Neidio i'r cynnwys

William Byrd

Oddi ar Wicipedia
William Byrd
Engrafiad o William Byrd gan Gerard Vandergucht (18g).
Ganwyd1543 Edit this on Wikidata
Swydd Lincoln, Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw4 Gorffennaf 1623 Edit this on Wikidata
Stondon Massey, Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, organydd Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
llofnod

Cyfansoddwr o Loegr yng nghyfnod y Dadeni oedd William Byrd (oddeutu 1539/40 – 4 Gorffennaf 1623). Defnyddiodd llawer o ffurfiau cerddorol a ddefnyddir yn Lloegr yn y cyfnod hwnnw, yn gynnwys poliffoni eglwysig a seciwlar, cerddoriaeth i offerynnau allweddell (yn nodedig y firdsinal), a cherddoriaeth gonsort. Cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer nid yn unig yr Eglwys Anglicanaidd ond hefyd yr Eglwys Gatholig Rufeinig.

Mae'n debyg iddo gael ei eni yn Llundain, ac astudiodd dan arweiniad Thomas Tallis. Fe'i penodwyd yn organydd Eglwys Gadeiriol Lincoln ym 1563, ac ym 1572 dychwelodd i Lundain yn un o wŷr y Capel Brenhinol, yn organydd ar y cyd â'i hen fentor Tallis yn llys y Frenhines Elisabeth I. Derbyniodd y ddau ddyn fraint oddi ar Elisabeth ym 1575 i fewnforio, cyhoeddi, a gwerthu cerddoriaeth ac i argraffu papur erwydd. Casgliad o ganeuon wedi eu cysegru i'r frenhines yw Cantiones sacrae (1575), y gwaith cyntaf gydag argraffnod Tallis a Byrd, sy'n cynnwys 18 o fotetau gan Byrd.

Pabydd ffyddlon oedd Byrd, ac ym 1577 symudodd gyda'i deulu i Harlington, Middlesex, o bosib i osgoi gael ei erlid am reciwsantiaeth. Yn sgil marwolaeth Tallis ym 1585, aeth Byrd ati i gasglu a chyhoeddi cerddoriaeth seciwlar ei hun, Psalmes, Sonets, & Songs of Sadnes and Pietie (1588), Songs of Sundrie Natures (1589), yn ogystal â dwy gyfrol arall o Cantiones sacrae (1589 a 1591). Cyflwynwyd cyfrol arall o gerddoriaeth Byrd i "Ladye Nevell", gwraig y llyswr Syr Henry Neville mae'n debyg, ym 1591. Ceir rhagor o'i gyfansoddiadau ar gyfer allweddellau yn Llyfr Firdsinal Fitzwilliam, sy'n dyddio o ddechrau'r 17g.

Oddeutu 1593, symudodd Byrd a'i deulu i Stondon Massey, Essex, ac yno y bu am weddill ei oes. Yn ystod teyrnasiad Iago I, manteisiodd Byrd ar oddefiad y drefn newydd i arddel ei Gatholigiaeth yn ei waith. Cyhoeddodd dair offeren, a rhagor o gerddoriaeth eglwysig mewn dwy gyfrol (Gradualia, 1605 a 1607). Ei gyhoeddiad olaf oedd Psalmes, Songs and Sonnets (1611).[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) William Byrd. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Gorffennaf 2025.
Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth y Dadeni. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.