 Hydref 2013.
  5. Gwefan Google Books; The King's Grave: The Search for Richard III gan Philippa Langley a Michael Jones; adalwyd 24 Hydref 2013