Thomas Bulkeley, Is-iarll 1af Bulkeley
Gwedd
| Thomas Bulkeley, Is-iarll 1af Bulkeley | |
|---|---|
| Ganwyd | 10 Awst 1585 |
| Bu farw | 1659 |
| Man preswyl | Bryn y Barwn |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Siryf Sir Fôn |
| Tad | Richard Bulkeley (bu farw 1621) |
| Mam | Mary Burgh |
| Priod | Blanche Coytmore |
| Plant | Henry Bulkeley, Richard Bulkeley, Robert Bulkeley, Thomas Bulkeley, Mary Cashel, Penelope Bulkeley, Katherine Bulkeley, Lumley ferch Thomas Bulkeley |
Aelod o deulu Bulkeley, Baron Hill, Ynys Môn oedd Thomas Bulkeley, Is-iarll 1af Bulkeley (10 Awst 1585 – 1659). Roedd yn fab i Syr Richard Bulkeley.[1]
Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, roedd Thomas Bulkeley yn gryf o blaid y brenin Siarl I, gan wasanaethu fel Cyrnol yn y fyddin frehninol. Yn 1644, urddwyd ef yn Is-iarll Bulkeley o Cashel. Lladdwyd ei fab hynaf, Richard Bulkeley, gan Thomas Cheadle mewn gornest ar Draeth Lafan yn 1649, ac ar farwolaeth Thomas, etifeddwyd y stad a'r Is-iarllaeth gan ei ail fab, Robert Bulkeley.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Thomas Nicholas (1872). Annals and Antiquities of the Counties and County Families of Wales: Containing a Record of All Ranks of the Gentry ... (yn Saesneg). Longmans, Green, Reader. t. 39.